Mynd i'r cynnwys
Home » Ymddangosodd Dr Sara Long, arweinydd astudiaeth RISE, ar raglen The One Show ar y BBC

Ymddangosodd Dr Sara Long, arweinydd astudiaeth RISE, ar raglen The One Show ar y BBC

Roedd Dr Sara Long, arweinydd academaidd DECIPHer y bartneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a phrif ymchwilydd RISE, yn siarad ar The One Show yn rhan o ffilm sy’n trafod darpariaeth Prydau Ysgol am Ddim i Bawb (UFSM) yng Nghymru.

Bydd yr astudiaeth gwerth £1.6 miliwn yn para am dair blynedd, yn dadansoddi darpariaeth gyfredol UFSM ledled y DU ac yn ymchwilio i effeithiau UFSM ar y bwyd sy’n cael ei fwyta a’r dewis mewn ysgolion cynradd.

Ar y sioe, aeth Dr Sara i ymweld ag ysgol gynradd ym Merthyr Tudful i weld rhai o’r prydau bwyd sydd ar gael drosti ei hun. Siaradodd am bwysigrwydd y prosiect i geisio “deall pam bod plant yn dewis opsiwn UFSM neu beidio, a pham eu bod yn dewis yr opsiynau hynny ar y fwydlen.”

Dr Sara Long yn siarad â Minah Shannon o’r BBC

Pan ymwelodd hi, tynnodd sylw at y ffrwythau a’r llysiau oedd ar gael yn yr ysgol gynradd hon, a bod y “pryd o fwyd a gynigiwyd yn gytbwys iawn”.

Mae’r astudiaeth, fydd yn para tan fis Mawrth 2028, yn ceisio helpu Cymru a chenhedloedd eraill i wella polisi bwyd ac ymarfer ysgolion yn y dyfodol, a hefyd i ddatblygu gwell dealltwriaeth o gyflwyno polisi UFSM. Bydd hyn yn ei dro yn helpu ysgolion, awdurdodau lleol a byd llywodraeth i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut i wella iechyd cenedlaethau’r dyfodol.

Wedi colli’r bennod? Daliwch i fyny yma (ar gael tan 18 Chwefror).

Mae rhagor o wybodaeth am RISE ar gael ar dudalen astudiaeth RISE