Bu ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn cyfweld â llunwyr polisi a’r rhai sydd â rôl strategol wrth ddylunio a gweithredu agweddau Iechyd a Lles y Cwricwlwm i Gymru, a gyflwynwyd mewn ysgolion o fis Medi ymlaen, fel rhan o gyfres o brosiectau i fesur ei lwyddiant hirdymor.
Mae’r canfyddiadau’n awgrymu bod diwygiadau i’r system addysg yn gofyn am newidiadau ar sawl lefel i gyflawni dyheadau a nodau beiddgar y Cwricwlwm i Gymru.
Mae Dr Sara Long yn gymrawd ymchwil yn y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer). Dywedodd: “Mae ysgolion yn gweithredu heb ddigon o adnoddau, ac yn gorfod trefnu eu gweithredoedd yn eilradd i sicrhau perfformiad i fodloni’r mesurau y maent yn atebol iddynt, ac o ganlyniad, efallai’n esgeuluso mesurau sydd o bwys i bobl ifanc.
“Trafodwyd yr angen am fwy o ymreolaeth a rhyddid ar lefel ysgol ac ymarferydd yn helaeth drwy gydol cyfweliadau, a bydd hyn yn sicr yn allweddol i lwyddiant y cwricwlwm newydd. Ond gyda newidiadau mor radical i sut mae pobl ifanc yn dysgu, mae rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r offer i’r rhai yn y proffesiwn addysg i weithredu’r cwricwlwm, yn ogystal ag iechyd a lles y tu allan i’r cwricwlwm, hefyd yn mynd i fod yn hanfodol.”
Roedd y cyfweliadau a gynhaliwyd ar gyfer yr astudiaeth yn cynnwys uwch aelodau o’r llywodraeth ac ysgolion sydd wedi ymwneud â naill ai dylunio’r cwricwlwm neu ddysgu proffesiynol, Estyn a’r rhai â chylch gwaith amlddisgyblaethol ym maes iechyd ac addysg.
Mae’r cwricwlwm yng Nghymru wedi’i ddiwygio’n sylweddol gyda phwyslais gynyddol uwch ar Iechyd a Lles. Mae nawr yn un o chwe Maes Dysgu a Phrofiad ar y cyd â’r Celfyddydau Mynegiannol; y Dyniaethau; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; Mathemateg a Rhifedd, a Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Mae Dr Long yn arwain cymrodoriaeth ymchwil pedair blynedd o hyd, sy’n archwilio effaith diwygio’r cwricwlwm yng Nghymru ac mae’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Cyhoeddwyd y papur, Iechyd a lles ysgolion a diwygio’r system addysg genedlaethol: astudiaeth ansoddolyn y British Education Research Journal (BERJ) ac mae ar gael i’w weld yma.