Mynd i'r cynnwys
Home » Ein Hinterniaethau yn ystod yr Haf – Grace, Raquel a Sophie

Ein Hinterniaethau yn ystod yr Haf – Grace, Raquel a Sophie

  • Flog


Grace Hummerston

Rwyf ar fin dechrau fy mhedwaredd flwyddyn Seicoleg, ar ôl blwyddyn ar leoliad yn gweithio ar waith ymchwil sy’n canolbwyntio ar y profiad o fwyta ac ymddygiadau sy’n gysylltiedig â bwyta mewn cyflyrau genetig prin. Hyd yn oed cyn fy lleoliad, rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mewn gwaith ymchwil ym maes iechyd a maeth. Trwy wneud cais am yr interniaeth hon, defnyddiais sgiliau ymchwil a ddatblygwyd eisoes ar leoliad a chymhwyso fy sgiliau i waith ymchwil ar lefel y boblogaeth.


Trwy gydol fy interniaeth, dan oruchwyliaeth Dr Sara Long a Rochelle Embling, rwyf wedi cael y fraint o weithio gyda DECIPHer ym Mhrifysgol Caerdydd ac adran Gwella Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar brosiect o’r enw ”Pwysau Iach, Byw’n Iach’: Datblygu negeseuon cyhoeddus sy’n seiliedig ar ymddygiad ar gyfer rheoli maint dognau mewn ymgyrchoedd iechyd digidol’. Roedd hyn yn cynnwys cydweithio â thimau amrywiol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: y Tîm Ymchwil a Gwerthuso, y Rhaglen Maeth a Gordewdra, y Tîm Marchnata Cymdeithasol a’r Uned Gwyddorau Ymddygiad.


Nod fy interniaeth oedd datblygu strategaethau negeseuon cyhoeddus effeithiol ar gyfer rheoli maint dognau, i’w cynnwys ar wefan “Pwysau Iach, Byw’n Iach” a’r ymgyrch farchnata gymdeithasol. Dechreuodd fy ngwaith drwy gynnal adolygiad cyflym o’r dystiolaeth i nodi’r technegau anfon negeseuon mwyaf effeithiol ar gyfer hyrwyddo dulliau rheoli maint dognau. Roedd y dasg o ysgrifennu adolygiad cyflym o dystiolaeth yn werthfawr gan iddo ehangu fy nealltwriaeth o’r hyn sydd wedi bod yn effeithiol mewn ymgyrchoedd blaenorol a pha fylchau sy’n bodoli o hyd. Trwy ddadansoddi astudiaethau ac erthyglau amrywiol, roeddwn yn gallu casglu mewnwelediadau i’r ffactorau amrywiol sy’n dylanwadu ar sut mae pobl yn rheoli dognau.


Un o uchafbwyntiau fy interniaeth oedd y cyfle i weithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr eraill sy’n gweithio ym meysydd ymchwil Iechyd y Cyhoedd, Maeth, Gordewdra a Gwella Iechyd. Rhoddodd hyn gyfle i mi weithio ar draws dau sefydliad sy’n cael eu cydleoli yn Sbarc a Capital Quarter.


Trwy’r cyfle hwn, datblygais ddarn o waith y gellir ei ddefnyddio’n ymarferol yn y byd go iawn, a dyna’r prif reswm y cefais fy nenu at yr interniaeth hon i ddechrau. Rwy’n gyffrous iawn i weld sut mae’r dystiolaeth a’r argymhellion yn cael eu cyflwyno ar y wefan.


Roedd yr interniaeth hon yn brofiad dysgu cadarnhaol a rhoddodd gyfle i mi gyfrannu at fenter iechyd y cyhoedd yn y byd go iawn. Roedd gweithio ar y prosiect hwn wedi fy ngalluogi i gymhwyso gwybodaeth, cydweithio ag ymchwilwyr a gweld effaith uniongyrchol fy ngwaith ar negeseuon iechyd y cyhoedd. Dros yr ychydig wythnosau nesaf, bydd fy adolygiad cyflym yn cael ei gyhoeddi fel adroddiad yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, a byddaf hefyd yn cyflwyno crynodeb o’r gynhadledd i Gynhadledd Ymchwil a Gwerthuso flynyddol ICC 2024, a gynhelir yng Nghaerdydd.


Yn gyffredinol, rwy’n ddiolchgar tu hwnt mai fi yw’r intern haf cyntaf i weithio ar draws DECIPHer ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rhoddodd y profiad gynifer o sgiliau gwerthfawr i mi ac edrychaf ymlaen at weld sut y bydd fy ngwaith ar reoli maint dognau o fudd i eraill.


Raquel Ron Parralejo 

Rwy’n fyfyriwr trydedd flwyddyn israddedig sy’n cwblhau gradd mewn Troseddeg a Chymdeithaseg. Roedd gen i ddiddordeb mewn gwaith ymchwil academaidd bob amser, ond yn ystod fy ail flwyddyn yn y brifysgol cefais fy nghyflwyno i waith ymchwil a gynhaliwyd at ddibenion ymyrryd a llunio polisïau a ysgogodd angerdd ynof. Roedd gweld sut roedd gwaith ymchwil a wnaed gan fy narlithwyr wedi helpu ein cymdeithas yn wirioneddol fy ysbrydoli i ddilyn y llwybr hwnnw hefyd. Roeddwn i eisiau darganfod mwy am y maes hwn, a dyna pam roeddwn i mor ddiolchgar pan gefais fy interniaeth yn DECIPHer.


Roedd fy lleoliad yn rhan o’r prosiect “Datblygu dulliau gwell ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd a chydweithio mewn gwaith ymchwil i iechyd y cyhoedd”, sydd wedi fy helpu i ddatblygu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa ym maes ymchwil. Roeddwn i’n gallu cymhwyso’r hyn roeddwn i wedi’i ddysgu yn ystod fy astudiaethau mewn lleoliad gwaith, yn ogystal â dysgu cymaint o wahanol agweddau o’r maes na fyddwn i wedi’u hystyried heb yr interniaeth. Gwnaeth fy ngoruchwylwyr, Jemma Hawkins a Hayley Reed, fy annog i fod yn chwilfrydig a gofyn cwestiynau iddynt, a diolch iddynt cefais fewnwelediadau a gwybodaeth dda y byddaf yn gallu eu defnyddio am weddill fy ngyrfa.


Yn ystod fy interniaeth, cefais fy nysgu sut i ddatblygu prosiect, sut i gynnal adolygiadau llenyddiaeth a sut i rwydweithio gyda gwahanol weithwyr proffesiynol a sefydliadau i gynorthwyo ein gwaith hymchwil – sgiliau y byddaf yn gallu eu trosglwyddo i fy nhraethawd hir y flwyddyn nesaf a gobeithio i fy astudiaethau ôl-raddedig. Yn DECIPHer, cefais fy nghymell i amsugno gwybodaeth o waith ymchwil a oedd yn digwydd o’m cwmpas. Roedd hyn yn aml yn cynnwys dysgu gan ymchwilwyr o dramor a fyddai’n rhoi safbwynt unigryw i ni ar broblemau cymdeithasol sy’n digwydd ledled y byd. Roedd yn brofiad mor gadarnhaol i gael fy amgylchynu gan unigolion mor angerddol a gweithgar rwyf yn rhannu diddordebau tebyg â nhw ac a oedd bob amser yn gyfeillgar ac yn ystyriol tuag ataf.


Sophie Hughes

Rwy’n fyfyriwr israddedig yn y gwyddorau biofeddygol ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda diddordeb brwd mewn afiechyd, ffisioleg a geneteg. Taniwyd fy angerdd am waith ymchwil ym maes gofal iechyd am y tro cyntaf yn ystod blwyddyn ar leoliad yn ymchwilio i dueddiadau genetig mewn clefyd yr arennau ac anafiadau. Yn ystod y cyfnod hwn, cefais gyfle hefyd i gyfweld ag unigolion y mae rhoi organau wedi effeithio arnynt am eu profiad a’u canfyddiadau. Arweiniodd y profiad hwn at waith ymchwil ym maes iechyd cymdeithasol ac ymddygiadol. Cefais fy nenu’n arbennig at DECIPHer ar ôl dysgu am eu prosiectau arloesol ym maes y gwyddorau cymdeithasol.
O’r diwrnod cyntaf, roedd DECIPHer yn amgylchedd cyfeillgar a chroesawgar. At hynny, roedd adeilad Sbarc yn lle bywiog ac ysbrydoledig iawn i weithio!


Gan gamu i faes y gwyddorau cymdeithasol o gefndir academaidd gwahanol, roeddwn yn arbennig o werthfawrogol o’r arweiniad gan fy ngoruchwylwyr a’m cyd-ymchwilwyr. Roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi bob cam o’r ffordd.


Roedd fy interniaeth wyth wythnos, dan oruchwyliaeth Dr Samantha Garay a Dr Kelly Morgan, yn canolbwyntio ar archwilio effaith hysbysebu bwyd a diod llawn siwgr, halen a braster a gwerthuso polisïau sydd â’r nod o fynd i’r afael â’r mater hwn. Cefais gyfle i gymryd rhan mewn amrywiol agweddau ar waith ymchwil, gan gynnwys casglu data ansoddol trwy gyfweld â thrigolion a rhanddeiliaid, yn ogystal â dadansoddi data ansoddol a chynnal gwiriadau ansawdd. At hynny, bûm yn gweithio’n agos gyda’r cyngor lleol i gasglu data meintiol ar y dirwedd hysbysebu o amgylch Caerdydd. Dysgodd yr ymarfer mapio hwn i mi sut i gasglu data meintiol yn effeithlon a gwella fy sgiliau cynllunio prosiectau. At hynny, mae cynnal adolygiad cwmpasu wedi rhoi mewnwelediad i mi ar werthuso prosesau a chyflwyno polisïau, yn ogystal â mireinio fy sgiliau adrodd ar waith ymchwil, a fydd yn allweddol ar gyfer fy mlwyddyn olaf.


Un o uchafbwyntiau fy amser yma oedd cymryd rhan mewn fforymau ymchwil a chyfarfodydd. Mae’r awyrgylch cydweithredol a’r trafodaethau ochr yn ochr ag ymchwilwyr profiadol wedi bod yn amhrisiadwy.
Rwyf wedi datblygu amrywiaeth eang o sgiliau sydd wedi fy mharatoi ar gyfer prosiectau ymchwil yn y dyfodol a’m blwyddyn olaf. Rwy’n argymell interniaeth gyda DECIPHer yn fawr i’r rhai sydd am gael blas ar ymchwil yn y byd go iawn! Rwyf hefyd yn credu bod yr interniaeth hon yn gyfle gwych i’r rhai sydd am gael gwell dealltwriaeth o’r llwybr y maent am ei ddilyn.

Dysgwch fwy am Cyfleoedd interniaeth ar y campws yma: Cyfleoedd interniaeth ar y campws.