Mynd i'r cynnwys
Home » ‘Carreg filltir bwysig’ – cyfarfod blynyddol cyntaf Consortiwm SERENA

‘Carreg filltir bwysig’ – cyfarfod blynyddol cyntaf Consortiwm SERENA

  • Flog

Mae’r ymchwilwyr Jonathan Ablitt, Zoe Bezeczky a Sarah Thompson yn adrodd ar y digwyddiad, a gynhaliwyd ym Mae Caerdydd.

Ar 15—16 Medi 2025, fe wnaethon ni gymryd rhan yng nghyfarfod blynyddol cyntaf Consortiwm SERENA yng Ngwesty Dewi Sant, Bae Caerdydd. Cynullodd y digwyddiad gynrychiolwyr o sefydliadau partner yn Awstria, Denmarc, Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Groeg, Iwerddon, yr Iseldiroedd, Portiwgal, Rwmania, Sweden, y Swistir, a Chymru (y DU), gan nodi carreg filltir bwysig yng nghynnydd yr astudiaeth amlwladol  SERENA.

Mae’r astudiaeth SERENA, a gefnogir gan €6.3 miliwn o gyllid Horizon Ewrop, yn ceisio mynd i’r afael â materion mynediad at wasanaethau i blant sydd wedi profi cam-driniaeth. Naw mis ar ôl gweithredu’r prosiect, rhoddodd cyfarfod y Consortiwm gyfle i bartneriaid adrodd ar gynnydd, trafod datblygiadau methodolegol a dadansoddol, a chydlynu gweithgareddau ymchwil y dyfodol.

Agorodd yr Athro Catherine Quantin, Cydlynydd SERENA a chynrychiolydd yr Institut National de la Santé et de la Recherche Médicale (INSERM), y digwyddiad yn ffurfiol gyda throsolwg o gyfeiriad strategol y Consortiwm. Dilynwyd hi gan Dr. Yulia Shenderovich, o DECIPHer, a groesawodd fynychwyr o 22 sefydliad partner ar draws 12 gwlad i Gaerdydd, a rhoddodd gipolwg o’r arbenigedd a ddygwyd i’r astudiaeth gan dîm Prifysgol Caerdydd yn cynnwys cydweithwyr o DECIPHerCanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc,CASCADE, a’r Is-adran Meddygaeth Boblogaeth.

Dros y ddau ddiwrnod, rhannodd cynrychiolwyr ddiweddariadau o nifer o becynnau gwaith yr astudiaeth, trafodwyd themâu trawsbynciol, a nodwyd cyfleoedd ar gyfer cydweithio ac integreiddio pellach ar draws cydrannau’r astudiaeth.

Cynhaliwyd cyfarfodydd Pwyllgor Gwaith SERENA a’r Cynulliad Cyffredinol hefyd yn ystod Consortiwm Bae Caerdydd, gan ddarparu fforwm ar gyfer trafod materion llywodraethu a chynllunio strategol.

Mae astudiaeth SERENA yn cynnwys 21 pecyn gwaith sy’n cwmpasu ystod o feysydd methodolegol a thematig. Mae dau o’r rhai hyn, yn cael eu cydgysylltu gan Dr. Yulia Shenderovich (DECIPHer) a Dr. Ulugbek Nurmatov (Yr Ysgol Meddygaeth) yma ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Aarhus (Denmarc) ac Observatoire Régional de la Santé de Bourgogne-Franche-Comté (Ffrainc).

Mae’r gwaith a arweinir gan Brifysgol Caerdydd yn cynnwys adolygiad o lenyddiaeth ansoddol, meintiol a llwyd, gan gynnwys dogfennau polisi perthnasol, yn ogystal ag astudiaeth gyfweliad ansoddol gymharol gyda gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol ac unigolion sydd â phrofiad bywyd o gam-drin yn ystod plentyndod, a gynhaliwyd ar draws y tair gwlad gyfansoddol: Denmarc, Ffrainc, a Chymru. Nod y pecynnau gwaith hyn yw creu sylfaen dystiolaeth gadarn i lywio gwelliannau mewn llwybrau mynediad ac ymatebion gwasanaeth i blant yr effeithir arnynt gan gamdriniaeth, ochr yn ochr â dadansoddiadau pellach a gynhelir gan becynnau gwaith eraill.

Mae rhagor o wybodaeth am SERENA ar gael ar wefan y prosiect: https://www.serena-horizon.eu/.