Dyma Emma Wassell, myfyriwr seicoleg, yn trafod ei lleoliad blwyddyn o hyd yng Nghanolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer), lle cafodd y cyfle i fireinio ei sgiliau ymchwil data ar brosiect rhyngwladol Hyrwyddo Iechyd Gydol Oes sy’n Canolbwyntio ar Deuluoedd a’r Glasoed (FLOURISH).
Rwy wastad wedi bod eisiau ymgymryd â lleoliad ymchwil a chael cyfle i gyfrannu at brosiect ystyrlon yn y byd go iawn. Roedd y cyfle hwn yn swnio’n dda gan fy mod wastad wedi bod â diddordeb mewn seicoleg ddatblygiadol, yn enwedig yr effaith y mae perthnasoedd rhwng rhieni a phlant yn ei chael ar ddatblygiad pobl yn hwyrach yn eu bywydau.
Yn rhan o’r lleoliad hwn, ces i’r cyfle i weithio ar y prosiect Hyrwyddo Iechyd Gydol Oes sy’n Canolbwyntio ar Deuluoedd a’r Glasoed (FLOURISH). Prosiect ymchwil gwyddoniaeth gweithredu yw hwn sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd rhwng rhieni a’r glasoed a fydd yn addasu, gweithredu a gwerthuso’r rhaglen Magu Plant er Iechyd Gydol Oes i Bobl Ifanc (PLH) ym Moldofa a Gogledd Macedonia. Roeddwn i’n awyddus i weithio ar y prosiect hwn gan nad oeddwn i erioed wedi gweithio yn rhan o dîm ymchwil rhyngwladol.
Cafodd y rhaglen PLH ei haddasu ar gyfer Gogledd Macedonia a Moldofa ac ychwanegwyd ati mewn tair ffordd: Cyflwyno pecyn cymorth Helpu Pobl Ifanc i Ffynnu (HAT); gwella cymorth gan gyfoedion i bobl ifanc; rhoi hwb i gyfranogiad y glasoed, anelu at hybu iechyd meddwl ymhlith y glasoed.
Roedd cael y cyfle i ddefnyddio dulliau o’r fath ‘yn y swydd’ i gynhyrchu cipolygon ystyrlon yn rhoi pwrpas i fy ngwaith
Dechreuais i fy lleoliad ym mis Medi 2023, yn ystod cam un y prosiect ymchwil, sef astudiaeth beilot ddichonoldeb gyda’r nod o brofi effeithiolrwydd yr ymyriad hwn yn y lleoliadau newydd. Roedd yn ddiddorol iawn gweld y dulliau ymchwil a astudiais i yn ystod fy ngradd Seicoleg israddedig yn cael eu rhoi ar waith; er enghraifft, glanhau data ffurflenni adborth y rhai oedd yn cymryd rhan ym Moldofa a Gogledd Macedonia a dadansoddiad thematig o themâu cyffredin yn y ffurflenni.
Rhoddodd fy ngwybodaeth flaenorol o ddulliau o’r fath sylfaen gadarn i mi ar gyfer y prosiect hwn. Fodd bynnag, roedd cael y cyfle i ddefnyddio dulliau o’r fath ‘yn y swydd’ i gynhyrchu cipolygon ystyrlon yn rhoi pwrpas i fy ngwaith, a oedd yn rhoi boddhad mawr i fi. Ers ymgymryd â’r lleoliad, rwy’n teimlo’n llawer mwy gwybodus ynghylch pa arddulliau fformat glanhau data fydd yn sicrhau eglurder. Yn ogystal, rwy wedi dysgu dulliau defnyddiol i wneud yn siŵr na fydd gwallau cyffredin yn digwydd eto yn ystod cyfnodau diweddarach yr astudiaeth trwy aralleirio neu ailfformatio rhai cwestiynau.
Roedd y ffordd yr oedd y timau ymchwil rhyngwladol yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod y prosiect yn cael ei gynnal yn y ffordd fwyaf effeithiol yn ddiddorol iawn hefyd.
Yn rhan o fy lleoliad, ces i gyfle anhygoel i fynd i gyfarfod ymchwil blynyddol FLOURISH yn Belgrade, Serbia. Fe wnes i ddysgu a gwella fy nealltwriaeth o sut i drin a thrawsnewid data a sut bydd y data yn parhau i gael eu defnyddio yn eu cyd-destun ehangach gan dimau o wledydd eraill. Roedd y ffordd yr oedd y timau ymchwil rhyngwladol yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod y prosiect yn cael ei gynnal yn y ffordd fwyaf effeithiol yn ddiddorol iawn hefyd.
Ar y cyfan, mae fy lleoliad wedi gwneud i fi deimlo’n angerddol iawn dros ymchwil sy’n ceisio dod o hyd i atebion byd go iawn ar gyfer perthnasoedd rhwng y glasoed a’u cyfoedion. Roedd fy mlwyddyn yn DECIPHer yn fwy na lleoliad yn unig – fe wnes i ddysgu’r effaith y gall ymchwil ei chael ar ddyfodol unigolyn, yn yr achos hwn trwy drawsnewid y berthynas rhwng rhieni a phobl ifanc mewn ffordd gadarnhaol.
Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am FLOURISH yma:
https://www.flourish-study.org/about.html.