Ddechrau 2020, heriodd Prifysgol Caerdydd ymchwilwyr ôl-raddedig ar draws y Brifysgol i gyflwyno eu hymchwil mewn tri munud gydag un sleid yn unig. Mae Prifysgol Caerdydd wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth genedlaethol Three Minute Thesis (3MT®) dros y chwe blynedd diwethaf, a chafwyd y lefel uchaf eto o ddiddordeb yn 2020. Eleni, cyrhaeddodd y myfyriwr PhD DECIPHer Emily Lowthian y rhestr fer fel un o’r deg siaradwr gorau. Yma mae’n sôn am ei phrofiad o gymryd rhan.
Rwyf i wedi mynychu nifer o gynadleddau lle cynhaliwyd y 3MT®. Nid yn unig roedd ymddangos yn ddiddorol ac yn sgil go iawn, ond roedd hefyd yn her. Mae’n anodd esbonio traethawd ymchwil yn gryno, ond mae gwneud hynny mewn iaith leyg y gellir ei dehongli gan sectorau anacademaidd yn sgil gwirioneddol, ac yn allweddol ar gyfer trosi eich ymchwil i gael effaith mewn lleoliadau eraill, fel Llywodraeth Cymru.
Oherwydd argyfwng COVID-19, roedd trefn y 3MT® eleni’n wahanol. Fel rhywun sy’n gweithredu’n well wyneb yn wyneb yn hytrach nag ar gamera, roeddwn i’n gwybod y byddai’n her sylweddol. Hefyd, dim jargon ystadegol (er gofid i mi!). Mae hyn yn swnio’n syml mewn egwyddor, ond o gofio bod fy nhraethawd yn ddogfen 80,000 gair ac mai dyma’r peth mwyaf hollgynhwysol a gwerthfawr yn fy mywyd, mae’n anoddach o lawer nag y mae’n swnio.
Paratoi yw popeth
Penderfynais gyflwyno rhywbeth wythnos cyn y dyddiad cau, felly yn amlwg dechreuais i drwy ddarllen canllawiau’r Academi Ddoethurol, sy’n trefnu’n digwyddiad, a gwylio rhai sgyrsiau 3MT® ar-lein oedd wedi ennill drwy Brydain yn y gorffennol. Yna symudais i wylio amrywiol sgyrsiau TED a dysgu rhywfaint am sut i ‘gael ffocws i’ch ymennydd’ yn hytrach na sgiliau cyflwyno – y fath eironi. Gwelais mai’r prif bwyntiau oedd eich cysylltiad chi â’r gynulleidfa; y gallu i grynhoi ymchwil gymhleth iawn yn gryno a nodi pwyntiau allweddol eich ymchwil, a sut maen nhw’n gymwys i gymdeithas yn ehangach – yn y bôn, sut mae’r ymchwil yn berthnasol i bob unigolyn sydd o’ch blaen chi, neu sy’n eich gwylio ar sgrin (diolch COVID).
Ble i ddechrau?
Gwelais mai lle da i ddechrau fyddai ystadegau i ddangos cwmpas y mater – er enghraifft bod 1.3 miliwn o blant yn byw gyda rhiant sy’n defnyddio alcohol yn broblemus, a bod chwarter miliwn o blant yn byw gyda defnyddiwr sy’n dibynnu ar gyffuriau, sy’n cyfateb i 11% o boblogaeth ein pobl ifanc. Yna meddyliais sut oeddwn i am gyfleu cyfres o ystadegau cymhleth i’r gynulleidfa. Dechreuais gyda phwyntiau allweddol yr ymchwil, er enghraifft bod alcohol rhieniol yn ddrwg i iechyd meddwl plant, sy’n rhywbeth y gallai pobl fod wedi’i ddyfalu a chysylltu ag e.
Hefyd gwelais fod trosi proses cyfryngu ystadegol i iaith leyg yn gymorth i ddeall. Er enghraifft: ‘Fe wyddom pan fydd y rhiant yn cymryd y sylwedd hwn ei fod yn effeithio ar ganlyniadau addysgol – ond pam? Nid y plentyn sy’n defnyddio’r sylwedd, felly rhaid bod newid yn ymddygiad y rhiant sy’n sbarduno newid yn y canlyniadau addysgol.’ Penderfynais osgoi defnyddio iaith data dechnegol a dim ond dweud fy mod wedi defnyddio data ar 10,000 o rieni a phlant ym Mryste yn y 1990au. Wedi’r cyfan does dim angen i neb wybod eu bod wedi defnyddio sampl manteisgar ac anfanteision hynny.
Hanfod y pwnc
I fi, roedd yn bwysig mynd yn syth at y darn gorau – sef bod fy ymchwil yn dangos bod defnydd rhieni o alcohol a chyffuriau’n cynyddu ymddygiad rhieniol aneffeithiol: llai o ryngweithio gyda’r plentyn a gwrthdaro rhwng rhieni, a bod y ffactorau hyn yn effeithio’n negyddol ar gyrhaeddiad addysgol. Mae hyn yn dangos bod fy ymchwil yn mynd y tu hwnt i gasgliadau X –> Y ac yn ceisio deall pam – agor y ‘blwch du’ fel y byddai gwyddonwyr cymdeithasol yn ei ddweud.
Yn olaf, roedd yn bwysig trosi hyn i dermau ehangach – beth allai’r llywodraeth ei wneud? Gan fy mod yn gryf o blaid ymagwedd teulu cyfan, defnyddiais gyfatebiaeth â’r corff dynol i ddangos pwysigrwydd y teulu fel system, yna amlygu ffyrdd y gallai ymyriadau ddechrau rhoi mwy o gefnogaeth i rieni sy’n profi problemau cam-drin sylweddau a phlant, er enghraifft trefn benodol ar gyfer amser gwely a brecwast rheolaidd.
A dyna ni (o’r diwedd)!
Tri deg wyth cynnig, tair awr a chryn dipyn o regi’n ddiweddarach, cyflwynais y sgwrs i’r Academi Ddoethurol. Cefais gefnogaeth wych gan Clare Olson (swyddog cyhoeddusrwydd DECIPHer) a greodd ddelwedd oedd yn crisialu fy PhD – potel win ar waith ysgol.
Cyflwynwyd y rhestr fer a’r enillwyr brynhawn 30 Mehefin dros Teams. Gwylion ni’r deg sgwrs orau, ac roedd pob un yn ddifyr, yna cyhoeddwyd y tri oedd ar y brig – gyda’r enillydd yn mynd i rownd gynderfynol y DU!
O wylio’r sgyrsiau dysgais nifer o bethau – gallai’r dechrau fod yn well; byddai sefyll i ddefnyddio fy nwylo ac iaith y corff wedi creu cysylltiad yn well gyda chynulleidfa rithwir; ac roedd rhai mannau lle rwy’n credu y gallwn fod wedi defnyddio mwy o bersonoliaeth. Ond roedd cyrraedd y deg uchaf yn gyflawniad mawr, ac rwy’n hynod o falch fy mod wedi gallu cyflwyno rhywbeth i’r safon honno.
Rwyf i wedi dysgu cymaint o’r profiad hwn, a byddaf yn bendant yn manteisio ar y dysgu yn fy sgyrsiau yn y dyfodol. Byddwn yn argymell i unrhyw un gymryd rhan yn y 3MT®. Mae wir yn canolbwyntio ar beth mae eich ymchwil yn ei ychwanegu at y maes a chymdeithas yn ehangach.
Mae Emily Lowthian yn fyfyriwr PhD trydedd flwyddyn yn DECIPHer. Ceir rhagor o wybodaeth am gystadleuaeth Three Minute Thesis (3MT®) yma ac mae cyflwyniadau eleni i’w gweld ar sianel YouTube yr Academi Ddoethurol.