Mynd i'r cynnwys
Home » MENSTRUATE: Cefnogi cyfathrebu am iechyd mislif — mewn teuluoedd a gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol

MENSTRUATE: Cefnogi cyfathrebu am iechyd mislif — mewn teuluoedd a gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol

  • Flog

Ledled Cymru, mae miloedd o bobl ifanc yn profi poenau neu symptomau mislif difrifol, ac eto dim ond tua un o bob deg sy’n ceisio cymorth gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Yma, mae Dr Becky Anthony yn trafod lansio MENSTRUATE, astudiaeth sydd am gynorthwyo pobl ifanc a’u teuluoedd i siarad am iechyd mislif a manteisio ar ofal iechyd.

I lawer o bobl ifanc, mae poenau mislif difrifol, gwaedu trwm, cylchoedd afreolaidd, a phroblemau iechyd mislif eraill yn dal i gael eu diystyru a’u galw’n “normal,” eu camddeall, neu does neb yn sôn amdanyn nhw. Gall y profiadau hyn yn aml oedi diagnosis ar gyfer cyflyrau fel endometriosis neu PCOS, yn ogystal ag amharu ar brofiadau ysgol, cyfeillgarwch, hyder, a lles cyffredinol.

Drwy fy ngwaith yn DECIPHer a gwaith Ymchwil Iechyd Menywod Cymru, rwy’n gweld pa mor aml mae pobl ifanc yn gorfod ymdrin â’r heriau hyn ar eu pen eu hunain. Mae teuluoedd yn hanfodol i helpu pobl ifanc i ddeall beth sy’n digwydd yn eu cyrff, penderfynu pryd i geisio cymorth, a theimlo bod ganddynt gefnogaeth wrth geisio cymorth a phan fydd symptomau’n anodd. Dyna pam rydyn ni’n lansio MENSTRUATE — astudiaeth newydd wedi’i chynllunio i helpu teuluoedd i siarad yn fwy agored am iechyd mislif a chynorthwyo pobl ifanc i gael yr help sydd ei angen.

Beth ysbrydolodd yr astudiaeth ymchwil?

Lluniwyd yr astudiaeth yn bennaf gan Gynllun Iechyd Menywod Llywodraeth Cymru a Chynllun Gweithredu Strategol Urddas Mislif, gyda’r ddau yn nodi iechyd mislif yn flaenoriaeth allweddol. Ledled Cymru, mae miloedd o bobl ifanc yn profi poenau neu symptomau mislif difrifol sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd, ac eto mae ymchwil yn awgrymu mai dim ond tua un o bob deg sy’n ceisio cymorth gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Mae llawer sydd ddim yn gwybod pa symptomau sy’n nodweddiadol, yn teimlo embaras wrth godi pryderon, neu’n poeni na fyddan nhw’n cael eu cymryd o ddifrif.

Hefyd, roedd canfyddiadau astudiaeth Severe Period Pain Is Not Normal (SPPINN), dan arweiniad Dr Robyn Jackowich yn Ymchwil Iechyd Menywod Cymru yn ddylanwad arnaf i. Roedd yr ymchwil yn dangos pa mor bwysig yw cyfathrebu o fewn teuluoedd. Nododd rhai pobl ifanc eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu credu a’u cefnogi gartref, tra bo eraill yn teimlo bod eu symptomau’n cael eu bychanu neu eu camddeall. Mae’r profiadau cynnar hyn yn aml yn pennu a fydd rhywun yn ceisio cymorth neu’n parhau i ddioddef yn dawel.

Mae’r ymchwil hefyd yn cyd-fynd â fy mhrofiad byw fy hun. Cefais ddiagnosis o PCOS yn fy ugeiniau cynnar ac endometriosis yn 37 oed, ar ôl oedi hir a allai fod wedi effeithio ar fy nghanlyniadau tymor hir. Rwy’n parhau i brofi poen, blinder, a symptomau eraill yn ddyddiol. Wrth edrych yn ôl, rwy’n credu bod yr oedi wrth gael diagnosis yn rhannol oherwydd bod poen menywod wedi’i normaleiddio. Doeddwn i ddim yn sylweddoli nad oedd fy mhrofiad yn nodweddiadol tan i mi sôn wrth fy ffrindiau am lewygu a chwydu mewn poen bob mis. Mae’r sylweddoliad hwnnw wedi aros gyda fi ac mae’n ysgogiad cryf i’r gwaith.

Mae MENSTRUATE yn adeiladu’n uniongyrchol ar y canfyddiadau hyn. Y nod yw creu ymyriad sy’n ymarferol, yn grymuso, ac yn seiliedig ar brofiad byw.

Beth fydd astudiaeth MENSTRUATE yn ei wneud

Mae MENSTRUATE yn brosiect dulliau cymysg sy’n tynnu ar sawl math o dystiolaeth:

  • Data arolwg cenedlaethol (Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion) i ddeall pa bobl ifanc o blith y rhai sy’n dioddef poen mislif difrifol sy’n ceisio cymorth – a phwy sydd ddim
  • Cyfweliadau o astudiaeth SPPINN i ddwysau ein dealltwriaeth o rwystrau mewn teuluoedd
  • Gweithdai cyd-gynllunio gyda phobl ifanc, rhieni/gofalwyr, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a sefydliadau cymunedol

Bydd hyn i gyd yn ein helpu i ddatblygu ymyriad i deuluoedd fydd yn cynorthwyo sgyrsiau mwy agored, yn gwella hyder wrth adnabod symptomau, ac yn helpu teuluoedd i lywio gofal iechyd gyda’i gilydd.

Dydyn ni ddim yn creu un datrysiad fydd yn addas i bawb – rydyn ni’n adeiladu rhywbeth sydd wedi’i lunio gan y rheini y mae yno i’w cefnogi.

Pwy sy’n ymwneud â MENSTRUATE?

Fi (Dr Rebecca Anthony, DECIPHer) sy’n arwain yr astudiaeth, gyda chefnogaeth tîm amlddisgyblaethol ym Mhrifysgol Caerdydd gan gynnwys:

  • Dr Robyn Jackowich, ymchwilydd mewn iechyd menywod a chyd-arweinydd astudiaeth SPPINN
  • Yr Athro Jacky Boivin, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd Menywod Cymru
  • Dr Hayley Reed, arbenigwr mewn cyd-gynhyrchu ac ymgysylltu â phobl ifanc
  • Dr Honor Young, Dirprwy Gyfarwyddwr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
  • Dr Richard Morey, arbenigwr mewn ystadegau a dadansoddi data cysylltiedig
  • Dr Henrietta Graham, Adolygydd Systematig ar gyfer yr Uned Arbenigol ar gyfer Tystiolaeth Adolygu (SURE)

Ac yn allweddol, mae’r tîm hefyd yn cynnwys dau bartner ymchwil cyhoeddus – person ifanc a rhiant sydd â phrofiad byw yn ogystal â grŵp ymgynghorol cyhoeddus o arbenigwyr yn y maes.

Cynhyrchu ar y cyd o’r dechrau i’r diwedd

Byddwn hefyd yn gweithio’n agos gyda sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys y rhai sy’n cefnogi:

  • Pobl ifanc o leiafrifoedd ethnig
  • Pobl ifanc anabl
  • Plant, pobl ifanc a theuluoedd LHDTC+
  • Cymunedau â rhwystrau cymdeithasol neu iaith

Mae hyn yn sicrhau bod yr ymyriad yn adlewyrchu realiti’r rhai sy’n rhy aml heb gynrychiolaeth ddigonol mewn ymchwil iechyd mislif.

Yr hyn rydyn ni’n gobeithio ei gyflawni

Erbyn diwedd y prosiect, bydd MENSTRUATE yn cyflawni:

🌟 Gwell dealltwriaeth o ble mae anghydraddoldebau’n bodoli

Deall pwy sy’n cael eu colli neu eu hanwybyddu, gan helpu i lunio gwasanaethau a pholisïau yn y dyfodol.

🌟 Ymyriad wedi’i gyd-gynhyrchu, sy’n canolbwyntio ar y teulu, yn barod i’w brofi

Offer clir, ymarferol sy’n helpu teuluoedd i siarad am iechyd mislif a cheisio cefnogaeth yn gynharach.

🌟 Adnoddau y gellir eu rhannu’n eang

Deunyddiau hygyrch i bobl ifanc, teuluoedd, ysgolion, elusennau a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Beth nesaf?

Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd y tîm yn gweithio gyda phobl ifanc, teuluoedd, ysgolion, a gweithwyr iechyd proffesiynol ledled Cymru i gynllunio, ffurfio a mireinio’r ymyriad. Byddwn yn rhannu diweddariadau, gwybodaeth a chyfleoedd i gymryd rhan wrth i’r prosiect ddatblygu.

Fel rhan o’r mudiad ehangach i wella lles mislif ac atgenhedlu yng Nghymru, rwyf i hefyd yn aelod sylfaen o Rwydwaith EMPOWER sydd newydd ei lansio, sy’n dod ag ymchwilwyr, clinigwyr a phobl â phrofiad byw ynghyd i drawsnewid gofal endometriosis ledled Cymru. Rhwydwaith EMPOWER newydd yn lansio i drawsnewid gofal endometriosis yng Nghymru. – Gwyddor Data Poblogaeth

Gyda’n gilydd, gallwn ni chwalu stigma, cryfhau sgyrsiau mewn teuluoedd, a sicrhau bod iechyd mislif pobl ifanc yn cael ei gymryd o ddifrif.

Cymryd rhan

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn clywed mwy am yr ymchwil, anfonwch ebost at Dr Rebecca Anthony, Anthonyre@cardiff.ac.uk

Ariannu

Ariannir astudiaeth MENSTRUATE gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Cardiff University, Health and Care Research Wales and Welsh Government logos