Mae’r ffocws deuol yn DECIPHer wedi creu argraff dda arnaf i: rhagoriaeth ymchwil, a meithrin partneriaethau dros feysydd polisi, ymarfer ac ymchwil i fanteisio ar gryfderau pob un ohonynt. Hefyd, rwy’n falch o’r gofal a gymerir gyda’r unigolion y mae DECIPHer yn rhyngweithio â nhw. Nid dim ond beth sy’n cael ei wneud, ond sut mae DECIPHer yn gweithredu hefyd, sydd ac a fydd yn cael effaith ar iechyd poblogaeth Cymru. Yn achos y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, mae hyn i’w weld yng nghryfder y tîm gwyddonol (rhyngwladol ei safon, safbwyntiau disgyblaethol amrywiol) a’r bobl ‘ar lawr gwlad’, sy’n rhyngweithio o ddydd i ddydd gyda’r ysgolion a’r llywodraeth. Mae gan bob un ohonynt gysylltiadau da, nid oes unrhyw un mewn tŵr ifori.
Canlyniad pwysicaf fy ngwaith gyda DECIPHer fydd ymdrechion cryfach i gefnogi datblygiad cymunedau ysgolion iach ym Mhrydain ac yng Nghanada. Bydd y cynnydd hwn mewn gallu yn deillio o gyd-gyfraniadau safbwyntiau ymchwil, ymarfer a pholisi, a chysylltiadau mwy effeithiol rhyngddynt.