Mynd i'r cynnwys
Home » Swyddi gweigion

Swyddi gweigion

Cydymaith Ymchwil, DECIPHer and CARE

21346BR

Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Caerdydd

Mae Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd yn ceisio recriwtio Cymrawd Ymchwil i weithio o fewn dau ganolfan ymchwil, y Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol Oedolion (CARE) a’r Ganolfan ar gyfer Datblygu, Gwerthuso, Cymhlethu a Gweithredu mewn Gwelliant Iechyd Cyhoeddus (DECIPHer) sydd wedi’u lleoli yn y Sgôl.

Cynnal gwaith ymchwil ym maes atal hunanladdiad a hunan-niweidio a chyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol yr Ysgol a’r Brifysgol, gan gynnal gwaith ymchwil fydd yn arwain at gyhoeddi gwaith ymchwil o safon uchel. Ymgysylltu â rhanddeiliad o’r cyhoedd, y rhai sy’n ymarfer yn y maes ac ym maes polisi i ddatblygu ymchwil berthnasol.
 
Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-Niweidio sy’n ariannu’r swydd, a buddsoddiad isadeiledd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru o dan arweiniad Prifysgol Abertawe.

Mae’r swydd hon yn llawn-amser (35 awr yr wythnos), yn gontract tymor penodol yn cwmpasu cyfnod o Wyliau Mamolaeth o 1 Ebrill 2026 i 31 Mawrth 2027.

Cyflog: £41,064 – £ 46,049 y flwyddyn (Gradd 6), gyda gynyddrannau blynyddol hyd at cyflog terfynol ar frig y raddfa. Fel arfer, mae apwyntiadau newydd yn cael eu gwneud ar ddechrau’r raddfa gyflog.

Yn gyfrifol am Athro Jonathan Scourfield, Prif Ymchwilydd

Am drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Jonathan, Scourfield@cardiff.ac.uk 

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision rhagorol, gan gynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), gweithio cyfunol (sy’n golygu y byddwch yn gallu gweithio gartref am beth o’ch amser), cynllun beicio i’r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddiadau blynyddol i fyny’r raddfa gyflog, a mwy. Mae’n lle cyffrous a bywiog i weithio, gyda llawer o heriau gwahanol ac mae’n gefnogwr Cyflog Byw balch.
 

Ni yw’r brifysgol fwyaf yng Nghymru – ac rydym yn gyflogwr o bwys, sydd â thros 7,000 o staff. Rydym yn sefydliad uchelgeisiol ac arloesol mewn prifddinas hardd a llewyrchus. Gallwn gynnig cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig buddion gwych a chyfleoedd i chi ddatblygu eich gyrfa.

Dyddiad hysbysebu: Dydd Mawrth, 3 Mawrth 2026

Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 24 Mawrth 2026

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed.  Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio’n hyblyg.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy’n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na’r cyfnodolyn y mae’r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma:  Asesu ymchwil yn gyfrifol – Ymchwil – Prifysgol Caerdydd

Disgrifiad Swydd

Ymchwil

  • Cynnal gwaith ymchwil ym maes atal hunanladdiad a hunan-niweidio a chyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol yr Ysgol a’r Brifysgol drwy gynhyrchu canlyniadau y gellir eu mesur gan gynnwys gwneud ceisiadau am arian, cyhoeddi mewn cynadleddau a chyfnodolion academaidd cenedlaethol a recriwtio a goruchwylio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. 
  • Datblygu amcanion ymchwil a chynigion ar gyfer prosiectau ymchwil annibynnol neu ar y cyd, gan gynnwys ceisiadau am gyllid
  • Mynd i gynadleddau/seminarau lleol a chenedlaethol a/neu roi cyflwyniadau ynddynt yn ôl yr angen
  • Cyflawni tasgau gweinyddol sy’n gysylltiedig â Rhaglen Ymchwil y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-Niweidio gan gynnwys cynllunio a threfnu gweithgareddau’r Ganolfan a rhoi’r gweithdrefnau sydd eu hangen ar waith i sicrhau adroddiadau cywir a phrydlon
  • Paratoi ceisiadau moeseg ymchwil a llywodraethu ymchwil fel sy’n briodol
  • Adolygu a chywain y llenyddiaeth ymchwil sydd eisoes yn bodoli yn y maes
  • Cymryd rhan yng ngweithgareddau ymchwil y Ganolfan a’r Ysgol.
  • Datblygu a chreu rhwydweithiau yn fewnol ac yn allanol i’r Brifysgol, dylanwadu ar benderfyniadau, ymchwilio i ofynion ymchwil y dyfodol a rhannu syniadau ymchwil er budd prosiectau ymchwil

Arall

  • Cydweithio’n effeithiol â phartneriaid polisïau ac ymarfer, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o broffil canolfannau ymchwil perthnasol a’r Ysgol, i feithrin partneriaethau strategol gwerthfawr, a chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar draws amrywiaeth o weithgareddau. Bydd disgwyl i’r gweithgareddau hyn gyfrannu at waith yr Ysgol a chanolfannau ymchwil a gwella ei phroffil rhanbarthol a chenedlaethol.
  • Ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol mewn ffordd briodol a fydd yn gwella perfformiad.
  • Cyfrannu at weinyddiaeth a gweithgareddau’r ysgol a’r canolfannau ymchwil er mwyn hyrwyddo’r ysgol a’i gwaith ledled y Brifysgol a thu hwnt
  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd.

Manyleb Unigolyn

Meini Prawf Hanfodol

  1. Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD mewn maes cysylltiedig neu ymarfer cyfatebol perthnasol neu brofiad o bolisïau
  2. Arbenigedd diamheuol a phortffolio profedig o ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol a/neu brofiad sy’n gysylltiedig â pholisi/ymarfer perthnasol mewn un maes neu fwy sy’n berthnasol iawn i atal hunanladdiad a hunan-niwed. Mae’r swydd hon yn cynnwys ffocws methodolegol ac yn debygol o gynnwys adolygiadau systematig, datblygu ymyriadau a gwerthuso ac/neu ymchwil ansoddol ar brofiadau bywyd. Bydd yn canolbwyntio’n bennaf ar ymchwil ym maes hunanladdiad a hunan-niweidio gyda phoblogaethau gofal cymdeithasol i oedolion, felly byddai arbenigedd o’r rhain yn ddefnyddiol iawn.
  3. Gwybodaeth am statws presennol ymchwil mewn un neu fwy o’r canlynol: atal hunanladdiad a hunan-niweidio, adolygiadau systematig; datblygu a gwerthuso ymyriadau; ymchwil ansoddol ar brofiadau bywyd; gofal cymdeithasol i oedolion; iechyd y cyhoedd.
  4. Gallu diamheuol i gyhoeddi gwaith mewn cyfnodolion/cynadleddau cenedlaethol/rhyngwladol a/neu sicrhau allbynnau ymchwil eraill
  5. Gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch cyllid ymchwil cystadleuol er mwyn gallu paratoi ceisiadau i’w cyflwyno i gyrff cyllido
  6. Gallu diamheuol i gyfathrebu’n effeithiol ac yn argyhoeddiadol
  7. Gallu diamheuol i ymgysylltu â rhanddeiliaid o’r cyhoedd, y rhai sy’n ymarfer yn y maes ac ym maes polisi i ddatblygu blaenoriaethau ymchwil a rhannu canfyddiadau ymchwil.
  8. Y gallu i oruchwylio gwaith eraill er mwyn sianelu gwaith y tîm ac ysgogi unigolion
  9. Y gallu diamheuol i weithio heb oruchwyliaeth agos

Meini Prawf Dymunol

  • Cymhwyster proffesiynol perthnasol ym maes iechyd, iechyd y cyhoedd neu ofal cymdeithasol
  • Tystiolaeth o weithio ar y cyd â gwasanaethau sy’n berthnasol i atal hunanladdiad a hunan-niweidio.
  •  Gallu diamheuol i addasu i ofynion newidiol byd Addysg Uwch.
  • Tystiolaeth o’r gallu i gyfrannu at rwydweithiau mewnol ac allanol, eu datblygu a’u defnyddio i wella gweithgareddau ymchwil yr Ysgol a’r canolfannau ymchwil.

PWYSIG: Tystiolaeth o’r Meini Prawf
Polisi Prifysgol Caerdydd yw defnyddio manyleb yr unigolyn fel offeryn allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Felly, mae’n rhaid i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni’r HOLL feini prawf hanfodol, a’r meini prawf dymunol, lle bo’n berthnasol.

Yn rhan o’ch cais, gofynnir i chi ddarparu’r dystiolaeth hon drwy ddatganiad ategol. Gwnewch yn siŵr bod eich tystiolaeth yn cyfateb i’r meini prawf a amlinellir ym manyleb yr unigolyn. Ystyrir eich cais ar sail yr wybodaeth a roddwch ar gyfer pob maen prawf.

Wrth atodi’r datganiad ategol i broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen: XXXXBR.

Bydd eich cais mewn perygl o beidio â chael ei ddatblygu os nad ydych yn dangos tystiolaeth eich bod wedi bodloni’r holl feini prawf hanfodol. Mae’r ysgol yn croesawu cyflwyno CV i gyd-fynd â’r dystiolaeth ar gyfer meini prawf y swydd.

Mwy o wybodaeth a gwneud cais yma: https://krb-sjobs.brassring.com/TgNewUI/Search/Home/Home?partnerid=30011&siteid=5461#jobDetails=2272808_5461.

Click to go to Linked In
Click to go to Bluesky