Prif Ymchwilyddr
Yr Athro Graham Moore; Doctor Rachel Brown
Cefndir
Plant ysgol gynradd heddiw yw’r cyntaf i gael eu geni i gymdeithas lle mae ysmygu tybaco wedi’i wahardd mewn mannau cyhoeddus, ac ochr yn ochr ag ymddangosiad cyfochrog sigaréts electronig. Mae deall canfyddiadau o dybaco ac e-sigaréts ymhlith y garfan hon o bobl ifanc yn bwysig wrth lywio polisi atal tybaco cyfoes.
Nodau ac Amcanion
Nod yr astudiaeth yw:
• Deall canfyddiadau am dybaco ac e-sigarennau ymhlith plant ysgol gynradd;
• Edrych ar rolau canfyddedig e-sigarennau wrth lunio normau ysmygu, neu wrth ddiogelu pobl ifanc rhag cysylltiad â thybaco wedi’i ysmygu, o safbwyntiau plant, teuluoedd ac ysgolion;
• Sefydlu carfan hydredol o bobl ifanc, y gellir olrhain eu taflwybrau smygu a defnyddio e-sigaréts yn y dyfodol drwy’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN).
Dyluniad yr Astudiaeth
Yn yr astudiaeth dulliau cymysg hon, cynhaliwyd cyfweliadau ansoddol gyda disgyblion, staff a rhieni mewn pedair ysgol gynradd yng Nghymru. Yna gwnaethom gynnal arolwg o 2000 o ddisgyblion o fewn sampl genedlaethol gynrychioliadol o 73 o ysgolion ledled Cymru. Cafodd data ein harolwg eu cyfuno â’n harolygon CHETS a CHETS 2 cynharach er mwyn deall newid dros amser mewn canfyddiadau o dybaco ac e-sigaréts ymhlith plant ysgol gynradd yng Nghymru, a dod i gysylltiad â nhw.
Further information & publications
Beth Yw Barn Plant Ysgol Gynradd Yng Nghymru Am Smygu A Fepio?
Dyddiad cychwyn
04/18
Dyddiad gorffen
09/19
Arianwyr
Cancer Research UK Tobacco Advisory Group
Swm
£126,000