Mynd i'r cynnwys
Home » Astudiaethau dichonoldeb

Astudiaethau dichonoldeb

Dyddiad y cwrs


10 Medi 2024


Manylion y cwrs


Nod y cwrs undydd hwn yw rhoi cyflwyniad i gyfranogwyr i astudiaethau dichonoldeb o ymyriadau iechyd cyhoeddus cymhleth. Mae astudiaethau o’r fath yn cynhyrchu’r dystiolaeth sydd ei hangen i benderfynu sut i fynd ati i gynnal astudiaeth werthuso ar raddfa lawn.

Bydd cyfranogwyr yn dysgu am wahanol nodau astudiaethau dichonoldeb, eu dulliau cysylltiedig, sut y gall canfyddiadau astudiaeth lywio penderfyniadau tuag at werthusiad ar raddfa lawn a sut i adrodd ar ganfyddiadau dichonoldeb. Bydd cyfleoedd ar gyfer rhwydweithio a gwaith grŵp cymhwysol yn cael eu darparu yn ystod y dydd. Mae’r tîm addysgu yn cynnwys awduron nifer o weithiau empirig a methodolegol sy’n ymwneud ag astudiaethau dichonoldeb gan gynnwys Dr Kelly Morgan, Dr Britt Hallingberg a’r Athro Graham Moore.


Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?

  • Rhesymau dros gynnal astudiaethau dichonoldeb
  • Dadleuon, cysyniadau ac egwyddorion allweddol mewn perthynas â therminoleg a dulliau astudio dichonoldeb
  • Y dulliau ymchwil (meintiol ac ansoddol) a ddefnyddir i fynd i’r afael ag ansicrwydd sy’n ymwneud ag ymyrraeth a chynllun gwerthuso astudiaeth dichonoldeb yn y dyfodol
  • Sut y gellir defnyddio canfyddiadau astudiaethau dichonoldeb i lywio penderfyniadau ynglŷn â symud at astudiaeth werthuso yn y dyfodol
  • Sut i adrodd am astudiaethau dichonoldeb
  • Teipolegau ac enghreifftiau o astudiaethau dichonoldeb o ymyriadau cymhleth i iechyd y cyhoedd

I bwy mae’r cwrs hwn?


Ymchwilwyr, myfyrwyr PhD, ymarferwyr a llunwyr polisi sydd â diddordeb mewn datblygu a gwerthuso ymyriadau cymhleth, yn benodol ar gyfer iechyd y cyhoedd. Ni ragdybir y bydd gennych unrhyw wybodaeth flaenorol.


Addysgu a gwybodaeth ddefnyddiol


Byddwn yn cadarnhau amseroedd, darparu deunyddiau dysgu, a gwybodaeth arall yn ystod y pythefnos cyn eich cwrs.


Lleoliad y cwrs


sbarc|spark, Prifysgol Caerdydd


Ffi’r Cwrs

£225

Gall ymwelwyr rhyngwladol ofyn am lythyr gwahoddiad ffurfiol gan Brifysgol Caerdydd, er mwyn ategu eu ceisiadau am Fisa Astudio Tymor Byr, drwy gysylltu â Zoe MacDonald: macdonaldz@caerdydd.ac.uk.


Archebu