Ym mis Hydref 2020, cafodd Dr Rachel Brown a Dr Rhiannon Evans eu gwahodd i addysgu fersiwn ar-lein wedi’i haddasu ar eu cwrs dulliau parhaus ynghylch Gwerthuso Prosesau i gydweithwyr o Brifysgol Aalborg, Denmarc. Yn y blog hwn, rhy Rachel y newyddion i ni ar sut aeth e.
Oherwydd y cyfyngiadau presennol ar deithio, bu’n rhaid addasu ein cynllun o gyflwyno wyneb-yn-wyneb, ac yn lle hynny cyd-gyflwynon ni gyda Charlotte Overgaard, Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Aalborg, y cwrddon ni â hi am y tro cyntaf pan gymerodd hi ran yn ein cwrs ‘Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth’ sawl blwyddyn yn ôl. Ers hynny, rydym wedi cynnal cysylltiad a gweithio ynghyd i ddylunio a chyflwyno cyrsiau pwrpasol ar gyfer ei hadran.
Cymerodd tua 15 cydweithiwr yn y cwrs diweddaraf, gan gynnwys myfyrwyr PhD presennol o ledled Denmarc, gyda Charlotte a chyfranogwyr yn yr ystafell, a Rhiannon a finnau’n galw i gyflwyno dros Zoom. Roedd hwn yn ddull effeithiol a bu’r grŵp yn ymgysylltu ac yn hapus i gyfrannu at drafodaethau am gynnwys.
Ffurfiodd y cwrs dau ddiwrnod ran o wythnos o ddigwyddiadau i fyfyrwyr PhD, gyda’n cydweithiwr DECIPHer, Pete Gee, yn cyfrannu sesiwn ar gynnwys defnyddwyr yn ystod yr wythnos hefyd. Roedd yr adborth gan gynrychiolwyr yn gadarnhaol, ac rydym yn anelu at gyflwyno’r cwrs eto’r flwyddyn nesaf, ond wyneb yn wyneb gobeithio. Rydym hefyd am ystyried cyfleoedd pellach i gydweithio rhwng ein dau safle a meithrin perthnasau ymchwil cryfach yn y dyfodol. Fe gadwn ni chi ar wybod!
I ddysgu mwy am gyrsiau byr DECIPHer, cliciwch yma.