Prif Ymchwilwyr
Prof James White
Cyd-Ymchwilwyr
Ms Yvonne Moriarty, Dr Rebecca Cannings-John, Prof Alison L Weightman, Dr Meg Kiseleva, Prof G. David Batty
Y Cefndir
Mae pobl sy’n profi digartrefedd mewn mwy o berygl o farw’n gynamserol, o’u cymharu â’r boblogaeth gyffredinol. Cafodd y rhan fwyaf o’r astudiaethau eu cynnal mewn gwledydd incwm uchel, gyda phobl sy’n cysgu allan a’r rheiny sy’n ymweld â lochesi i’r digartref fel ei gilydd. Mewn rhai o’r astudiaethau hyn, dangoswyd y gallai cyfraddau marwolaeth yn achosion o’r fath fod 10 gwaith yn fwy na gweddill y boblogaeth gyffredinol.
Gwnaeth adolygiad systematig gan Aldridge et al. ymchwilio i’r cysylltiad rhwng digartrefedd a marwolaethau mewn tair astudiaeth wahanol. Yn yr adolygiad hwn, roedd digartrefedd yn gysylltiedig â chyfradd marwolaeth uwch o’i gymharu â’r boblogaeth gyffredinol, ond ceir ffactorau risg eraill a allai cyfrannu at farwolaethau ymysg y digartref megis salwch meddwl, defnyddio sylweddau, a diweithdra. Prin iawn yw’r ddealltwriaeth o ran y graddau y gellir priodoli cyfraddau marwolaeth uwch i ddigartrefedd, yn hytrach na ffactorau eraill a allai fod wedi blaenori’r rhain.
Un o brif nodau’r prosiect hwn yw cynnal adolygiad systematig o’r holl ganfyddiadau a gyhoeddir yn gyntaf (adolygiad cymheiriaid a llenyddiaeth lwyd). Yn ail, bydd mynd i’r afael ag unrhyw fylchau tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg drwy’r adolygiad hwn, a hynny gan ddefnyddio dadansoddiadau unigol a ddaw o ddata crai sydd heb eu cyhoeddi mewn astudiaethau eraill. Ac yn drydydd, bydd cydgrynhoi’r canlyniadau gan ddefnyddio meta-ddadansoddiad.
Nod yr adolygiad hwn: Disgrifio marwolaethau ymhlith yr unigolion hynny sydd wedi bod yn ddigartref.
Nodau ac Amcanion
Diben yr adolygiad systematig bydd ceisio ateb tri chwestiwn:
- Beth yw’r risg o farwolaeth ymhlith y bobl hynny sydd wedi profi digartrefedd o’u cymharu â’r boblogaeth gyffredinol, ac a yw hynny’n amrywio ar draws y gwahanol fathau o ddigartrefedd?
- A oes ffactorau amlwg sy’n achosi marwolaeth ymhlith pobl sy’n profi digartrefedd o’u cymharu â’r boblogaeth gyffredinol, ac a yw hyn yn amrywio ar draws y gwahanol fathau o ddigartrefedd?
- Ydy cymdeithasau sy’n helpu’r digartref rhwng adeg eu digartrefedd a’u marwolaeth yn newid yn sylweddol wrth ddefnyddio grŵp cymharu sydd dan anfantais yn economaidd-gymdeithasol yn erbyn grŵp o’r boblogaeth gyffredinol?
Dyddiad dechrau
1st April 2023
Dyddiad gorffen
1st January 2025
Cyllidwyr
Centre for Homelessness Impact
Swm
£51,427