Mynd i'r cynnwys
Home » Sut mae cyfathrebu ar-lein yn effeithio ar les meddyliol pobl ifanc?

Sut mae cyfathrebu ar-lein yn effeithio ar les meddyliol pobl ifanc?

  • Flog

Rebecca Anthony, Cydymaith Ymchwil yng Nghanolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc DECIPHer a Wolfson, sy’n trafod ei phapur diweddar Young People’s Online Communication and its Association With Mental Well-being: Results from the 2019 Student Health and Well-being Survey

Cyfathrebu rhyngbersonol yw un o’r gweithgareddau mwyaf cyffredin ymhlith pobl ifanc wrth ymgysylltu ar-lein. Mae gan y rhan fwyaf o bobl ifanc broffil cyfryngau cymdeithasol ac maent yn aml yn defnyddio’r rhyngrwyd i gyfathrebu. Yn ôl ystadegau diweddar, mae gan 99% o bobl ifanc 12 i 15 oed gyswllt rhyngrwyd, gyda 95% yn dweud eu bod yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol cyn ac ar ôl ysgol bob dydd (Y Swyddfa Gartref, 2020).

Hyd yma mae’r rhan fwyaf o’r ymchwil wedi edrych ar y cysylltiad rhwng yr amser a gaiff ei dreulio ar-lein a symptomau iselder, gorbryder, meddyliol a lles. Fodd bynnag, nid yw grwpio pob math o gyfryngau cymdeithasol gyda’i gilydd yn caniatáu ar gyfer naws; er enghraifft beth mae pobl ifanc yn ei wneud a gyda phwy maent yn ymgysylltu. Ceir amrywiadau enfawr o ran yr hyn mae pobl yn ei wneud ar-lein. Nid yw edrych ar TikTok a gwylio fideos YouTube yr un peth ag anfon negeseuon uniongyrchol at ffrind neu chwarae gemau fideo ar-lein gyda ffrindiau rydych chi wedi’u gweld yn yr ysgol y diwrnod hwnnw.

Ein dulliau


Defnyddiom ni ddata o’r Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr, arolwg bob chwe mis o ddisgyblion ysgolion uwchradd 11 i 16 oed yng Nghymru a ddatblygwyd o arolwg Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol Sefydliad Iechyd y Byd (arolwg HBSC).

Nod yr arolwg yw monitro ymddygiad iechyd pobl ifanc yng Nghymru er mwyn gwella ein dealltwriaeth a llywio polisi. Mae’n cwmpasu llawer iawn o themâu, fel iechyd meddwl a lles, bywyd ysgol, gweithgaredd corfforol a diet, bywyd teuluol, perthnasoedd cymdeithasol, defnyddio sylweddau a gamblo. Yn 2019, cwblhaodd 119,000 o fyfyrwyr o 198 o ysgolion ledled Cymru yr arolwg, sy’n golygu ei fod yn adnodd gwych sy’n darparu sampl gynrychioliadol genedlaethol o bobl ifanc yng Nghymru.

Edrychom ni ar ymatebion dros 38,000 o blant a phobl ifanc – is-sampl o’r prif arolwg – y gofynnwyd iddynt am eu hymddygiad cyfathrebu ar-lein. Defnyddiom ni fodelau amlamrywedd i asesu’r berthynas rhwng pwy roedd pobl ifanc yn cyfathrebu â nhw ar-lein a’u lles meddyliol. O fewn y modelau atchweliad hyn, cafwyd rheolyddion ar gyfer dryswyr fel defnydd goddefol o’r cyfryngau cymdeithasol – h.y. defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ddianc rhag teimladau negyddol, ansawdd cyfeillgarwch, eu canfyddiad o’u cyfeillgarwch, eu perthynas â ffrindiau a seibrfwlio.

Gwyliwch y crynodeb fideo hwn gan Rebecca Anthony o’i phapur Rhifyn Arbennig ACAMH 2023 Young People’s Online Communication and its Association With Mental Well-being: Results From the 2019 Student Health and Well-being Survey

Gwyliwch y crynodeb fideo hwn gan Rebecca Anthony o’i phapur Rhifyn Arbennig ACAMH 2023 Young People’s Online Communication and its Association With Mental Well-being: Results From the 2019 Student Health and Well-being Survey

Canfyddiadau allweddol

Canfuwyd bod myfyrwyr yn ymgysylltu’n helaeth ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol. Roedd llawer yn defnyddio’r gwefannau hyn yn ddyddiol a gwelsom fod cyfathrebu ar-lein yn aml gyda’u ffrindiau gorau a’u grwpiau cyfeillgarwch ehangach yn gysylltiedig â lefelau uwch o les. Fodd bynnag, roedd amlder cyswllt ar-lein â ffrindiau rhithwir, h.y. ffrindiau nad ydynt wedi cwrdd â nhw mewn bywyd go iawn, dim ond ar-lein, yn gysylltiedig â lles gwaeth, ac roedd i hyn gysylltiad llawer mwy negyddol ymhlith merched na bechgyn.

Golwg mwy cynnil?

Casgliadau’r astudiaeth yw y gall ymchwil sy’n edrych ar yr amser a dreulir ar-lein yn unig fod yn or-syml, heb fod yn ystyried naws benodol, fel yr hyn maent yn ei wneud a gyda phwy maent yn ymgysylltu.

Yn hytrach na gorbwysleisio arwyddocâd yr amser a dreulir ar-lein a phennu bod cyfathrebu ar-lein yn rhywbeth sydd angen ei fonitro a’i reoli’n drwm, dylai addysgwyr a rheini gydnabod manteision posibl cyfathrebu ar-lein gyda grwpiau cyfeillgarwch sy’n bodoli eisoes, gan gyfyngu ar unrhyw niwed. Roeddem ni’n teimlo y dylai ymyriadau i wella lles pobl ifanc hefyd ystyried y cysylltiadau cadarnhaol hyn.

Cefnogwyd y gwaith hwn a arweiniwyd gan ymchwilwyr yn DECIPHer gan gyllid ar y cyd gan Weinidogion Addysg ac Iechyd Meddwl yn Llywodraeth Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Chanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc. Hoffai’r awduron ddiolch i’r holl staff a myfyrwyr ysgol a gwblhaodd yr arolwg.

Gellir darllen papur Rhifyn Arbennig Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (ACAMH) 2023, Young People’s Online Communication and its Association with Mental Well-being: Results From the 2019 Student Health and Well-being Survey yma: bit.ly/3Jb2NUp. Awduron: Rebecca Anthony, Honor Young, Gillian Hewitt, Luke Sloan, Graham Moore, Simon Murphy a Steven Cook.

This work led by researchers at DECIPHer was supported by joint funding from Ministers of Education and Mental Health at Welsh Government, Health and Care Research Wales and the Wolfson Centre for Young People’s Mental Health. The authors thank all school staff and students who completed the survey.

Gyda diolch arbennig i ACAMH am ganiatáu inni ddefnyddio’r fideo.