Mae hyd at 82 y cant o bobl sy’n profi digartrefedd yn ysmygu – sydd lawer yn uwch na chyfartaledd y DU o 14.1 y cant. A allai darparu pecynnau cychwyn e-sigaréts am ddim mewn gwasanaethau i’r digartref ddatrys y broblem hon? Buom ni’n sgwrsio gyda Jessica Lennon, cynorthwyydd ymchwil DECIPHer, sy’n gweithio ar SCeTCH, prosiect sy’n edrych ar hyn.
Beth yw’r broblem?
Mae iechyd pobl sy’n profi digartrefedd yn wael iawn o’i gymharu â’r rheini nad ydyn nhw’n profi digartrefedd ac mae ysmygu’n cyfrannu’n sylweddol at hyn. Ysmygu hefyd yw prif achos marwolaeth gynamserol y grŵp hwn. Mae cyfran fawr o’r rhai sy’n profi digartrefedd am roi’r gorau iddi ac wedi gwneud ymdrechion yn y gorffennol, ond yn aml nid yw’r rhain yn cael cymorth ac felly’n aflwyddiannus.
Mae diffyg tystiolaeth yn bodoli am yr hyn sy’n gweithio i helpu pobl sy’n profi digartrefedd i roi’r gorau i ysmygu. Gallen nhw elwa o gymorth gan wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu y GIG neu gallai gwahanol ddulliau fod yn fuddiol, fel e-sigaréts.
E-sigaréts yw’r dull mwyaf poblogaidd o roi’r gorau i ysmygu ond i bobl ar incwm isel neu ddim incwm, fodd bynnag, mae pris pecyn cychwyn e-sigaréts yn uchel (~£25). Gallai cyflenwi pecynnau cychwyn e-sigaréts am ddim mewn gwasanaethau i’r digartref helpu i oresgyn y broblem.
Ble mae’r ymchwil yn digwydd a beth mae’n ei olygu?
Ariennir y Treial Rhoi’r Gorau i Ysmygu mewn Canolfannau i’r Digartref (SCeTCH) gan y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol (NIHR) a chaiff ei gynnal mewn 32 o ganolfannau i’r digartref ledled Prydain Fawr. Ni yn DECIPHer yw canolbwynt Cymru a De-orllewin Lloegr. Ceir canolbwyntiau hefyd ym Mhrifysgol Southbank Llundain (Llundain a De-ddwyrain Lloegr), Prifysgol Stirling (yr Alban) a Phrifysgol East Anglia (Dwyrain Lloegr).
Caiff y canolfannau sy’n cymryd eu rhoi naill ai yn y grŵp ymyrraeth e-sigaréts neu’r grŵp ymyrraeth gofal arferol lle caiff cyfranogwyr becyn cychwyn e-sigaréts neu gyngor byr iawn a’u cyfeirio at eu gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu lleol. Rydym ni’n cwblhau ystod o asesiadau gyda’r cyfranogwyr ar eu hysmygu a’u hiechyd ar y dechrau, a 4 wythnos, 12 wythnos a 24 wythnos yn ddiweddarach.
Caiff staff yn y canolfannau eu hyfforddi ar roi’r gorau i ysmygu a sut i gefnogi’r astudiaeth, gan eu bod yn rhan bwysig o’r ymyriad, gan gynnwys darparu e-hylifau a chyngor byr iawn.
Byddwn hefyd yn edrych ar sut roedd cyflenwi’r ymyriad yn gweithio, a pha ran o’r ymyriad arweiniodd at newid (os o gwbl) yn y cyfranogwyr o ran ysmygu a hefyd yn ystyried cost-effeithiolrwydd.
Beth a’ch arweiniodd at y rôl hon?
Mae fy nghefndir mewn Seicoleg ac ar ôl gorffen astudio rwyf i wedi bod yn lwcus i gael gweithio gydag amrywiaeth o boblogaethau bregus ag anghenion cymhleth mewn lleoliadau clinigol ac ymchwil, gan gynnwys timau iechyd corfforol ac iechyd meddwl.
Yr hyn oedd o ddiddordeb i mi yn y rôl hon oedd cael y cyfle i weithio ar ymchwil iechyd y cyhoedd gyda grŵp o bobl sy’n profi anghydraddoldebau iechyd o’r fath ond sy’n aml yn cael eu hanwybyddu gan bolisïau iechyd y cyhoedd. Rwy’n mwynhau gweithio’n agos gyda’r rhai rydym ni’n ymchwilio ar eu rhan ac fel rhan o’r rôl byddaf yn treulio’r rhan fwyaf o’m hamser yn y canolfannau digartrefedd gyda chyfranogwyr.
Pa gynnydd y mae SCeTCH wedi’i wneud hyd yn hyn?
Mae recriwtio yn y canolfannau ar waith ar draws y wlad. Yn ein canolbwynt ni yn DECIPHer rydym ni wrthi’n hyfforddi staff ac yn recriwtio cyfranogwyr yn ein canolfannau cyntaf yng Nghymru a De-orllewin Lloegr. Bydd yr astudiaeth ar waith tan 2024.
Os gwelwn fod yr ymyriad yn helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu, byddwn yn trafod y canlyniadau gyda’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau a’r rhai sy’n gyfrifol am ffrydiau ariannu yng Nghymru, yr Alban a Lloegr, ynghylch y potensial i gyflwyno’r ymyriad fel y gall yr holl wasanaethau digartrefedd a defnyddwyr gwasanaethau elwa ohono.
Rhagor o wybodaeth a chyhoeddiadau
Ceir rhagor o wybodaeth am SCeTCH yma: Tudalen y prosiect
Myfyrdodau ar SCeTCH – lle ydyn ni nawr? Flog, Ionawr 2024