Mae Lorna Stabler yn trafod ei hymchwil i brofiadau grŵp nad yw’n cael ei gydnabod yn ddigon: gofalwyr brodyr a chwiorydd.
Beth yw’r broblem?
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod nad yw teuluoedd bob amser yn golygu dau riant yn magu eu plant, a bod plant weithiau, am lawer o resymau, yn cael eu magu gan rywun nad yw’n fam nac yn dad iddyn nhw. Yr hyn sy’n llai adnabyddus yw mai chwaer neu frawd hŷn yw’r prif ofalwr am sibling(iaid) iau mewn rhai achosion. Yn wir, canfu un astudiaeth yn Lloegr yn 2011 fod cynifer â 23% o’r perthnasau oedd yn gofalu am blant nad oedden nhw’n blant biolegol iddynt yn frodyr ac yn chwiorydd hŷn – mae hynny’n 35,200 o bobl! Ond er mai dyma brofiad llawer o deuluoedd yn y DU, ychydig iawn sy’n hysbys am sut beth yw gofalu am eich brawd neu chwaer.
Pwy ydw i a pham rwy’n gwneud yr ymchwil yma?
Roedd gen i ddiddordeb mewn gofalwyr brodyr a chwiorydd oherwydd mai fi oedd yn gofalu am fy mrawd bach, a phan ddechreuais weithio mewn ymchwil, sylweddolais nad oedd dim byd mewn gwirionedd ar gael am deuluoedd fel fy un i. Roedd llawer o’r ymchwil am deuluoedd ‘perthnasau’ yn canolbwyntio ar brofiadau neiniau a theidiau. Er bod hynny’n bwysig iawn, roeddwn i’n teimlo y byddai straeon brodyr a chwiorydd yn wahanol i straeon neiniau a theidiau a’u hwyrion. Dyna pam mae fy PhD yn canolbwyntio ar brofiadau gofalwyr brodyr a chwiorydd.
Pam mae’r ymchwil hon yn cael ei chynnal?
Er bod mwy o sylw’n cael ei roi i ofal perthnasau yn y DU, mae gwahaniaethau enfawr rhwng yr hyn sy’n digwydd yn ymarferol yn yr Alban o’i gymharu â Chymru, neu Gaerdydd o’i gymharu â Chonwy. Dyna pam rwy’n gobeithio siarad â phobl o bob rhan o’r DU.
I bwy rwy’n siarad?
Rwy’n awyddus i gyfweld â phobl (18+) sy’n byw yn y DU ac sydd â phrofiad o fod yn brif ofalwr i’w brawd/chwaer. Rwyf hefyd yn cyfweld â brodyr a chwiorydd sy’n derbyn gofal gan frawd neu chwaer hŷn, a phobl â phrofiad gofal o unrhyw oedran a dreuliodd amser yn derbyn gofal gan eu brawd neu chwaer. Gall brodyr a chwiorydd sydd â diddordeb mewn bod yn destun cyfweliad gael rhagor o wybodaeth yma.
Rwy’n cynnwys ymarferwyr o bob math yn fy ymchwil PhD drwy arolwg, cyfweliadau a grwpiau ffocws. Mae’r arolwg yn gofyn am enghreifftiau o ymarfer gyda theuluoedd perthnasau sy’n cael eu harwain gan frodyr a chwiorydd, a syniadau am yr hyn sydd ei angen i helpu’r teuluoedd hyn i ffynnu. Does dim angen i chi fod wedi gweithio’n benodol gyda brodyr a chwiorydd sy’n gofalu am berthnasau – bydd eich profiad o weithio gydag unrhyw ofalwyr sy’n berthnasau yn berthnasol iawn. Cewch hyd i’r arolwg yma:
Y stori hyd yma
Mae llawer o’r sgyrsiau hyd yma wedi codi materion ac ystyriaethau pwysig. Anaml iawn y bydd gofalwyr brodyr a chwiorydd sydd wedi cymryd rhan hyd yma wedi cwrdd â gofalwr arall sy’n frawd neu’n chwaer, neu wedi cael cyfle i adrodd eu stori. Mae brodyr a chwiorydd wedi dod yn ofalwyr drwy lawer o wahanol lwybrau, ond yn aml wedi wynebu rhwystrau tebyg wrth chwilio am help a chydnabyddiaeth. Mae ymarferwyr wedi tynnu sylw at yr angen i eirioli dros frodyr a chwiorydd fel darpar ofalwyr am nad ydynt yn aml yn cael eu hystyried.
Gobeithio y bydd y straeon a’r enghreifftiau ymarfer a gynhyrchir yn yr ymchwil hon yn helpu i gynyddu cydnabyddiaeth o’r grŵp hwn, ac yn dylanwadu ar y ffordd y mae gwasanaethau wedi’u cynllunio i fod yn addas ar gyfer teuluoedd sy’n cael eu harwain gan frodyr a chwiorydd.
Ariennir y PhD gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).
Mae Lorna Stabler yn Gydymaith Ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) ac yn fyfyriwr PhD yn DECIPHer. Gallwch ddod o hyd iddi ar Twitter yma.