Gwobrwywyd Dr Anthony am ei gwaith hanfodol yn archwilio problemau iechyd meddwl ymhlith plant mewn teuluoedd mabwysiadol.
Gwobrwyodd beirniaid Deorydd Ymchwil Iechyd Meddwl saith ymchwilydd y mae eu prosiectau yn cynrychioli rhai o’r datblygiadau newydd mwyaf cyffrous mewn ymchwil iechyd meddwl heddiw, yn ogystal ag wyth unigolyn a ddaeth yn yr ail safle. Dr Anthony, sy’n gweithio mewn partneriaeth â DECIPHer a Chanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, a ddaeth i’r brig yn y categori Adeiladu Ymchwil ym Meysydd sydd Heb Wasanaeth Digonol. Roedd ei gwaith yn seiliedig ar ganfyddiadau Astudiaeth Carfan Mabwysiadu Cymru, a arweiniwyd gan yr Athro Katherine Shelton, ac ymchwil DECIPHer a SHRN ar iechyd meddwl plant mewn gofal.
Mae ymchwil Dr Anthony wedi canolbwyntio ar nifer yr achosion o faterion iechyd meddwl ymhlith plant sy’n cael eu mabwysiadu ar ôl bod o dan ofal, yn ogystal â’u rhieni mabwysiadol. Mae hi wedi bod yn edrych ar gyfraniad profiadau niweidiol yn ystod plentyndod o ran problemau iechyd meddwl diweddarach a sut mae patrymau adfyd penodol yn gysylltiedig â symptomau straen wedi trawma. Mae ei hymchwil wedi cael sylw mewn dau adolygiad tystiolaeth NIHR, Gall Plant Mabwysiedig Ddatblygu Mathau Penodol o Straen Ôl-drawmatig a Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod: pa gymorth sydd ei angen ar bobl ifanc?
Yn ôl Deorydd Ymchwil Iechyd Meddwl, ‘Mae ymchwil Rebecca gyda phlant mabwysiedig a’u teuluoedd yn hanfodol i wneud yn siŵr bod ymyriadau iechyd meddwl sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn cyrraedd y rhai sydd eu hangen.’ Ychwanegon nhw: ‘Cydnabu’r beirniaid ymrwymiad arbennig Rebecca i’w gwaith. Diolch i’w hymdrechion parhaus, mae anghenion teuluoedd mabwysiadol wedi’u hamlygu mewn lleoliadau llywodraeth, ar lefel ymarferwyr lleol, yn ogystal â chynadleddau rhyngwladol.
Dywedodd Dr Anthony “Rwyf ar ben fy nigon i dderbyn y wobr hon. Mae safon yr ymchwil ym maes iechyd meddwl mor uchel, felly mae’n fraint enfawr i bobl gyfeirio ata i yn yr un modd ag ymchwilwyr eraill mor wych. Mae’r wobr hon yn dangos pwysigrwydd ymchwil barhaus gyda phlant sydd â phrofiad o ofal. Rwy’n gobeithio y bydd ymchwil yn y degawd nesaf yn symud tuag at werthuso ymyriadau i gefnogi plant mabwysiedig o ddechrau eu taith fabwysiadu byddant yn oedolion.’
Mae rhagor o wybodaeth am waith Dr Anthony ar gael yma. Mae ei chyfrif Twitter i’w weld yma.