
Mae Georgina Booth yn astudio gradd meistr mewn seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ddiweddar, gwnaeth leoliad gwaith am dri mis yn DECIpher gyda Dr Rabeea’h Waseem Aslam a Dr Jemma Hawkins ar eu prosiect sy’n canolbwyntio ar y ddarpariaeth gofal iechyd i bobl ifanc sy’n profi seicosis yn y DU, Brasil a Periw.

Fe wnes i fwynhau fy mhrofiad gwaith yn DECIPHer yn fawr iawn, ac rwy wedi datblygu gymaint o sgiliau. Dechreuais i astudio seicoleg yn hwyrach mewn bywyd, ar ôl astudio gradd israddedig yn y Gwyddorau Meddygol a gweithio mewn nifer o swyddi gwahanol, felly roeddwn i ychydig yn bryderus am fod yn rhan o grŵp ymchwil academaidd. Fodd bynnag, mae wedi bod yn brofiad gwych cael rhoi rhai o’r sgiliau a’r profiadau o’r gweithle ar waith yn y lleoliad hwn, yn ogystal â dysgu cryn dipyn yn fwy am sut mae ymchwil academaidd yn cael ei gynnal.
Mae pawb sy’n rhan o dîm DECIPHer yn groesawgar iawn. Roedd gweithio gyda Rabeea’h a Jemma yn gyfle gwerthfawr i ddysgu am ymchwil ansoddol, ac roeddwn i’n cael fy annog i drafod fy syniadau a fy safbwyntiau yn y grŵp, ac i ddysgu o adborth. Rwy wir yn argymell profiad gwaith yn DeCIPHer os ydych chi’n chwilio am gyfle i gael profiad o fod yn rhan o waith ymchwil diddorol dros ben a gweithio gydag ymchwilwyr profiadol fel Rabeea’h a Jemma, ac yn awyddus i fod yn rhan o drafodaethau academaidd yr adran.
Mae’r profiad wedi atgyfnerthu fy niddordeb mewn ymchwil iechyd y cyhoedd a meysydd eraill seicoleg. Mae Rabeaa’h a Jemma wedi bod yn gefnogol iawn o hyn, ac wedi fy annog i geisio am swyddi ymchwil a deall sut i ddisgrifio’r sgiliau ymchwil a ddysgais yn DECIPHer yn y ffordd orau, gan gynnwys dadansoddiad thematig, defnyddio’r meddalwedd codio NVivo, a’r broses recriwtio sydd ynghlwm â chyfweliadau lled-strwythuredig. Yn rhan o fy ngradd meistr, rhaid i ni fyfyrio ar ein profiadau yn ystod y lleoliad. Rwy wedi mwynhau myfyrio ar faint o gynnydd rwy wedi’i wneud yn fy ngalluoedd ymchwil yn ystod fy amser yma. Bydda i’n parhau i ddefnyddio’r sgiliau a ddysgais yn DECIPHer yn fy ngyrfa yn y dyfodol ac yn hel atgofion melys am y cyfnod hwn.
Daeth Georgina o hyd i’w lleoliad trwy Dîm Lleoliadau Seicoleg Prifysgol Caerdydd. Mwy o wybodaeth yma: https://www.cardiff.ac.uk/cy/psychology/about-us/placements.