
Mae Charlotte Wooders a Sarah MacDonald yn rhoi trosolwg o ganfyddiadau astudiaeth CHIMES a arweiniwyd gan DECIPHer.
Ariannwyd CHIMES gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) ac roedd yn cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerwysg a Phrifysgol Bangor.

Pam oedd angen yr astudiaeth?
Mae plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal (gan gynnwys gofal maeth, gofal gan berthnasau, a gofal preswyl) yn wynebu risgiau uwch o iechyd meddwl gwaeth o gymharu â’u cyfoedion nad ydynt yn profi gofal.
Yn y DU, bu polisïau ac argymhellion amrywiol i gefnogi a gwella iechyd meddwl, ond nid yw’n glir beth sy’n gweithio’n effeithiol. Felly roedd angen i’r astudiaeth hon adolygu’r holl ymchwil rhyngwladol i archwilio beth sy’n gweithio orau, ac asesu a ellid addasu a chymhwyso’r dulliau hyn yn y DU. Mae CHIMES yn golygu adolygiad systematig o ganlyniadau ymyriadau plant a phobl ifanc sydd wedi derbyn gofal i wella iechyd meddwl a lles.
Beth oedd nod CHIMES?
Nod adolygiad systematig CHIMES oedd cyfosod tystiolaeth ryngwladol ar ymyriadau sy’n gwella iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal. Ceisiodd yr astudiaeth hefyd i asesu a ellid rhoi’r ymyriadau hyn ar waith yn effeithiol yn y DU, gan ystyried gwahaniaethau rhyngwladol mewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol.
Pa ddulliau a ddefnyddiwyd?
Cynhaliom adolygiad dulliau cymysg, gan gyfuno mapio tystiolaeth systematig â synthesis manwl o ganlyniadau, prosesau a gwerthusiadau economaidd. Fe wnaethom adolygu astudiaethau o 16 o gronfeydd data electronig ac ymgynghori ag arbenigwyr i gasglu data cynhwysfawr. Gwnaethom hefyd gynnal ymgynghoriadau â rhanddeiliaid i ystyried a ellid defnyddio’r ymyriadau yn y DU.
Beth oedd y prif ganfyddiadau?
Nododd yr astudiaeth 64 o ymyriadau. Roedd y rhan fwyaf yn dod o UDA ac yn canolbwyntio ar wella sgiliau cymdeithasol ac emosiynol pobl ifanc, neu newid arddulliau rhianta gofalwyr maeth. Ni welsom lawer o ymchwil yn edrych ar yr effaith ar les, hunan-niwed neu hunanladdiad plant a phobl ifanc. Er y gwelwyd rhai gwelliannau tymor byr mewn iechyd meddwl, roedd yr effeithiau tymor hwy yn llai clir. Nid yw’n glir a yw’r dulliau hyn yn fwy cost-effeithiol na’r gwasanaethau presennol.
Fe wnaethom hefyd ystyried rhai o’r heriau i gyflwyno rhaglenni. Y materion allweddol oedd amser ac adnoddau annigonol ar gyfer cefnogi iechyd meddwl, anawsterau wrth gydlynu gofal iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol, a diffyg ymgynghori â phobl ifanc i nodi sut y dylid diwallu eu hanghenion.
Arweiniodd Sarah MacDonald yr adolygiad o werthusiadau proses a dywedodd: ‘Fe wnaethom dynnu sylw at nifer o ffactorau y dylai ymyriadau yn y dyfodol ganolbwyntio arnynt er mwyn helpu i wella gweithrediad a derbynioldeb. Yn bwysig, dylai datblygwyr geisio cyd-gynhyrchu ymyriadau gyda rhanddeiliaid a chyfranogwyr posibl, gan y gallant ddod â lleisiau pwerus am y profiad byw o ofal.’
Sut wnaethoch chi gynnwys rhanddeiliaid yn yr adolygiad?
Ar ôl cyfosod y prif ganfyddiadau, gwnaethom eu cyflwyno i amrywiaeth o randdeiliaid gan gynnwys: pobl ifanc â phrofiad o ofal, gofalwyr maeth, ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol a chynrychiolwyr y llywodraeth. Fe wnaeth y Rhwydwaith Maethu a Lleisiau CASCADE ein helpu i ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Cefnogodd Charlotte Wooders ymgysylltu â rhanddeiliaid ar yr astudiaeth, a dywedodd: ‘Roedd yn hynod werthfawr cael mewnbwn rhanddeiliaid fel rhan o’r broses adolygu, a siarad am rai o realiti ymyriadau sy’n ymddangos fel pe baent yn gweithio’n dda mewn systemau gofal cymdeithasol eraill. Yn benodol, soniodd gofalwyr maeth am y gwahanol ieithoedd, arddulliau ac arferion magu plant yn yr UD o gymharu â’r DU, a sut mae angen cadw hyn mewn cof wrth gynllunio ymyriadau yn y dyfodol.’
Beth nesaf?
Gwnaethom nodi dau ymyriad â blaenoriaeth i’w hystyried ar gyfer eu cyflawni yn y DU: (1) mentora gan unigolion sydd â gwybodaeth a phrofiad o ofal a (2) newid systemau ac ethos i greu cysoni rhwng sefydliadau a hwyluso perthnasoedd rhyngbroffesiynol. Mae NIHR yn comisiynu gwerthusiadau mewn perthynas â hyn.
Fe wnaethom hefyd ddatblygu set o 10 cwestiwn craidd i lunwyr polisi ac ymarferwyr eu hystyried wrth weithredu ymyriadau sy’n targedu iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal. Roedd y rhain yn cynnwys: cyfranogiad rhanddeiliaid; cyd-destun, adnoddau ac ethos; a chyfleoedd i blant a phobl ifanc roi adborth ar eu profiadau. Gellir gweld y cwestiynau yma neu eu lawrlwytho yma: CHIMES – poster Cwestiynau Craidd.

Nodyn ar awduron blog
Charlotte Wooders yw Rheolwr Ymgysylltu Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN).
Mae Sarah MacDonald yn Gymrawd Ymchwil yn DECIPHer, ac yn ymgymryd ag ymchwil ansoddol, gyda ffocws ar lesiant yn yr ysgol ar gyfer plant a phobl ifanc.
Cyhoeddiadau
Monograff:
Evans R, MacDonald S, Trubey R, Noyes J, Robling M, Willis S, et al. Interventions to improve mental health and well-being in care-experienced children and young people aged less than 25: the CHIMES systematic review. Public Health Res 2024;12(14). https://doi.org/10.3310/MKYP6299
Gwerthusiadau canlyniadau:
Trubey, R., Evans, R., McDonald, S., Noyes, J., Robling, M., Willis, S., Boffey, M., Wooders, C., Vinnicombe, S., & Melendez-Torres, G. J. (2024). Effectiveness of Mental Health and Wellbeing Interventions for Children and Young People in Foster, Kinship, and Residential Care: Systematic Review and Meta-Analysis. Trauma, Violence, & Abuse, 25(4), 2829-2844. https://doi.org/10.1177/15248380241227987
Gwerthusiadau proses:
MacDonald, S., Trubey, R., Noyes, J., Vinnicombe, S., Morgan, H.E., Willis, S., Boffey, M., Melendez-Torres, G.J., Robling, M., Wooder, C., and Evans, R. (2024). Mental health and wellbeing interventions for care-experienced children and young people: Systematic review and synthesis of process evaluations. Children and Youth Services Review 156, article number: 107266. https://doi.org/10.1016/j.childyouth.2023.107266
Niwed i ecwiti:
Evans, R., Trubey, R., MacDonald, S. , Noyes, J., Robling, M., Willis, S., Boffey, M., Wooders, C., and Melendez-Torres, G. J. (2024) What Mental Health and Wellbeing Interventions Work for Which Children and Young People in Care? Systematic Review of Potential Outcome Inequities. Child & Adolescent Social Work Journal. https://doi.org/10.1007/s10560-023-00956-7
Protocol:
Evans, R., Boffey, M., MacDonald, S., Noyes, J., Melendez-Torres, G.J., Morgan, H.E., Trubey, R., Robling, M., Willis, S. and Wooders, C. (2021). Care-experienced cHildren and young people’s Interventions to improve Mental health and wEll-being outcomes: Systematic review (CHIMES) protocol. BMJ Open 11(1), article number: e042815. http://dx.doi.org/10.1136/bmjopen-2020-042815
Arianwyr
Cefnogwyd y gwaith hwn gan grant Rhaglen Ymchwil Iechyd y Cyhoedd Y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR-PHR) rhif NIHR129113. Cefnogwyd y gwaith hwn gan Y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) a ariennir gan Lywodraeth Cymru trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae’r Ganolfan Treialon Ymchwil yn derbyn cyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac Ymchwil Canser y DU.
Ymchwilydd arweiniol:
Rhiannon Evans, DECIPHer, Cardiff University.
Cyd-ymchwilydd:
Sarah MacDonald, DECIPHer, Cardiff University.
Robert Trubey, Centre for Trials Research, Cardiff University.
Jane Noyes, School of Medical and Health Sciences, Bangor University
Michael Robling, Centre for Trials Research, Cardiff University.
Simone Willis, Specialist Unit for Review Evidence, Cardiff University
Soo Vinnicombe, School of Medical and Health Sciences, Bangor University,
Maria Boffey, SHRN, DECIPHer, Cardiff University.
Charlotte Wooders, SHRN, DECIPHer, Cardiff University.
Asmaa El-Banna, University of Warwick.
GJ Melendez-Torres, Peninsula Technology Assessment Group (PenTAG), University of Exeter.




