Dyddiad y cwrs
17th Medi 2025
Manylion y cwrs
Nod y cwrs undydd hwn, dan arweiniad y Cymrawd Ymchwil Dr Rachel Brown, yw cynnig gwybodaeth dda am theori ac ymarfer gwerthuso ymyriadau cymhleth drwy broses.
Mae’r tîm addysgu yn cynnwys awduron o sawl darn empirig a methodolegol o waith sy’n gysylltiedig â gwerthuso prosesau, gan gynnwys Dr Rhiannon Evans a Dr Jeremy Segrott.
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?
- Rôl gwerthuso prosesau wrth ddeall ymyriadau cymhleth
- Pwysigrwydd damcaniaeth ymyrryd a modelau rhesymeg
- Cywirdeb a gweithredu ymyriadau cymhleth
- Materion ynghylch adnoddau a pherthnasoedd
- Pennu cwestiynau a chyfuno dulliau
I bwy mae’r cwrs hwn?
Ymchwilwyr, myfyrwyr PhD, ymarferwyr a llunwyr polisi sydd â diddordeb mewn datblygu a gwerthuso ymyriadau cymhleth, yn benodol ar gyfer iechyd y cyhoedd. Ni ragdybir y bydd gennych unrhyw wybodaeth flaenorol.
Addysgu a gwybodaeth ddefnyddiol
Byddwn yn cadarnhau amseroedd, darparu deunyddiau dysgu, a gwybodaeth arall yn ystod y pythefnos cyn eich cwrs.
Bydd y cwrs yn cael ei addysgu wyneb yn wyneb, cyn belled â bod canllawiau COVID-19 yn caniatáu hynny.
Lleoliad y cwrs
sbarc|spark, Prifysgol Caerdydd
Ffi’r Cwrs
£225
Gall ymwelwyr rhyngwladol ofyn am lythyr gwahoddiad ffurfiol gan Brifysgol Caerdydd, er mwyn ategu eu ceisiadau am Fisa Astudio Tymor Byr, drwy gysylltu â Zoe MacDonald: macdonaldz@cardiff.ac.uk.
Archebu
Mae archebion ar gyfer y cwrs hwn bellach wedi cau.
E bostiwch DECIPHer@caerdydd.ac.uk os oes gennych ymholiad.