Mynd i'r cynnwys
Home » Amgylchedd anhygoel lle mae pawb yr un mor frwdfrydig ynghylch ymyriadau cymhleth â mi.’ Frederik ar ei ymweliad ymchwil â DECIPHer

Amgylchedd anhygoel lle mae pawb yr un mor frwdfrydig ynghylch ymyriadau cymhleth â mi.’ Frederik ar ei ymweliad ymchwil â DECIPHer

  • Flog
Tagiau:

Mae Frederik Martiny yn feddyg meddygol yn ôl cefndir, sy’n gweithio ar hyn o bryd fel myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Copenhagen.
Yn ddiweddar ymwelodd â DECIPHer am chwe wythnos i ddysgu rhagor am optimeiddio ymyriad cymhleth.

Beth ddaeth â chi i DECIPHer?


Y tro cyntaf i mi glywed am DECIPHer oedd mewn cyflwyniad am ganllawiau ADAPT gan Graham Moore yn Aarhus yn Nenmarc nôl ym mis Mai 2022. Yn fy mhrosiect PhD, rwyf wedi ‘addasu’r canllawiau ADAPT’ rywfaint, gan eu defnyddio i optimeiddio arfer arloesol lleol lle mae ymgynghorwyr meddygaeth gymdeithasol yn cynghori gweithwyr achos ar sut i ymdrin ag achosion cymhleth o absenoldeb salwch, a elwir y fenter SMC-SICK. Dechreuodd Graham a minnau siarad a soniais fod disgwyl i ni yn Nenmarc dreulio pedair wythnos mewn amgylchedd ymchwil arall yn ystod ein PhD, a chyn hir roeddwn wedi trefnu ymweliad â DECIPHer! Yn fuan wedi hynny, cyflwynodd Graham fi i Jemma Hawkins, a buom yn cwrdd ar-lein dros y flwyddyn ganlynol i drafod sut y gallwn drefnu’r broses o gydweithio â rhanddeiliaid i optimeiddio’r fenter, proses sydd weithiau – wel yn aml – yn anniben.

Sut brofiad oedd ymgartrefu yn eich amgylchedd newydd?


Cyrhaeddais ym mis Awst 2024 ac roeddwn yn teimlo fel VIP pan aeth Jemma ati i fy nhywys o gwmpas Prifysgol Caerdydd, SPARK, y lleoedd gorau i gael coffi, bwyd a mwy. Dros y dyddiau nesaf, cefais fy nghyflwyno i weddill tîm DECIPHer, a dysgais yn gyflym bod yna ddiwylliant/amgylchedd ymchwil anhygoel yma lle mae pawb yn groesawgar ac yr un mor frwdfrydig, os nad yn fwy, â mi ynghylch ymyriadau cymhleth – am wefr oedd hynny – ac roeddwn yn teimlo’n gartrefol ar unwaith.

Am y pedair wythnos gyntaf, cefais gwmni Hanna Ristolainen, a oedd yn ymweld o’r Ffindir. Buan iawn y daethom o hyd i’n man arferol yn ardal desgiau poeth DECIPHer, a chawsom lawer o hwyl yn datrys posau jig-so yn yr ardal gyffredin yn ystod pob egwyl – mae hynny’n bendant yn gysyniad y byddaf yn dod ag ef adref gyda mi! Cafodd y ddau ohonom gyfle i gyflwyno ein prosiectau ymchwil yn fforwm misol DECIPHer, ac yno cawsom drafodaeth dda am yr hyn y mae’n ei olygu mewn gwirionedd i ddatblygu/optimeiddio/addasu ymyriad cymhleth, sut i wneud gwerthusiadau prosesau ffurfiannol pragmatig a mwy.

Pendroni dros bosau yn SPARK

Beth ydych chi wedi’i fwynhau?


Rwyf wedi mwynhau’n fawr y clybiau ysgrifennu bob pythefnos dan arweiniad Rabeea’h Aslam, sydd wedi bod yn gymysgedd da o sesiynau ysgrifennu cynhyrchiol, sgyrsiau hwyliog a golygfeydd anhygoel o falconi’r 6ed llawr yn SPARK. Dangosodd Alan Felstead a Jordan Van Godwin i mi y gallwch ddysgu cryn dipyn am ymchwil pobl eraill – a’ch ymchwil eich hun – trwy fynd am dro a chael clonc gyda choffi gwych neu dros ginio. Cyflwynodd Simon Murphy a Maria Boffey fi i’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN), a’r modd y maent yn gweithio gyda chyfnewid gwybodaeth, seilwaith data, a chydlynu blaenoriaethau a barn ymchwilwyr, llunwyr polisïau, ac ymarferwyr yn eu rhwydwaith – mewnwelediadau gwirioneddol ysbrydoledig rwy’n gobeithio y gallwn eu haddasu rywsut yn Nenmarc yn fy meysydd i, sef adsefydlu galwedigaethol a meddygaeth gymdeithasol.

Diolch yn fawr i Graham a Jemma am roi cyngor amhrisiadwy i mi cyn ac yn ystod fy nghyfnod yma yn DECIPHer – gan gynnwys darparu adborth adeiladol ar ddrafftiau fy erthyglau hir! Mae Nicola Trigg hefyd yn haeddu cymeradwyaeth fawr am gymryd gofal mor dda o Hanna a minnau, ac am fynd â ni i heicio ym mhrydferthwch Cymru, gan wneud yn siŵr ein bod yn gweld mwy o Gymru na’r hyn y gallem ei weld o’n cornel fach yn yr ardal desgiau poeth.

Yn olaf, diolch yn fawr i Clare Olson am rannu ei dirnadaeth o gyfleu canfyddiadau ymchwil ac ymgysylltu â phobl mewn ymchwil – ac am gymryd amser i olygu fy Saesneg-Daneg yn y postiad hwn.

Mwynhau cefn gwlad cymru

Yn ystod wythnos olaf fy arhosiad, cefais y cyfle i fynd ar gyrsiau byr DECIPHer ar astudiaethau dichonoldeb, gwerthuso prosesau a defnyddio canllawiau ADAPT, a oedd yn brofiad dysgu gwych ac yn lle da i gwrdd a thrafod ag ymchwilwyr o bob cwr o’r byd.

Sut y mae’r ymweliad wedi effeithio ar eich ymchwil?


Roedd ymweld â DECIPHer wedi rhagori o bell ffordd ar fy nisgwyliadau – mae wedi cael mwy o effaith ar fy ymchwil nag yr oeddwn wedi meiddio gobeithio amdani! Roeddwn wedi bwriadu gweithio ar y drydedd astudiaeth yn fy mhrosiect pan oeddwn yma, ond yn y diwedd gweithiais ar lond gwlad o bethau eraill oherwydd yr holl syniadau da a gefais yn sgil trafodaethau â phobl yma, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb yn dilyn sgyrsiau â Jeremy Segrott, rwy’n edrych ymlaen at barhau â nhw ar-lein pan fyddaf yn dychwelyd adref.

Mae’n ymddangos bod DECIPHer wedi llwyddo i sicrhau cydbwysedd gwych rhwng amgylchedd ymchwil hamddenol lle gallwch wneud posau gyda’ch cyd-weithwyr dros ginio yn ogystal â gwneud ymchwil arloesol sy’n trawsnewid ymarfer. Rwy’n gobeithio y byddaf yn gallu dod â rhai o’r pethau rwyf wedi’u dysgu adref gyda mi – rwyf eisoes yn meddwl yn galed am sut y gallaf ddod yn ôl yma rywsut i ymweld â mwy o Gymru a mwynhau’r awyrgylch a’r amgylchedd gwaith anhygoel yn DECIPHer.

Mae chwe wythnos wedi mynd heibio mor gyflym – rwy’n wirioneddol ddiolchgar i’r holl bobl a wnaeth fy arhosiad yma yn DECIPHer yn brofiad dysgu gwych ac yn amser arbennig yn gyffredinol.

Yn awyddus i wybod rhagor am Frederik a’i ymchwil?


Mae Frederik wedi’i leoli yn y Ganolfan Ymchwil Ymarfer Cyffredinol ym Mhrifysgol Copenhagen ac yn yr Adran Meddygaeth Gymdeithasol yn Ysbyty Frederiksberg ym Mhrifddinas-Ranbarth Denmarc. Gallwch ddarllen rhagor am ymchwil Frederik yn y disgrifiad prosiect dwy dudalen ar-lein hwn.

Gallwch weld proffil ymchwil Frederik yma: https://research.ku.dk/search/result/?pure=en%2Fpersons%2F395880.

Neu ei broffil LinkedIn yma: https://www.linkedin.com/in/frederik-martiny-173368174.