Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) yn falch iawn o fod wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i helpu i adeiladu eu cam nesaf yn eu rhaglen waith uchelgeisiol a chyffrous.
Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (y Rhwydwaith) bellach wedi’i wreiddio ar draws y system cyflwyno addysg ac iechyd a lles ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae cam nesaf y Rhwydwaith yn cynrychioli datblygiad cyffrous, gan ymgymryd ag integreiddio gwaith ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws y system addysg ac iechyd cyhoeddus cenedlaethol. Bydd y cam nesaf hwn yn cyflwyno amrywiaeth eang o fuddion newydd â gwerth ychwanegol:
- Systemau a phrosesau sefydledig ar gyfer cylchoedd casglu data bob yn ail mewn ysgolion cynradd (blynyddoedd 2024 a 2026) ac ysgolion uwchradd (blynyddoedd 2025 a 2027).
- Gwell galluoedd monitro polisi trwy set ddata estynedig sy’n cipio data cenedlaethol gan blant 7-18 oed.
- Gwell cynhyrchu allbynnau amserol, o ansawdd uchel, sy’n berthnasol i bolisi ar gyfer partneriaid cenedlaethol a rhanbarthol allweddol trwy ddull partneriaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru.
- Mwy o ddadansoddi data ac allbynnau data trwy weithio tuag at storfa fynediad agored o ddata’r Rhwydwaith ac ategu cyfleoedd cysylltedd data pellach ar gyfer setiau data cyffredin addysg, iechyd a lles, a’r amgylchedd.
- Rhannu data a dadansoddi data yn well trwy gynnydd yn nifer y dangosyddion cenedlaethol a’r data ysgolion cynradd sydd ar gael trwy ddangosfwrdd Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus y Rhwydwaith.
- Cyflwyno dangosfyrddau data ysgolion rhyngweithiol, dynamig, sy’n darparu data ar dueddiadau i ysgolion y Rhwydwaith yng Nghymru, i lywio cynllunio gweithredu ynghylch iechyd.
- Platfform cyfnewid gwybodaeth a chyfathrebu arloesol a ddatblygwyd gydag ysgolion a’r cyhoedd, ac ar eu cyfer, i wella lledaeniad ac effaith, gan gynnwysplatfform digidol newydd i ategu recriwtio, cadw, cyd-gynhyrchu a chyfnewid gwybodaeth.
Meddai Simon Murphy, Athro mewn Ymyriadau Cymdeithasol ac Iechyd, Cyfarwyddwr DECIPHer, ac arweinydd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion:
‘Mae hwn yn gam newydd cyffrous i’r Rhwydwaith, yn cwmpasu ysgolion cynradd ac uwchradd. Rydym ni’n edrych ymlaen at weithio gyda chanolfannau a phartneriaid polisi/ymarfer/cyhoeddus ar draws SPARK i ddatblygu cynigion gan fanteisio ar set ddata o dueddiadau hydredol a thueddiadau amser sy’n unigryw a chyfoethog, ac yn mynd yn ôl 10 mlynedd.’
Ewch i Shrn.org.uk i ddarganfod mwy.