Roedd gan DECIPHer bresenoldeb amlwg yng nghynhadledd ddiweddar Cymdeithas Ymchwil Ataliaeth Ewrop (EUSPR), a gynhaliwyd ar-lein dros gyfnod o dri diwrnod ym mis Hydref. Thema eleni oedd ‘Gwneud gwyddor ataliaeth yn berthnasol i bawb: cyd-gynhyrchu ac effaith’.
Cychwynnodd y digwyddiad gyda gweithdai rhagarweiniol, oedd yn cynnwys gweithdy dechrau gyrfa yng ngofal Jeremy Segrott a Peter Gee. Roedd hwn yn edrych ar ffyrdd o ymgynghori â’r cyhoedd ynghylch agweddau ar y broses ymchwil megis nodau ymchwil a chwestiynau; gweithdrefnau astudio (e.e. gwybodaeth i gyfranogwyr); strategaethau recriwtio a gweithgareddau dadansoddi a lledaenu data.
Roedd y gweithdy’n ystyried tri chwestiwn allweddol:
Beth yw manteision posibl cynnwys y cyhoedd (o safbwynt ymchwil, ac o safbwynt aelodau o’r cyhoedd)?
Beth yw’r ffordd orau o gynllunio a threfnu cynnwys y cyhoedd?
Beth yw rhai o’r prif heriau wrth gynnwys y cyhoedd mewn modd safonol, a sut mae rhoi sylw iddyn nhw?
Ar ddiwrnod agoriadol y brif gynhadledd, bu Dr Segrott ac Ina Koning (Prifysgol Utrecht) yn cynnal sesiwn ar ‘fagu plant yn ystod COVID-19’. Bu’r sesiwn, oedd yn defnyddio arolwg diweddar o aelodau EUSPR, a hefyd waith ymchwil parhaus, yn edrych ar effaith y pandemig presennol ar rieni a theuluoedd; darpariaeth cymorth i deuluoedd; a sut mae ymyriadau magu plant wedi addasu yn ystod yr argyfwng iechyd.
Yn arbennig, trafodwyd sut mae ymyriadau presennol wyneb yn wyneb ar sail grwpiau wedi cael eu haddasu i’w cyflwyno ar-lein, a goblygiadau hynny ar gyfer theori’r rhaglen, cadw at y bwriadau gweithredu, ac estyn allan ar draws gwahanol rannau o’r boblogaeth.
Dywedodd Dr Segrott, a fu gynt yn Llywydd EUSPR: ‘Roedd hwn yn gyfle gwych i rannu’r profiad a gawsom yn DECIPHer gyda rhwydwaith rhyngwladol o ymchwilwyr, ac i hyrwyddo cynnwys y cyhoedd ymhellach yng ngwyddor ataliaeth.’
Cynhelir cynhadledd y flwyddyn nesaf ‘Ataliaeth – Rhwng Moeseg ac Effeithiolrwydd’ o 29 Medi – 1 Hydref, 2021, yn Tallinn, Estonia. Cewch ragor o wybodaeth am y digwyddiad hwn ar wefan EUSPR.
I gael rhagor o wybodaeth am y Cwrs Byr Cynnwys y Cyhoedd, cliciwch yma.