
Mae ein pedwerydd adroddiad blynyddol yn ganolfan ymchwil sy’n cael ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n barod i’w ddarllen
Mae’r adroddiad yn ymdrin â chyfnod hynod gynhyrchiol ar gyfer DECIPHer ac mae’n cynnwys:
- Y genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil yn DECIPHer yn rhannu eu profiadau datblygu gyrfa
- Astudiaethau DECIPHer o dan sylw
- Datblygu cydweithrediadau, gan gynnwys cysylltiadau byd-eang
- Metrigau craidd
- Effeithiau ar y boblogaeth
- Diweddariadau SHRN ac ALPHA
- Golwg yn ôl ar gyrsiau byr
Dywedodd Simon Murphy, Cyfarwyddwr DECIPHer:

‘Mae cyhoeddi adroddiad blynyddol newydd DECIPHer yn amlygu canolfan sydd ar flaen y gad o ran ymchwil ym maes gwella iechyd y cyhoedd ac sy’n parhau i ddatblygu ei henw a’i statws rhyngwladol. Rydyn ni’n parhau i ymgysylltu’n llwyddiannus â’n polisïau, ein hymarfer a’n cymunedau cyhoeddus i gynhyrchu ymchwil ragorol sy’n cael effaith go iawn.
‘Hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod gwaith caled ac ymroddiad holl staff DECIPHer a dangos ein gwerthfawrogiad i’n holl bartneriaid yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.‘
Darllenwch yr adroddiad trwy glicio isod. Mae modd darllen adroddiadau blynyddol blaenorol ar ein tudalen cyhoeddiadau.
