Astudiaeth newydd: sut mae gofal awdurdod lleol yn effeithio ar iechyd ac addysg plant sy’n agored i niwed?

Mae’r Doethur Sara Long yn rhoi trosolwg o astudiaeth gymhleth, ond cyffrous, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), a ddechreuodd ym mis Hydref 2019.

Mae gwaith ymchwil blaenorol a chyfredol yn dangos bod plant sy’n derbyn gofal yn cael canlyniadau addysgol gwaeth o ran nifer y cymwysterau TGAU a gyflawnir, mynd i’r brifysgol ac ymddygiad yn yr ysgol. Mae’r plant hyn hefyd yn fwy tebygol o gael diagnosis o broblemau iechyd meddwl, ac iechyd a lles gwaeth yn gyffredinol, o gymharu â’r boblogaeth ehangach. Mae rhywfaint o waith ymchwil yn awgrymu bod rhai agweddau ar ofal, er enghraifft bod mewn gofal tymor hir, yn arwain at well canlyniadau iechyd ac addysg o gymharu â phlant sydd mewn gofal tymor byr neu sy’n cael llawer o wahanol leoliadau. Y tu hwnt i’r profiad gofal, mae gwaith ymchwil yn dangos bod profiadau niweidiol, fel cam-drin corfforol; byw mewn cartref lle mae gan oedolion salwch meddwl; problemau camddefnyddio sylweddau; a phroblemau cymdeithasol eraill, yn gallu cael effaith fawr ar ganlyniadau iechyd ac addysg hefyd.

Mae mater cymhleth yn ein hwynebu: a yw profiadau ‘cyn-ofal’, neu agweddau ar ofal ei hun, yn gysylltiedig â chanlyniadau iechyd ac addysgol gwaeth?

Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn debygol o ddigwydd cyn derbyn gofal neu ymyrraeth gan y gwasanaethau cymdeithasol (er y bydd rhai yn digwydd ar ôl hynny), felly mae’n anodd pennu i ba raddau y mae gofal ei hun; profiadau cyn-ofal; neu gyfuniad o’r ddau, yn cyfrannu at ganlyniadau gwael. Mae mater cymhleth yn ein hwynebu: a yw profiadau cyn-ofal (e.e. cam-drin corfforol, camddefnyddio sylweddau yn y cartref), neu agweddau ar ofal ei hun (e.e. nifer a hyd lleoliadau), yn gysylltiedig â chanlyniadau iechyd ac addysgol gwaeth?

Nid dim ond y rhai sydd mewn gofal neu sy’n derbyn ymyrraeth gan y gwasanaethau cymdeithasol sy’n cael profiadau niweidiol – gallai plant nad ydynt yn hysbys i’r gwasanaethau cymdeithasol ddioddef y problemau hyn gartref hefyd. Felly, bydd yr astudiaeth hon yn archwilio’r sefyllfa mewn perthynas â phedwar grŵp: Plant sy’n derbyn gofal (PDG); plant sy’n hysbys i’r gwasanaethau cymdeithasol ond nad ydynt yn derbyn gofal (NDG); plant nad ydynt yn hysbys i’r gwasanaethau cymdeithasol ond sydd wedi profi adfyd; a’r boblogaeth gyffredinol.

I ateb ein cwestiynau, rydym yn defnyddio cysylltiadau data, trwy’r banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL). Byddwn yn cysylltu data gwasanaethau cymdeithasol a gesglir fel mater o drefn, data meddygon teulu, a data o Gronfa Ddata Genedlaethol y Disgyblion.

Bydd yr astudiaeth yn archwilio sut mae cyswllt â’r gwasanaethau cymdeithasol yn
dylanwadu ar y cysylltiad rhwng rhai Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (PNP) a chanlyniadau iechyd ac addysg negyddol.’

Mae’r astudiaeth yn cynnwys pob plentyn yng Nghymru a anwyd rhwng 1990 a 2018, ac mae’n ceisio deall rhai o ganlyniadau iechyd ac addysgol (ar lefel TGAU) plant sy’n hysbys i’r gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys y rhai hynny sydd yng ngofal yr awdurdod lleol neu sydd wedi bod yng ngofal yr awdurdod lleol. Yn ogystal, bydd yr astudiaeth yn archwilio sut mae cyswllt â’r gwasanaethau cymdeithasol yn dylanwadu ar y cysylltiad rhwng rhai Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (gan gynnwys byw gydag oedolion sydd â phroblemau iechyd meddwl a/neu broblemau camddefnyddio sylweddau, plant sy’n dioddef erledigaeth gorfforol a byw mewn aelwyd un oedolyn fel dangosydd ar gyfer gwahaniad rhieni) a chanlyniadau iechyd ac addysgol negyddol.

Astudiaeth amlddisgyblaethol yw hon, ac mae’r gwaith yn dwyn ynghyd academyddion o DECIPHer, CASCADE, WISERD a’r Is-adran Meddygaeth y Boblogaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ogystal ag academyddion o’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth (NCPHWR) ym Mhrifysgol Abertawe, a sefydliadau anacademaidd fel Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Felly, yn ogystal â dwyn ynghyd sawl canolfan ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, a fydd yn cael eu cydleoli’n fuan yn adeilad SPARK newydd y brifysgol, mae’n cysylltu tri buddsoddiad seilwaith mawr newydd ym maes Ymchwil Iechyd a Gofal yng Nghymru (DECIPHer, CASCADE a NCPHWR).

Bydd y gwaith ymchwil hwn yn helpu’r broses o wneud penderfyniadau polisi o ran beth fyddai’n gweithio orau i wahanol blant sy’n hysbys i’r gwasanaethau cymdeithasol. Daw i ben ym mis Medi 2022. Cadwch lygad am ddiweddariadau yma ar flog DECIPHer ac ar fy nhudalen Twitter.

Mae’r Doethur Sara Long yn Ymchwilydd Cyswllt yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae’n gweithio ar ystod o
brosiectau rhyngddisgyblaethol sy’n ceisio gwella canlyniadau iechyd, lles ac addysg. Dilynwch hi ar Twitter: @DrSaraLong

Dewislen