
Bydd menter newydd gwerth €6.3 miliwn yn dod ag ymchwilwyr o 12 gwlad ynghyd i fynd i’r afael â bylchau allweddol wrth nodi a chefnogi achosion plant sydd wedi cael eu cam-drin.
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn rhan o dîm prosiect Horizon Europe sydd newydd ei ariannu: Asesu a gwella mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i blant sy’n cael eu gwneud yn agored i niwed o ganlyniad i gael eu cam-drin (SERENA).
Mae camarfer yn erbyn plant yn parhau i fod yn broblem eang nad yw’n cael ei chofnodi’n ddigonol ledled Ewrop, gyda chanlyniadau hirdymor difrifol i iechyd meddwl a chorfforol dioddefwyr. Mae llawer o blant yn parhau i wynebu rhwystrau i gael mynediad at gymorth amserol ac effeithiol, sy’n gwaethygu effaith hirdymor camarfer.
Bydd SERENA yn asesu’r rhwystrau a’r llwybrau gofal hyn mewn sawl gwlad yn Ewrop, gan greu argymhellion sy’n seiliedig ar dystiolaeth i wella’r gallu i ganfod, a gwella gofal a pholisi.
Mae Dr Yulia Shenderovich yn arwain cyfranogiad Prifysgol Caerdydd yn y prosiect drwy Ganolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc a’r Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd, gyda Dr Ulugbek Nurmatov (MEDIC) yn cyd-arwain cyfuno tystiolaeth, a’r Athro Sally Holland (CASCADE), yn ogystal â chydweithwyr yn Denmarc a Ffrainc.
Bydd gwaith y tîm yn canolbwyntio ar fapio gwasanaethau presennol a nodi rhwystrau rhag mynediad trwy adolygiadau llenyddol a chyfweliadau â goroeswyr sy’n oedolion a gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, Ffrainc a Denmarc.

‘Mae camarfer yn erbyn plant yn ffactor risg mawr ar gyfer anawsterau iechyd meddwl gydol oes, ond nid yw cymorth yn hygyrch i lawer o blant a phobl ifanc. Trwy ddeall y rhwystrau rhag gofal, mae modd i ni lywio gwelliannau ystyrlon mewn gwasanaethau a pholisïau sy’n cefnogi goroeswyr ledled Ewrop.’
Dr Yulia Shenderovich, Darllenydd
Bydd SERENA yn defnyddio dull cymysg, gan gyfuno ymchwil ansoddol mewn tair gwlad gyda dadansoddiadau meintiol ar raddfa fawr mewn saith gwlad yn Ewrop, yn ogystal â data system amddiffyn plant cyfanredol o 26 gwlad.
Mae’r ymchwil hon yn cyd-fynd yn agos â chenhadaeth Canolfan Wolfson i wella iechyd meddwl pobl ifanc trwy sicrhau bod plant y mae camarfer yn effeithio arnyn nhw’n cael gofal amserol ac effeithiol, pwyslais y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, a phwyslais CASCADE ar wella lles, diogelwch a hawliau plant a’u teuluoedd.
Trwy ei rwydwaith helaeth, nod prosiect SERENA yw ysgogi newidiadau polisi ac arferion, gwella’r gallu i ganfod camarfer, lleihau ailadrodd, a lleddfu’r baich cymdeithasol ehangach.
Mae’r consortiwm yn cael ei arwain gan yr Athro Catherine Quantin a’i gydlynu gan Sefydliad Cenedlaethol De La Santé Et De La Recherche Médicale. I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, ewch i dudalen swyddogol y prosiect.