Dyddiad ac amser
I’w gadarnhau
Lleoliad y cwrs
I’w gadarnhau
Arweinwyr y Cwrs
Dr Jeremy Segrott, aelodau ALPHA.
Sut i gofrestru
I’w gadarnhau
Trosolwg cryno o’r cwrs
Mae’r sesiwn hyfforddi ar-lein ryngweithiol hon, a gynhelir gan ALPHA (grŵp o bobl ifanc sy’n cynghori ymchwil DECIPHer), Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a DECIPHer, ar gyfer ymchwilwyr sy’n dymuno cynnwys plant a phobl ifanc yn y broses o ddylunio a chynnal eu hymchwil.
Sylwch na fydd tystysgrif am fynychu’n cael ei chyhoeddi oni bai bod y rheiny sy’n dilyn y cwrs wedi cwblhau pob elfen o’r hyfforddiant.
Beth fyddaf yn ei ddysgu?
Ar ôl yr hyfforddiant, bydd y cyfranogwyr yn:
- Nodi Egwyddorion ac Arfer cynnwys plant a phobl ifanc mewn ymchwil.
- Dulliau ymarferol, hwyluswyr, Rhwystrau ac Effaith cynnwys pobl ifanc.
- Sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymchwilwyr i gynnwys pobl ifanc.
ALPHA: Advice Leading to Public Health Advancement
Grŵp cynghori ar ymchwil pobl ifanc yw ALPHA a chanddo at 25 o aelodau ar yr un pryd. Ei rôl yw cynghori ymchwilwyr drwy drafod a dadlau eu safbwyntiau ar bynciau iechyd cyhoeddus a’r ymchwil y mae DECIPHer yn bwriadu ei gynnal. Bydd aelodau o ALPHA yn hwyluso’r hyfforddiant hwn ar y cyd er mwyn rhoi safbwynt person ifanc o fod yn rhan o ymchwil a rhoi adborth i ymchwilwyr am eu syniadau er mwyn cynnwys plant a phobl ifanc yn eu prosiectau eu hunain.