
Daeth digwyddiad lansio swyddogol RISE â rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd i drafod heriau darparu prydau ysgol am ddim a’r cyfleoedd cysylltiedig
Ym mis Ebrill 2025, sicrhaodd Prifysgol Caerdydd £1.6 miliwn mewn cyllid gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) er mwyn arwain prosiect sy’n ymchwilio i ddarpariaeth prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd a’r niferoedd sy’n bwyta ac yn manteisio arnyn nhw. Lleihau Anghydraddoldebau mewn Amgylcheddau Bwyd Ysgolion (RISE): Iechyd Cyhoeddus Cymru, LACA a Chomisiynydd Plant Cymru sy’n helpu i hyrwyddo a darparu prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd. Mae’r tîm ymchwil yn cynnwys academyddion iechyd y cyhoedd o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Glasgow Caledonia, Prifysgol Newcastle a Phrifysgol Queen’s Belfast.
Ystod o wybodaeth
Cadeiriwyd y digwyddiad lansio, a gynhaliwyd yn adeilad sbarc|spark Prifysgol Caerdydd, gan yr Athro Kevin Morgan, a bu diwrnod cyfan o gyflwyniadau gan academyddion ac ymarferwyr blaenllaw, gyda digon o gyfleoedd i drafod a rhwydweithio. Dechreuodd yr Athro Morgan gyda Myfyrdodau ar y Plât Cyhoeddus, gan osod naws diwrnod a ganolbwyntiodd ar degwch, cynaliadwyedd a realiti go iawn amgylcheddau bwyd ysgolion. Cyflwynodd sesiynau’r bore bedwar pecyn gwaith craidd RISE, gyda throsolygon gan yr Ymchwilydd Arweiniol Dr Sara Long, y cyd-ymchwilydd Dr Rochelle Embling a’r cyd-Brif Ymchwilydd Dr Kelly Morgan. Cafwyd adborth gwerthfawr yn ystod y drafodaeth ar brosesau ymchwil gan y rhanddeiliaid, a fydd yn sail i’r astudiaeth at y dyfodol.
Roedd ail thema’r digwyddiad yn canolbwyntio ar y dirwedd ehangach o ran polisi-ymarfer-ymchwil. Ymhlith y siaradwyr roedd: Judith Gregory (LACA) ar flaenoriaethau caffael a darparu; Dr Julie Bishop (Iechyd Cyhoeddus Cymru) ar oblygiadau prydau ysgol am ddim ar gyfer iechyd y boblogaeth; Jonathan Tench ar ddatblygu system fwyd gynaliadwy yng Nghymru; a’r Athro Jayne Woodside ar GENIUS School Food Network a chyd-destun Gogledd Iwerddon.
Yn y prynhawn, rhannwyd gwybodaeth gan Rachel Bath am sut mae RISE yn cyd-fynd â gweledigaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ar iechyd plant; Gareth Thomas a Cara Lewis (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru) am gefnogi gweithredu polisïau; Dr Judi Kidger am ganfyddiadau gwerthusiad o brydau ysgol am ddim cynhwysol mewn dwy ysgol uwchradd yn Lloegr; yr Athro John McKendrick am brydau ysgol yn ysgolion cynradd yr Alban; a Dr Suzanne Spence am waith sy’n canolbwyntio ar ogledd-ddwyrain Lloegr.
Mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu cymdeithas
Yng ngeiriau’r Athro Morgan, cynigiodd y digwyddiad ‘safbwyntiau aml-ddimensiwn’ ar fater cymhleth. Roedd y pynciau’n amrywio o ddulliau ymchwil i faeth, cynaliadwyedd, stigma a chydymffurfiaeth mewn tirwedd lle mae safonau maeth yn newid yn aml. Roedd themâu allweddol y dydd yn cynnwys:
- Rôl caffael a pholisi wrth lywio amgylcheddau bwyd ysgolion
- Yr hyn sy’n rhwystro ac yn galluogi rhieni i fanteisio ar brydau ysgol am ddim
- Cynnwys maethol prydau bwyd sy’n cael eu gweini a’u bwyta mewn neuaddau bwyta ysgolion
- Y goblygiadau ehangach ar gyfer iechyd plant a systemau bwyd cynaliadwy

Dyma ddywedodd y Prif Ymchwilydd Dr Long: ‘Mae RISE yn ymchwilio i bwysigrwydd bwyd mewn ysgolion yng nghyd-destun heriau cymdeithasol allweddol megis iechyd, lles a chynaliadwyedd, oll drwy lens yr argyfwng costau byw presennol. Mae’n hanfodol bod agendâu polisi-ymarfer-ymchwil yn cyd-fynd â bwyd mewn ysgolion, ac mae dod ag ystod eang o randdeiliaid ynghyd heddiw i ddadlau a thrafod yn gam bwysig tuag at hyn.’
Mae rhagor o wybodaeth am RISE ar gael ar dudalen astudiaeth RISE: Lleihau Anghydraddoldebau mewn Amgylcheddau Bwyd Ysgol (RISE): Cefnogi’r ddarpariaeth, y niferoedd a’r defnydd o Brydau Ysgol Am Ddim mewn ysgolion cynradd
