Mae’r wobr yn galluogi Dr Evans i deithio i ddatblygu ei dealltwriaeth o arloesedd rhyngwladol mewn atal hunanladdiad ymhlith plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
Mae Cymrodoriaeth Churchill yn cefnogi dinasyddion y DU i ddilyn eu hangerdd dros newid trwy ddysgu o’r byd. Fe’i sefydlwyd ym 1965 fel etifeddiaeth fyw Syr Winston Churchill. Ar 27 Mehefin 2023, enwodd y Gymrodoriaeth ei Chymrodorion ar gyfer y flwyddyn i ddod:
‘Rydym yn falch o gyhoeddi bod 141 o bobl ryfeddol wedi cael eu dewis fel Cymrodorion newydd ar gyfer 2023. Mae’r grŵp rhyfeddol hwn o bobl yn cynrychioli ystod amrywiol o gefndiroedd, arbenigedd a dyheadau.’
Teitl prosiect Dr Evans yw Atal hunanladdiad ymhlith plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Dros y degawd diwethaf, mae ei hymchwil wedi archwilio mynychder ac achosion hunan-niweidio a hunanladdiad ymhlith y boblogaeth hon, yn ogystal â phrofiadau o ddarpariaeth bresennol. Fodd bynnag, ar ôl arwain adolygiad systematig cyllid o ymyriadau NIHR-PHR yn y maes hwn, roedd yn amlwg bod diffyg dulliau gweithredu effeithiol yn sylweddol, yn enwedig yn y DU.
I ymateb i’r cyfyngiadau hyn o ran arfer presennol, gwnaeth Dr Evans gais am Gymrodoriaeth Churchill i dreulio amser yn ymweld ag academyddion ac ymarferwyr yn Denver, UDA a Seoul a Busan, De Korea. Mae’r ddwy wlad yn profi dulliau newydd o atal hunanladdiad ymhlith poblogaethau sydd â phrofiad o fod mewn gofal, a allai fod yn berthnasol i’r DU.
‘Mae’n fraint anhygoel cael cyfle i dreulio amser yn ymweld â chymunedau a chyd-destunau eraill i archwilio dulliau newydd cyffrous o atal hunanladdiad ymhlith plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal.’
Rhiannon Evans
Bydd y gwaith hwn yn cryfhau’r cydweithredu y gwnaeth DECIPHer feithrin â’r Athro Heather Taussig yn ystod ei hymweliad Ysgoloriaeth Fullbright â Phrifysgol Caerdydd yn 2020, sydd eisoes wedi arwain at nifer o allbynnau allweddol yn y maes.
Bydd Rhiannon hefyd yn treulio amser ar Raglen Gwyddor Lledaenu a Gweithredu (D&I) ACCORDS (D&I) ym Mhrifysgol Colorado, gan adeiladu ymhellach ar enw da rhyngwladol DECIPHer mewn addasu ymyraethau. Yn benodol, bydd yn ystyried sut i ddatblygu dulliau mewn ymchwil addasu i gefnogi addasu dulliau a nodwyd trwy’r gymrodoriaeth i gyd-destun y DU.
Dywedodd Dr Evans am y Gymrodoriaeth: ‘Mae’n fraint anhygoel cael cyfle i dreulio amser yn ymweld â chymunedau a chyd-destunau eraill i archwilio dulliau newydd cyffrous o atal hunanladdiad ymhlith plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal. Rwy’n edrych ymlaen at rannu fy nysgu a’m syniadau gyda chydweithwyr pan fyddaf yn dychwelyd i Gymru, a gweithio tuag at wella atal hunanladdiad ar gyfer y grŵp hwn sydd heb ei wasanaethu’n ddigonol.’
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Churchill i ymchwilydd arall o Brifysgol Caerdydd, sef Lorna Stabler, sydd wedi’i lleoli yn DECIPHer a CASCADE, yn 2019. Teitl ei phrosiect ar gyfer y Gymrodoriaeth yw Archwilio dulliau o gefnogi gofalwyr sy’n berthnasau ac fe wnaeth y Gymrodoriaeth ei galluogi i wneud ymchwil yn Cambodia, India a Japan.
Dysgwch fwy am Gymrodoriaeth Churchill yma: https://churchillfellowship.org/. Bydd ceisiadau ar gyfer y rownd nesaf o Gymrodoriaethau yn agor ym mis Medi 2023.
Adroddiad rhiannon (Mai 2024): Preventing Self-harm And Suicide In Children From Foster, Kinship Or Residential Care