Mynd i'r cynnwys
Home » O ble mae ymyriadau’n dod, a sut allwn ni wybod a ydyn nhw o unrhyw werth? – adolygiad Oishee o Gwrs Byr DECIPHer 2025

O ble mae ymyriadau’n dod, a sut allwn ni wybod a ydyn nhw o unrhyw werth? – adolygiad Oishee o Gwrs Byr DECIPHer 2025

  • Flog

Cydymaith Ymchwil Dr Oishee Kundu ar gwrs Mehefin 2025 sef ‘Datblygu, Gwerthuso, Addasu a Gweithredu’

Fe wnes i ymuno â byd iechyd y cyhoedd ar ddamwain, gan ddod o faes caffael cyhoeddus a rheolaeth gyhoeddus. Ym myd caffael cyhoeddus, mae iechyd yn aml yn cael ei ystyried yn faes ar ei ben ei hun, felly roeddwn i’n edrych ymlaen yn fawr at y cyfle i ddysgu rhagor am y dulliau sy’n cael eu defnyddio i werthuso ymyriadau iechyd cyhoeddus. Fodd bynnag, roedd y cwrs haf yn cynnig llawer mwy na hynny.

Man cychwyn y cwrs oedd Meddwl Ecolegol a defnyddio modelau cymdeithasol-ecolegol i arwain yr arfer o ddatblygu a gwerthuso ymyriadau. Roedd neilltuo peth amser i drafod egwyddorion, modelau a rhagdybiaethau allweddol yn ddefnyddiol iawn er mwyn cydnabod sut mae unrhyw fater (nid dim ond materion sy’n gysylltiedig ag iechyd) yn cael ei fframio, sydd wedyn yn cael effaith ar yr atebion sy’n cael eu cynnig a deall o ble mae damcaniaethau’n dod.

Roedd gan y cwrs gymysgedd da o addysgu ar ffurf darlithoedd a gweithgareddau grŵp, a gafodd eu hwyluso’n arbennig gan sawl aelod o DECIPHer. Roedd y gweithgareddau grŵp yn hynod ddefnyddiol er mwyn i ni allu defnyddio’r dysgu ac adeiladu ar yr hyn roedden ni’n ei ddysgu yn ystod y cwrs. Yn y grŵp, aethon ni o fapio problem i wneud dewisiadau am ddamcaniaeth ein rhaglen ac ysgrifennu model rhesymeg ar gyfer ymyriad arfaethedig heb deimlo ein bod yn cael ein brysio.

Roedd llawer i’w ddysgu am astudiaethau dichonoldeb, asesu’r gallu i werthuso, ac ati. Erbyn y trydydd diwrnod, roeddwn i’n dechrau poeni ychydig am sut roeddwn i wedi datblygu hyd yn hyn yn ymchwilydd heb yr holl wybodaeth hon, ond yna dros egwyl goffi, fe ges i a chyd-fyfyriwr ar y cwrs sgwrs am y gwrthgyferbyniad rhwng byd ymchwil glinigol, sy’n ymddangos yn lân ac yn drefnus, a byd ymchwil y gwyddorau cymdeithasol, sy’n gallu ymddangos yn anhrefnus ac yn gymhleth. Mae iechyd cyhoeddus yn cynnwys y ddau!

Y diwrnod canlynol, fe wnaethon ni ddysgu am “Treialon Hapsamplu Rheolyddedig” ac “Arbrofion Naturiol” a daeth popeth at ei gilydd pan gyflwynodd Dr Nick Page ffigur o Ogilvie et al (2020) ar y cysylltiad rhwng ymchwil a gweithredu polisi. Mae’r papur yn dadlau’n gryf dros ddefnyddio cynlluniau astudiaethau sy’n adeiladu ‘llwybr tystiolaeth sy’n seiliedig ar ymarfer’ i lywio ac addasu camau gweithredu polisi, yn hytrach na dibynnu’n llwyr ar lwybr llinol o ymchwil i ymarfer.