
Roedd Dr Oishee Kundu yn awyddus i greu gêm gardiau syml i gael myfyrwyr i drafod anghydraddoldeb. Y canlyniad yw ymarfer sy’n procio’r meddwl wrth dynnu sylw at faterion cymhleth.

Mae gennych chi ddau gerdyn o’ch blaen – un y gallwch chi ei ennill drwy rolio 2, 3, 4 neu 6 ar ddis a’r llall y gallwch chi ei ennill dim ond os byddwch chi’n rholio 1. Rydych chi’n penderfynu betio ar y cerdyn cyntaf – mae mwy o siawns o’i gael wedi’r cyfan. Mae’r dis yn rholio i 4, rydych chi’n cael eich cerdyn ac rydych chi’n hapus. Rhaid i’ch gwrthwynebydd, ar y llaw arall, nawr geisio rholio 1 i gael y cerdyn arall. Ac yna mae’r gêm yn cynhesu – pwy all gael 1 yn gyntaf? Ar ôl cwpwl o ymdrechion, mae eich gwrthwynebydd yn llwyddo i gael y cerdyn. Rydych chi’ch dau nawr yn troi eich cardiau i weld eich tynged:
Eich cerdyn chi: Clipart bywiog o fag siopa yn llawn ffrwythau a llysiau. “Rydych chi wedi siopa am fwyd yr wythnos heb boeni am y gost.”
Eich gwrthwynebydd: Person mewn cadair olwyn wrth ymyl basged o fwyd. “Diolch i’r banc bwyd, mae gennych chi fwyd ar gyfer yr ychydig ddyddiau nesaf. Profodd 27% o bobl anabl ansicrwydd bwyd yn y DU yn 2024, dros ddwywaith y gyfradd ymhlith pobl nad ydynt yn anabl.”
Rydych chi’ch dau wedi cael cerdyn yr un, chi gafodd y cerdyn cyntaf, ond pwy sydd wedi ennill y gêm?

‘Rydw i wastad yn cael fy synnu fod gan gemau’r pŵer i ddatgelu credoau a rhagfarnau cynhenid chwaraewyr ac felly roedd defnyddio’r gêm i adael i fyfyrwyr ddysgu mwy am ei gilydd yn ymddangos fel ffordd dda i gychwyn sgyrsiau.’
Creais Dice and Disparity ar gyfer y modiwl Gwyddor Gymdeithasol a Materion Cymdeithasol a ddysgir i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd gan Dr Honor Young. Mae myfyrwyr ar y cwrs yn dysgu am y damcaniaethau a’r trafodaethau yn y gwyddorau cymdeithasol ynghylch ffynonellau ac achosion anghydraddoldeb, sut mae gwahanol grwpiau demograffig yn profi anghydraddoldeb, ac yn bwysicaf oll, sut i gydweithio fel grŵp i gyflawni prosiect yn mapio anghydraddoldeb mewn ardal benodol yng Nghaerdydd. Y cymhelliant gwreiddiol ar gyfer y gêm oedd cael myfyrwyr i siarad â’i gilydd am anghydraddoldeb – y gêm yn ysgogi sgwrs – ac iddyn nhw ddod i adnabod ei gilydd ar gyfer gwaith grŵp. Rydw i wastad yn cael fy synnu fod gan gemau’r pŵer i ddatgelu credoau a rhagfarnau cynhenid chwaraewyr ac felly roedd defnyddio’r gêm i adael i fyfyrwyr ddysgu mwy am ei gilydd yn ymddangos fel ffordd dda i gychwyn sgyrsiau.
Fodd bynnag, wrth ddatblygu’r gêm, dechreuais weld y dis fel “y system” a sylweddoli bod llawer gan y gêm i’w ddweud am y ffordd y gellir gweld anghydraddoldeb systemig yn ein cymdeithasau. Mae’r gêm yn dangos sut mae rhai pobl yn cael amser llawer anoddach i sicrhau pethau sylfaenol fel digon o fwyd, lle diogel i gysgu, neu basio arholiadau. Dyw hyn ddim yn digwydd am nad ydyn nhw’n ymdrechu, ond oherwydd bod y “system” (y dis) yn rhoi llai o gyfleoedd iddyn nhw. Dyna pam, yn y gêm, mae’n rhaid i chi rolio rhif arbennig weithiau i gael cardiau penodol, sy’n golygu eu bod yn anoddach eu cael, tra bod cardiau eraill yn llawer haws.

‘Mae’r gêm yn dangos sut mae rhai pobl yn cael amser llawer anoddach i sicrhau pethau sylfaenol fel digon o fwyd, lle diogel i gysgu, neu basio arholiadau. Dyw hyn ddim yn digwydd am nad ydyn nhw’n ymdrechu, ond oherwydd bod y “system” (y dis) yn rhoi llai o gyfleoedd iddyn nhw.’
Nid Dice and Disparity oedd y gêm gyntaf i mi ei datblygu, ond dyma’r gyntaf i wneud i mi grio yn ystod y broses ddatblygu, oherwydd cefais fy syfrdanu wrth ddarllen rhai o’r ystadegau am anghydraddoldebau addysgol ac iechyd. Rydyn ni’n byw mewn byd erchyll, ac mae hi mor hawdd syrthio yn wyneb y “system”! Rhywedd, ethnigrwydd, cyflyrau iechyd corfforol a meddyliol, incwm teuluol a bod ag aelwyd sefydlog neu beidio – maen nhw i gyd yn cyfrannu at y bywyd rydych chi’n ei brofi. Mae rholio dis yn creu’r teimlad bod cerrig milltir bywyd yn seiliedig ar lwc yn hytrach nag ar eich ymdrechion a’ch rhinweddau, ond dyna’n union y ddadl a wneir (mewn llawer mwy o eiriau) yn The Tyranny of Merit gan yr athronydd Michael Sandel.
Ar brynhawn oer a gwlyb ym mis Chwefror, chwaraeodd 22 o fyfyrwyr y gêm. Mae’n cymryd pum munud (neu lai) i’w osod ac o fewn 15 munud, roeddwn i’n hapus iawn gyda’r myfyrdodau oedd yn dod i’r amlwg. Gofynnais i’r myfyrwyr a hoffent roi “sêr” neu bwyntiau i gardiau. Roedd y rhan fwyaf o grwpiau’n ei chael hi’n anodd dod i gonsensws, ac roedd y canlyniadau’n amrywiol. At ei gilydd, roedd cydberthynas negyddol wan rhwng anhawster cael cerdyn a’i werth mewn sêr, sydd efallai’n adlewyrchu’r gwahaniaethau mewn gwerthoedd a blaenoriaethau ymhlith gwahanol bobl (gweler y ffigur isod am sylwadau gan chwaraewyr).

‘Nid Dice and Disparity oedd y gêm gyntaf i mi ei datblygu, ond dyma’r gyntaf i wneud i mi grio yn ystod y broses ddatblygu, oherwydd cefais fy syfrdanu wrth ddarllen rhai o’r ystadegau am anghydraddoldebau addysgol ac iechyd.’
Ac efallai mai dyna’r achos dros ddefnyddio’r gêm yn y dyfodol – nodi a blaenoriaethu ystyriaethau cymdeithasol mewn cymunedau, meithrin consensws, a dyrannu adnoddau i fynd i’r afael â heriau cymhleth heb gael eich parlysu gan gymhlethdod. Efallai fod defnyddio gêm yn ymddangos yn wamal, hyd yn oed yn blentynnaidd, ond dwi bob amser yn dadlau bod gemau’n cyfleu “plentynoldeb”. Mae plentynoldeb yn cyfeirio at y rhan ddeinamig, ddychmygus, arbrofol a chwilfrydig ohonom sy’n amlwg iawn yn ystod plentyndod ond a all dawelu dros amser wrth i ni dyfu’n hŷn. Mae cynnwys chwarae mewn amgylcheddau dysgu ac ymchwil yn caniatáu i ni ailafael yn y rhinweddau hynny a allai fod wedi pylu ond sy’n dal yn gynhenid bresennol ym mhob un ohonom ni!
Hoffech chi chwarae?

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gêm, neu roi cynnig arni eich hun, gallwch gysylltu ag Oishee: KunduO@cardiff.ac.uk.
