Mynd i'r cynnwys

Mae iechyd y cyhoedd yn ymwneud â helpu pobl ifanc i gadw’n iach ac osgoi salwch. Mae pynciau ymchwil yn cynnwys deiet, maeth, gweithgarwch corfforol a mwy.

Ymchwil yw’r broses a ddefnyddir i ddod o hyd i wybodaeth newydd a all helpu yn y dyfodol.


Pam y dechreuodd ALPHA?

Yn DECIPHer, rydym eisiau gwella iechyd a lles pobl ifanc. Rydym o’r farn bod gan bobl ifanc yr hawl i fod yn rhan o ymchwil amdanyn nhw a’u bywydau.

Mae pobl ifanc yn arbenigwyr yn eu bywydau, gyda phrofiadau, gwybodaeth, mewnwelediad a galluoedd gwahanol i ymchwilwyr sy’n oedolion. Gwnaethom ddechrau ALPHA oherwydd ein bod ni eisiau dod â grŵp o bobl ifanc gydag ystod o brofiadau a safbwyntiau at ei gilydd i helpu i wneud yn siŵr bod ein hymchwil yn adlewyrchu’r hyn sy’n bwysig i bobl ifanc. Yn y bôn, mae hyn yn ein helpu ni i wella iechyd pobl ifanc.


Beth yw ystyr bod yn aelod o ALPHA?

Mae ALPHA yn cyfarfod unwaith bob mis ar ddydd Sadwrn am ddeg mis y flwyddyn yng Nghaerdydd. Yn y cyfarfodydd hyn, mae ymchwilwyr yn gofyn i ALPHA am y gwaith ymchwil maen nhw’n ei wneud neu y byddant yn ei wneud ar bynciau sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd. Mae gan aelodau ALPHA hefyd amser mewn cyfarfodydd i drafod unrhyw broblemau yr hoffent yn y grwp.

Mae ALPHA hefyd yn mynd ar ddiwrnodau gweithgareddau dros yr haf bob blwyddyn – mae teithiau yn y gorffennol wedi cynnwys Task Force Paintball, Canolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol Caerdydd ac ystafelloedd dianc. Mae’r diwrnodau gweithgareddau dros yr haf yn galluogi aelodau ALPHA i ddod i adnabod ei gilydd yn well wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil a hyfforddiant a datblygu sgiliau allweddol.


Pam y dylech chi ymuno ag ALPHA?

Mae nifer o resymau gwych pam y dylech ymuno ag ALPHA.

Gwrandewir ar eich llais chi a bydd yn cael effaith go iawn ar ymchwil a fydd yn helpu bywydau pobl.

Byddwch yn dysgu am ymchwil ac iechyd y cyhoedd yn ogystal â sgiliau bywyd eraill trwy hyfforddiant. Gall y rhain eich helpu chi i ddarganfod beth rydych eisiau ei wneud nesaf a datblygu CV neu gais da ar gyfer y coleg/prifysgol.

Bydd modd i chi godi eich syniadau eich hun ar gyfer y grŵp trwy fod yn aelod o ALPHA. Mae hyn yn cynnwys ble rydym yn mynd ar ein teithiau preswyl a pha weithgareddau sy’n ymwneud ag ymchwil rydych yn eu gwneud y tu hwnt i’r cyfarfodydd misol.

Mae bod yn aelod o ALPHA yn hwyl ac yn werth chweil, a byddwch yn cwrdd â phobl newydd o bob cwr o Gymru.

Cewch fynd ar daith breswyl flynyddol ALPHA – penwythnos o weithgareddau llawn hwyl a ddewisir gan aelodau ALPHA – i ddatblygu sgiliau newydd a dod i adnabod eich gilydd fel grŵp.

Telir am eich costau teithio i gyfarfodydd ALPHA a byddwn yn trefnu hyn i chi. Darperir bwyd mewn cyfarfodydd.


Pwy all ymuno ag ALPHA?

Mae ALPHA yn agored i bawb rhwng 14 a 25 oed sy’n byw yng Nghymru. Nid oes angen eich bod yn gwybod am iechyd y cyhoedd neu ymchwil oherwydd y byddwch yn dysgu am y rhain drwy weithdai hwyl unwaith y byddwch yn ymuno. Barn yw’r cyfan sydd ei angen arnoch!

Cewch fod yn aelod yn rhad ac am ddim, telir am eich costau teithio i gyfarfodydd a darperir cinio mewn cyfarfodydd. Byddwch hefyd yn cael talebau siopa ar gyfer pob cyfarfod misol i ddiolch i chi am eich amser a’ch mewnbwn.

Mae aelodau ALPHA wedi creu cyfansoddiad sy’n pennu ystyr bod yn rhan o ALPHA a’r disgwyliadau gan aelodau ALPHA.


Pa brosiectau y mae ALPHA wedi gweithio arnynt?

Ers dechrau’r grŵp yn 2010, mae ALPHA wedi bod yn rhan o amrywiaeth enfawr o brosiectau, gan gynnwys ymchwil ar hysbysebu alcohol, atal cyffuriau, hyrwyddo iechyd mewn ysgolion, iechyd rhywiol, hunanladdiad a hunan-niwed. I weld mwy o brosiectau y mae ALPHA wedi bod yn rhan ohonynt, gweler yr enghreifftiau ar waelod y dudalen hon. Yn y dyfodol, bydd y grŵp yn cael mwy o brofiad o weld sut brofiad yw gwneud ymchwil, yn cael hyfforddiant ar ystod ehangach o sgiliau ac yn mynd ar fwy o deithiau.


Cysylltwch

I gael rhagor o wybodaeth am ALPHA neu i ymuno â ni, cysylltwch â Sophie Jones, Swyddog Cynnwys y Cyhoedd.

E-bost: DECIPHerPublicInvolvement@caerdydd.ac.uk 

Neu gallwch chi gysylltu â ni drwy ein digwyddiadau cymdeithasol ar frig y dudalen.


Mae pecyn gwybodaeth ALPHA yn cynnwys gwybodaeth lawn am ALPHA a beth ydym yn ei wneud. Gallwch ei lawrlwytho yma.