Mynd i'r cynnwys
Home » Cwrdd â thîm RISE Rhan 2

Cwrdd â thîm RISE Rhan 2

  • Flog
Tagiau:

Nawr yn ei ddegfed mis, mae Astudiaeth RISE yn parhau â’i hymchwil i ddarpariaeth, cymeriant a defnydd prydau ysgol. Yma, rydym yn cyflwyno hanner arall y tîm.

‘Mae RISE yn brosiect ymchwil hynod bwysig oherwydd bydd yn darparu data newydd ar rai o’r heriau mwyaf dybryd yn system fwyd ysgolion’

Kevin Morgan

Disgrifiwch eich cefndir a’ch profiad blaenorol.

Gyda dros 20 mlynedd o wasanaeth arlwyo addysg ymroddedig, Judith yw rheolwr busnes arlwyo addysg yng Nghyngor Caerdydd sy’n goruchwylio’r gwasanaeth arlwyo addysg. Mae’r gwasanaeth yn darparu dros 28,000 o brydau bwyd i 116 o ysgolion. Cafodd hyfforddiant i fod yn economegydd cartref ym Mhrifysgol Gogledd Llundain ac mae wedi gweithio mewn rolau arwyddocaol yn Marks and Spencer, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru.

Yn 2005, helpodd i ddatblygu a pheilota Menter Brecwast Am Ddim Llywodraeth Cymru, ac yn 2015, helpodd i arwain y ffordd a datblygu’r rhaglen beilot gwyliau arobryn ‘Bwyd a Hwyl’, a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2017 ac sydd bellach yn cael ei gweithredu ar draws pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Yn ystod y pandemig, dyfeisiodd Judith system talu uniongyrchol ar gyfer disgyblion prydau ysgol am ddim ledled Caerdydd yn ogystal â chefnogi Llywodraeth Cymru i lunio’r gefnogaeth i ddisgyblion prydau ysgol am ddim ledled Cymru. O 2021 – 2024 cynrychiolodd ddarparwyr arlwyo addysg a oedd yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno Prydau Ysgol Am Ddim Cyffredinol i ddisgyblion cynradd yng Nghymru.

Yn ystod 2024/2052 Judith oedd Cadeirydd Cenedlaethol LACA – The School Food People, gan gynrychioli darparwyr arlwyo addysg ledled Cymru a Lloegr. Yn y gorffennol, roedd Judith yn gadeirydd rhanbarthol Rhanbarth LACA Cymru am chwe blynedd, ac mae hi bellach wedi dychwelyd i’r rôl hon yn ddiweddar. Mae Judith, sydd wedi’i chydnabod fel un o bobl fwyaf dylanwadol maes arlwyo’r sector cyhoeddus yn y DU yn 2017, 2018 a 2025, yn enghraifft o arweinyddiaeth ac ymrwymiad yn y diwydiant arlwyo addysg.

Beth yw eich swydd yn RISE?
Fy rôl yn RISE yw cyd-arweinydd Anacademaidd ar gyfer Pecyn Gwaith 1

Mae fy nghefndir ymchwil wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar astudiaethau arloesi a datblygu trefol a rhanbarthol. Ond dros y 20+ mlynedd diwethaf rydw i hefyd wedi datblygu diddordeb cryf mewn darparu bwyd cyhoeddus, yn enwedig polisi ac arfer bwyd ysgolion. Fe wnes i grynhoi canlyniadau’r gwaith ymchwil hwn mewn llyfr newydd, Serving the Public: The good food revolution in schools, hospitals and prisons (Manchester University Press).  Rwy’n aelod o’r Gynghrair Prydau Ysgol, ymgyrch wedi’i hysbrydoli gan y Cenhedloedd Unedig sy’n anelu at alluogi pob plentyn yn y byd i gael pryd maethlon yn yr ysgol erbyn 2030.

 Rwy’n cynnig cymorth strategol ar gyfer prosiect RISE. Ochr yn ochr â Sara, arweinydd cyffredinol yr astudiaeth, rwy’n gyd-arweinydd academaidd ar Becyn Gwaith 1, ac un o’i amcanion yw mapio systemau bwyd ysgolion ym mhedair gwlad y DU.

Pam ydych chi’n credu bod RISE yn bwysig?

Mae RISE yn brosiect ymchwil hynod bwysig oherwydd bydd yn darparu data newydd ar rai o’r heriau mwyaf dybryd yn system fwyd ysgolion, megis pam mae’r nifer isaf o bobl sy’n manteisio ar brydau ysgol am ddim cyffredinol yn yr ardaloedd lle mae’r amddifadedd economaidd-gymdeithasol uchaf.

Beth yw eich gobeithion ar gyfer RISE?
Mae fy mhrif obaith ar gyfer prosiect RISE yn driphlyg: (a) helpu’r gymuned bwyd ysgol i gynyddu nifer y bobl sy’n bwyta prydau ysgol am ddim ac iach mewn ardaloedd tlawd yn ogystal ag ardaloedd llewyrchus; (b) helpu system fwyd ysgol o’r fferm i’r fforc i ddatblygu ymdeimlad o dynged gyffredin fel y gall ddylunio a chyflwyno rhwydwaith bwyd gwirioneddol gynaliadwy; a (c) helpu i godi statws ymchwilwyr RISE, yn enwedig ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa, fel eu bod yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol am wneud gwaith ymchwil arloesol ym maes darparu bwyd cyhoeddus.  

Mae rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth, ei phecynnau gwaith a chydweithwyr ar gael isod:

Cwrdd â thîm RISE (1)

Dudalen astudiaeth

Mae prydau ysgol o dan y chwyddwydr mewn astudiaeth newydd ledled y DU

Projects spanning the UK to tackle food inequality unveiled