Mynd i'r cynnwys
Home » Hawliau Plant: Canrif yn ddiweddarach

Hawliau Plant: Canrif yn ddiweddarach

  • Flog
Tagiau:

Mae 20 Tachwedd eleni yn nodi 35 mlynedd ers i’r Cenhedloedd Unedig fabwysiadu’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn, sy’n cael ei ddathlu ar Ddiwrnod Byd-eang y Plant. Mae Praveena Pemmasani, aelod o ALPHA, yn edrych ar hanes y digwyddiad a’i berthnasedd parhaus.

Heddiw, rydyn ni’n myfyrio ar ddechreuad y cytuniad hawliau dynol mwyaf eang a gafodd ei gadarnhau mewn hanes, a’i arwyddocâd yng nghyd destun ymchwil plant a phobl ifanc. Mae 54 erthygl yn cynnwys manylion ar hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol sylfaenol sy’n cael ei roi i bob plentyn, waeth beth fo’u cefndir.

Yn rhyfeddol, dim ond ers canrif y mae cydnabyddiaeth ryngwladol i hawliau plant yn bodoli, yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu Eglantyne Jebb yn eiriolwr dros blant a gafodd eu heffeithio gan ganlyniadau torcalonnus y rhyfel, ac yn ddiwygiwr cymdeithasol arloesol, oedd yn gyfrifol am ddrafftio’r Datganiad ar Hawliau’r Plentyn, yn amlinellu pum hawl allweddol wedi’u cymeradwyo gan Gynghrair y Cenhedloedd yn 1924. Er i’r Gynghrair gael ei chwalu yn y pen draw, i raddau helaeth oherwydd ei bod wedi methu ag atal yr Ail Ryfel Byd, bu geiriau Jebb yn parhau.

Gan gymryd lle’r gynghrair, gwnaeth y cenhedloedd unedig flaenoriaethu hawliau plant o’r cychwyn cyntaf. Gan ychwanegu at fenter Jebb, penderfynodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig fabwysiadu fersiwn ddiwygiedig ym 1959, yn cynnwys deg gwerth. Ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, ym 1989, cafodd y Datganiad ei ehangu ymhellach a daeth yn Gonfensiwn, gan gynrychioli cyfnod o newid o fod yn gytundeb cyffredinol i gytundeb sy’n rhwymol yn gyfreithiol. Ac yn bwysig iawn, yn ogystal â hawliau sy’n gyffredin i gytundebau hawliau dynol eraill, mae’r confensiwn yn cynnwys egwyddorion sy’n benodol i blant yn unig, er mwyn mynd i’r afael â’r anghenion â’r gwendidau sy’n unigryw i blant. Roedd y gwahaniaeth hwn yn hanfodol wrth gydnabod bod plant yn wahanol i oedolion a’u grymuso yn rhyngwladol.

Tîm ALPHA yn rhoi ei farn ar ymchwil

O ystyried hanes cyfoethog DECIPHer o weithio gyda phlant a phobl ifanc, mae Erthygl 12 o ddiddordeb arbennig. I grynhoi, mae’r erthygl yn datgan bod yn rhaid annog plant i fynegi eu barn a chael y cyfle i gymryd rhan mewn unrhyw benderfyniad sy’n cael effaith arnyn nhw. Yn y maes hwn, mae hyn yn golygu y dylai plant a phobl ifanc gyfrannu’n weithredol at y gwaith ymchwil sy’n ymwneud â nhw, o’r cychwyn i’r diwedd. Mae sawl erthygl yn crybwyll ‘galluoedd esblygiadol’ y plant, ac yn tynnu sylw at yr angen i addasu i alluoedd amrywiol wrth eu cynnwys mewn gwaith ymchwil, er mwyn iddyn nhw allu cyfrannu’n ystyrlon. At hynny, mae erthyglau sy’n mynd i’r afael â pheidio â gwahaniaethu ac er lles pennaf yn ein hysgogi ni i sicrhau bod gwaith ymchwil a chyfranogiad yn gynhwysol ac yn cael ei chynllunio i roi’r plant yn gyntaf.

Ganrif yn ddiweddarach, rydyn ni’n myfyrio ar y cynnydd sydd wedi cael ei wneud ers y gydnabyddiaeth eang gyntaf o hawliau sy’n benodol i blant. Wrth bwysleisio bod anghenion, diddordebau a phryderon plant ar wahân i oedolion a grwpiau cymdeithasol eraill, mae’r Confensiwn yn cynrychioli fframwaith sylfaenol hanfodol sy’n rhwym i’r gyfraith ryngwladol. Yn olaf, mae’r egwyddorion sydd wedi’u hymgorffori yn ein hatgoffa ni bod iechyd a lles plant yn y bôn, yn gysylltiedig â’u hawliau.

Mae rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Byd-eang y Plant ar gael yma:

https://www.un.org/en/observances/world-childrens-day.

ALPHA yw grŵp cynghori ymchwil DECIPHer o bobl ifanc 14-25 oed sy’n byw yn Ne Cymru. Ei nod yw i bobl ifanc rannu eu barn a’u profiadau gydag opsiynau DECIPHer i helpu i arwain y gwaith ymchwil yn DECIPHer. Darganfyddwch fwy yma: https://decipher.uk.net/cy/cynnwys-y-cyhoedd/alpha/