
Bob blwyddyn, mae Crwsibl Cymru yn dod â thri deg o ymchwilwyr ynghyd i drin a thrafod sut y gallan nhw gydweithio i fynd i’r afael â’r heriau ymchwil y mae Cymru’n eu hwynebu ar hyn o bryd. Yma, mae Cymrawd Ymchwil DECIPHer, Dr Hayley Reed, yn trafod ei phrofiad a hithau’n rhan o garfan 2024.

Dwi’n Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc gan ddefnyddio dull rhyngddisgyblaethol sy’n rhychwantu iechyd y cyhoedd, seicoleg, addysg a gofal cymdeithasol. Mae fy ffocws methodolegol ar gyd-gynhyrchu ac addasu ymyriadau ac adnoddau trwy ddulliau cyfranogol. Dwi wedi cyhoeddi fframwaith arloesol ar gyfer cynnwys nifer o randdeiliaid wrth gyd-gynhyrchu ymyriadau iechyd a dwi wedi arwain y broses o gyd-greu dangosfwrdd digidol ar lefel ysgol i roi’r grym i ysgolion ddefnyddio data i greu amgylcheddau iach.
Mae fy ngyrfa o 12 mlynedd ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cynnwys swydd yn y gwasanaethau proffesiynol yn Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd, gweithio’n gynorthwyydd ymchwil rhan-amser wrth astudio ar gyfer fy PhD, a swydd ôl-ddoethurol yn DECIPHer cyn i mi gael fy nghyllid ymchwil fy hun ar gyfer cymrodoriaeth trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Wrth fyfyrio ar yr amser hwn, byddwn i’n rhy aml yn cael fy nal yng nghanol tasgau bob dydd fy ngwaith ymchwil, gan olygu nad oedd modd i mi ystyried ble roeddwn i’n ceisio ei gyrraedd. Ni feddyliais i am fy nghynllun gyrfaol mwy hirdymor nes i mi wneud cais am fy nghymrodoriaeth. Dyna pryd y penderfynais i wneud cais ar gyfer rhaglen Crwsibl Cymru.
Roedd rhai o fy nghydweithwyr yn DECIPHer wedi bod yn rhan o garfannau blaenorol. Er eu bod yn awyddus i gadw’r hyn oedd yn ymwneud â’r rhaglen yn ddirgelwch, dywedon nhw ddigon wrthyf i wneud i mi deimlo’n gyffrous am fod yn rhan o rwydwaith mor unigryw.
Roeddwn i wedi magu diddordeb yn y rhaglen datblygu arweinyddiaeth hon gan fod rhai o’m cydweithwyr yn DECIPHer wedi bod yn rhan o garfanau blaenorol. Er eu bod yn awyddus i gadw’r hyn roedd y rhaglen yn ei olygu’n ddirgelwch, fe ddywedon nhw ddigon wrtha i i’m cyffroi am fod yn rhan o rwydwaith mor unigryw. Roedd yn gyfle i mi adolygu a myfyrio ar le roeddwn i arni, lle hoffwn i fod, a beth oedd angen i mi ei wneud i gyrraedd yno. Roeddwn i’n arbennig o awyddus i ddatblygu cydweithrediadau traws-sefydliadol a thraws-ddisgyblaethol, gan fy mod i’n teimlo fy mod yn aml yn cydweithio â’r un academyddion gan ei fod yn hawdd ac am fy mod i’n gyfforddus yn gwneud hynny. Yn y pen draw, cefais hyn i gyd a mwy drwy’r rhaglen!


Un o’r prif bethau cadarnhaol i mi oedd y rhwydwaith cymorth gan gymheiriaid. Ar ôl cwblhau PhD, gall fod yn anodd cynnal rhwydwaith o gymheiriaid academaidd wrth i rai unigolion adael y byd academaidd i ymuno â sectorau eraill, ac eraill yn symud i sefydliadau ledled y DU neu hyd yn oed ymhellach. Roedd hyn yn arbennig o wir i mi gan fy mod i wedi cymryd absenoldeb mamolaeth, a dechreuodd y pandemig pan oeddwn i’n gwneud fy PhD. Ond ar ôl Crwsibl Cymru, mae gen i rwydwaith parod o bobl sydd ar ddechrau ac ar ganol eu gyrfaoedd, o bob rhan o Gymru. Hyd yn hyn, mae hyn wedi cynnwys rhannu fy ngwybodaeth am brosesau dilyniant gyrfaol mewn prifysgolion, eraill yn rhannu eu cyhoeddiadau diweddar sy’n gysylltiedig â’m maes gyda mi, a sgyrsiau am gyfleoedd ariannu yn y dyfodol y gallai aelodau’r Crwsibl wneud cais amdanyn nhw gyda’i gilydd. Mae hyd yn oed cwrdd ag eraill o fy ngharfan yn anfwriadol mewn digwyddiadau neu yn adeilad sbarc|spark yn gwneud i mi deimlo mwy o gysylltiad yn yr academi.
Dwi’n edrych ymlaen at y dyfodol gyda’r garfan hon o gyfoedion. Dwi’n gallu gofyn iddyn nhw am gymorth, cyfnewid gwybodaeth ddisgyblaethol, a chydweithio â nhw i fynd i’r afael â phryderon cymdeithasol perthnasol drwy ein hymchwil. Byddwn i’n annog unrhyw un sy’n ystyried eu cynlluniau gyrfaol yn y dyfodol i wneud cais ar gyfer Crwsibl Cymru – wnewch chi ddim difaru.
Ysgrifennwyd y blog hwn gan Rhiannon Robinson yn The Cardiff Researcher.
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am Welsh Crucible yma: https://welshcrucible.org.uk/.