Mynd i'r cynnwys
Home » Myfyrdodau ar SCeTCH – lle ydyn ni nawr?

Myfyrdodau ar SCeTCH – lle ydyn ni nawr?

  • Flog

Diweddariad gan Gynorthwyydd Ymchwil DECIPHer Jess Lennon ar brosiect SCeTCH, sy’n gofyn: A allai darparu pecynnau cychwyn e-sigaréts am ddim yn y gwasanaethau digartrefedd helpu gyda rhoi’r gorau i ysmygu?

Mae hyd at 82% o bobl sy’n profi digartrefedd yn ysmygu, o’i gymharu â thua 14% o’r boblogaeth ehangach. E-sigaréts yw’r cymorth mwyaf poblogaidd i roi’r gorau iddi ond yn aml all pobl sy’n profi digartrefedd ddim fforddio’r gost gychwynnol.

Mae SCeTCH yn hapdreial clwstwr rheoledig aml-ganolfan oedd yn ceisio cymharu darparu pecyn cychwyn e-sigaréts â gofal arferol mewn sampl o wasanaethau digartref.

Ddechrau 2022, ysgrifennais flog yn cyflwyno’r prosiect – gallwch ei ddarllen yma: A allai cael e-sigaréts am ddim helpu pobl sy’n profi digartrefedd i roi’r gorau i ysmygu? A nawr, ar ôl cwblhau’r gwaith o gasglu data, mae’n gyfle da i roi diweddariad ar ei gynnydd.

Amser i bwyso a mesur

Cwblhawyd y gwaith o gasglu data ym mis Rhagfyr 2023.

Cymerodd 32 o ganolfannau ledled Cymru, Lloegr a’r Alban ran. Hyfforddwyd 220 aelod o staff a recriwtiwyd 477 o gyfranogwyr.

Mae dadansoddi ar waith ac mae’r tîm wedi bod yn myfyrio ar y gwersi a’r heriau niferus ar hyd y ffordd.

Roedd bod yn wyneb cyfeillgar, esbonio’r treial iddyn nhw’n uniongyrchol a datblygu perthnasoedd anfeirniadol yn allweddol.

Heriau a newidiadau


Cynlluniwyd SCeTCH yn wreiddiol i’w gynnal mewn canolfannau dydd i bobl sy’n profi digartrefedd ond mewn ymateb i bandemig COVID-19 symudodd y gwasanaethau digartref yng Nghymru yn bennaf i fodel cymorth preswyl. Felly, bu’n rhaid i ni addasu i hyn ac ehangu ein paramedrau recriwtio i gynnwys canolfannau preswyl.

Yn anffodus, ond nid yn annisgwyl, profodd y canolfannau a gymerodd ran yn y treial lawer o heriau a phroblemau o ran adnoddau gan gynnwys diffyg cyllid a phrinder staff. Efallai fod hyn wedi arwain at benderfyniad nifer o ddarpar ganolfannau i beidio â chymryd rhan yn y treial ac yn sicr fe wynebon ni heriau mewn canolfannau gyda phrinder staff neu drosiant uchel o staff.

Meithrin perthnasoedd
Yn aml dyw unigolion sy’n profi digartrefedd ddim yn cael eu cynrychioli’n ddigonol mewn ymchwil, a gall y boblogaeth hon fod yn wyliadwrus o unigolion a gwasanaethau allanol yn sgil eu profiadau yn y gorffennol.

Roedd recriwtio ac ymweliadau dilynol yn golygu fy mod yn treulio cryn dipyn o amser yn y canolfannau gyda’r preswylwyr, ac o ganlyniad datblygodd perthynas gyfeillgar ac ymddiriedaeth gyda nifer yn eu plith. Roedd hyn yn golygu bod cyfranogwyr yn fwy tebygol o ddychwelyd ar gyfer asesiadau dilynol (gan eu bod hefyd yn gyfle i ddal i fyny). Helpodd preswylwyr eraill hefyd pan oeddwn i’n cael trafferth cysylltu â rhai unigolion, oedd yn ddigwyddiad cyffredin gyda llawer yn byw bywydau crwydrol.

Roedd bod yn wyneb cyfeillgar, esbonio’r treial iddyn nhw’n uniongyrchol a datblygu perthnasoedd anfeirniadol yn allweddol.

Roedd llawer o’r cyfranogwyr yn byw bywydau cymhleth ac anhrefnus, felly doedd hi ddim yn realistig i ddisgwyl iddyn nhw fynd i apwyntiadau a drefnwyd wythnosau ymlaen llaw.

Agwedd hyblyg a phragmatig


Roedd yn bwysig ystyried anghenion unigryw’r rheini oedd yn cymryd rhan yn y treial wrth recriwtio a dilyn i fyny gyda chyfranogwyr. Roedd ein canolfannau yn amrywiol ac felly hefyd y cyfranogwyr.

Er bod protocol wedi’i ddiffinio i sicrhau bod y treial yn cael ei gynnal yn yr un ffordd ym mhob canolfan, roedd yn bwysig bod yn hyblyg ac yn bragmatig o fewn y cyfyngiadau hyn.

Roedd llawer o’r cyfranogwyr yn byw bywydau cymhleth ac anhrefnus, felly doedd hi ddim yn realistig i ddisgwyl iddyn nhw fynd i apwyntiadau a drefnwyd wythnosau ymlaen llaw. Roedd gan rai cyfranogwyr ffonau symudol ac yn falch i dderbyn negeseuon testun yn eu hatgoffa am yr ymweliadau dilynol, ond doedd llawer o’r lleill ddim. Yn hytrach, yr hyn a weithiodd yn dda oedd cysylltu â staff neu ymweld â’r ganolfan ar wahanol adegau, curo drysau ystafelloedd gwely neu aros i’r cyfranogwyr ddychwelyd (roedd llawer o aros!)

Myfyrdod Terfynol


Mae bod yn rhan o SCeTCH wedi bod yn brofiad unigryw a bythgofiadwy ac wrth i ni aros am y canlyniadau terfynol mae wedi bod yn braf cael myfyrio ar fy rhan i yn y treial.


Cyfarfod prosiect diweddar ym Mhrifysgol Stirling

Mae SCeTCH wedi herio’r canfyddiad cyffredin mewn ymchwil neu wasanaethau sydd wedi’u hanelu at unigolion â heriau iechyd a chymdeithasol uchel eu bod yn ‘anodd eu cyrraedd’. Roedd gan ein cyfranogwyr fywydau anodd iawn ac yn wynebu llawer o heriau dyddiol ond roedden nhw’n glir eu bod am roi’r gorau i ysmygu. Roedd recriwtio’n hawdd ac roedd ein cyfraddau dilynol yn dda.

Doedd ein cyfranogwyr ddim yn ‘anodd eu cyrraedd’ – mae’n rhaid i ni fel ymchwilwyr ddeall a bod yn hyblyg i anghenion unigryw’r boblogaeth hon os ydym am i ymyriadau fel hyn lwyddo.

Rhagor o wybodaeth a chyhoeddiadau

Tudalen yr astudiaeth: Gwerthuso effeithiolrwydd e-sigaréts o’u cymharu â gofal arferol ar gyfer rhoi’r gorau i ysmygu pan gânt eu cynnig i ysmygwyr mewn canolfannau digartref: Hap-dreial rheoledig clwstwr aml-ganolfan ym Mhrydain Fawr (SCeTCH)

Papur: Evaluating the effectiveness of e-cigarettes compared with usual care for smoking cessation when offered to smokers at homeless centres: Protocol for a multi-centre cluster randomised controlled trial in Great Britain Cox, S., Bauld, L., Brown, R., Carlise, M., Ford, A., Hajek, P., et al. Addiction (2022)

Protocol llawn ar gael: https://fundingawards.nihr.ac.uk/award/NIHR132158

Twitter: @ProjectSCeTCH

Blog: A allai cael e-sigaréts am ddim helpu pobl sy’n profi digartrefedd i roi’r gorau i ysmygu?

Ariennir yr astudiaeth hon gan raglen PHR y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) (Rhif Cyfeirnod PHR: NIHR132158). Barn yr awdur(on) a fynegir yma, ac nid o reidrwydd farn yr NIHR na’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.