
Ionawr 2025 oedd cyfarfod diwethaf Bwrdd Cynghori Gwyddonol y DECIPHer ac roedd yn gyfle i fyfyrio a chael adborth.
Mae’r Bwrdd Cynghori Gwyddonol (SAB) wedi cyfarfod bob blwyddyn ers 2020 a dechrau cyllid DECIPHer gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Dan gadeiryddiaeth yr Athro Ashley Adamson, pwrpas y SAB yw darparu adolygiadau allanol annibynnol, cyngor a chefnogaeth i Dîm Gweithredol DECIPHer ar weithrediad, datblygiad strategol a chefnogaeth sefydliadol DECIPHer. Ym mis Ebrill 2025, pan fydd DECIPHer yn dechrau cyfnod newydd o gyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, bydd y SAB yn parhau i ddiweddaru ei aelodaeth a’i flaenoriaethau.
Roedd cyfarfod eleni yn gyfle i aelodau edrych yn ôl ar gyflawniadau DECIPHer dros y pum mlynedd diwethaf. Dywedodd Simon Murphy, Cyfarwyddwr DECIPHer:
‘Ar ran DECIPHer, hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i aelodau ein Bwrdd Cynghori Gwyddonol am y cyngor a’r arweiniad anhygoel y maent wedi’u darparu dros y pum mlynedd diwethaf. Mae eu harolygiaeth annibynnol o’n gwaith wedi ein helpu i ddatblygu fel canolfan yn ogystal â rhoi cyfle i fyfyrio ar ein safle a’n cyfraniad yng ngolwg ein cyfoedion.’

Meddai’r Athro Ashley Adamson, Uwch-ymchwilydd NIHR; Cyfarwyddwr Ysgol Ymchwil Iechyd y Cyhoedd: ‘Mae wedi bod yn gyfle gwych i fod yn rhan o SAB. Er gwaethaf newidiadau mewn llywodraethau, strategaethau a ffocws, mae DECIPHer yn parhau’n gyson. Mae ganddi enw rhagorol am weithio gyda phlant a phobl ifanc a dylid cynnal hyn. Mae DECIPHer wedi gadael effaith a fydd yn parhau yn y pum mlynedd nesaf a thu hwnt.‘
Meddai Doctor Michael Clark, Rheolwr Rhaglen Ymchwil, Ysgol NIHR ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol; Cymrawd Ymchwil Athrawol Gysylltiol, Canolfan Polisi a Gwerthuso Gofal, Ysgol Economeg Llundain:
‘Mae’n amgylchedd anodd a chythryblus ar hyn o bryd, ond mae DECIPHer wedi meithrin perthnasoedd cadarnhaol ag eraill gan gynnwys prifysgolion, Llywodraeth Cymru ac ymchwilwyr rhyngwladol. Mae capasiti wedi datblygu dros y pum mlynedd diwethaf ac mae DECIPHer wedi meithrin perthnasoedd o amgylch hyn. Diolch i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru am gydnabod y gwaith y mae DECIPHer yn ei wneud, ac yn parhau i’w wneud.‘


Meddai’r Athro Eva Rehfuess, Cadeirydd Ymchwil Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Iechyd, LMU Munich: ‘Hoffwn dynnu sylw at lwyddiant DECIPHer o ran dilyniant gyrfaol – dechreuodd ymchwilwyr fel yr Athro Graham Moore, Doctor Honor Young a’r Athro Rhiannon Evans i gyd fel ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn DECIPHer. Wrth symud ymlaen, hoffwn weld DECIPHer yn meithrin y berthynas hon ac yn hyfforddi ar lefel ryngwladol.’
Meddai’r Athro Frank Kee, Athro Clinigol, Ysgol Meddygaeth, Deintyddiaeth a Gwyddorau Biofeddygol, Canolfan Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol y Frenhines: ‘Mae PHIRST Insight [cydweithrediad â Phrifysgol Bryste a rhan o Dimau Astudiaethau Ymatebol i Ymyrraeth Iechyd y Cyhoedd NIHR] wedi cael effaith fawr ym meysydd meithrin sgiliau, ffyrdd o feddwl a pherthnasoedd. Roedd darganfod cydbwysedd mewn gwahanol ganolfannau yn gweithio fel sylfaen gyffredinol, tra bod gweithio gydag ymarferwyr yn helpu i newid y diwylliant.’
‘


Dywedodd Doctor Sumina Azam, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru: ‘Mae iechyd y cyhoedd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi elwa o’r gwaith a wnaed yn DECIPHer. Mae gwaith ymchwil DECIPHer wedi dangos sut mae’n bosibl defnyddio dulliau ymchwil i fynd i’r afael â materion cymhleth a chael effaith lwyddiannus. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwerthfawrogi cyfraniad DECIPHer ym maes ymchwil polisi ac yn edrych ymlaen at gysylltu eto â DECIPHer yn y pum mlynedd nesaf.’
•
Aelodau SAB rhwng 2020 a 2025:
- Doctor Sumina Azam, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Doctor Julie Bishop, Cyfarwyddwr Gwella Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru; Cyd-ymchwilydd DECIPHer
- Doctor Michael Clark, Rheolwr Rhaglen Ymchwil, Ysgol NIHR ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol; Cymrawd Ymchwil Athrawol Gysylltiol, Canolfan Polisi a Gwerthuso Gofal, Ysgol Economeg Llundain
- Nia Evans, Rheolwr Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, Mind Cymru
- Doctor Sara Jones, Rheolwr y Ganolfan, DECIPHer
- Yr Athro Frank Kee, Athro Clinigol, Ysgol Meddygaeth, Deintyddiaeth a Gwyddorau Biofeddygol, Canolfan Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol y Frenhines
- Yr Athro Ruth Kipping, Athro Iechyd y Cyhoedd, Ysgol Meddygaeth Bryste
- Yr Athro James Lewis, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
- Yr Athro Graham Moore, Dirprwy Gyfarwyddwr DECIPHer
- Yr Athro Simon Murphy, Cyfarwyddwr DECIPHer
- Meddai’r Athro Eva Rehfuess, Cadeirydd Ymchwil Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Iechyd, LMU Munich: ‘Hoffwn dynnu sylw at lwyddiant DECIPHer o ran dilyniant gyrfaol
- Loretta Solars, Dirprwy Bennaeth, Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd, Public Health England
