Roedd Dr. Anthony yn un o 30 ymchwilydd a ddewiswyd i gymryd rhan yn y rhaglen datblygu arweinyddiaeth ar gyfer ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa
Cyhoeddodd GW4 y garfan newydd ym mis Ionawr 2024, gan ychwanegu bod ‘(Y) Crwsibl yn rhoi cyfle i arweinwyr ymchwil y dyfodol o ystod eang o ddisgyblaethau ddod ynghyd i ddechrau trafodaethau a chydweithrediadau newydd.’ Hyd yma, mae Crwsibl GW4 wedi cefnogi mwy na 200 ymchwilydd ar ddechrau eu gyrfa.
Y thema eleni yw Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran iechyd ac ysgogi cyfiawnder cymdeithasol drwy ryngddisgyblaeth radical. Yn ymchwil Dr. Anthony ceir tystiolaeth ynghylch anghydraddoldebau cynyddol ym maes iechyd meddwl pobl ifanc, a bu i erthygl ddiweddar yn The Conversation roi sylw i’r ffaith fod problemau emosiynol pobl ifanc yn gwaethygu hyd yn oed cyn 2020.
‘Mae hon yn duedd sy’n achosi pryder gwirioneddol gan ei bod wedi bodoli cyn COVID, a dim ond gwaethygu problemau iechyd meddwl wnaeth y pandemig. Bu i ferched a’r rheini o deuluoedd tlotach brofi cynnydd mwy sylweddol o ran problemau emosiynol,’ esbonia Dr. Anthony. ‘Yn ogystal ag iechyd y boblogaeth, mae gen i ddiddordeb arbennig yn iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc sydd wedi bod dan ofal.’ Mae ymchwil Dr. a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn trin a thrafod cefnogaeth gymdeithasol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod dan ofal, eu syniadau ynghylch perthnasoedd a’r cysylltiad â’u hiechyd meddwl a’u lles.
Bydd y sawl sydd ynghlwm â Crwsibl yn cymryd rhan mewn rhaglen ar sail gyfunol; bydd dau labordy preswyl wyneb yn wyneb a phedwar dosbarth meistr ar-lein gyda siaradwyr arbenigol. Bydd y gweithdy cyntaf yn digwydd yng nghanol mis Chwefror. Dywed Dr. Anthony:
‘Rwy’n edrych ymlaen at y labordy cyntaf ac at gwrdd â’r garfan. Rwy’n hyderus y bydd ein hamrywiol ddisgyblaethau a’n profiad cyfunol yn golygu y ceir safbwyntiau ffres ar ein hymchwil unigol ond y bydd hefyd yn cynhyrchu dulliau newydd radical o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran iechyd.’
Dewch i gwrdd â’r ymchwilwyr sy’n cymryd rhan yn Crwsibl 2024 a dilynwch ddiweddariadau’r rhaglen ar LinkedIn GW4.