Mynd i'r cynnwys
Home » Metrigau ar eu newydd wedd: Dogfennau polisi byd-eang yn cyfeirio’n aml at ymchwil DECIPHer

Metrigau ar eu newydd wedd: Dogfennau polisi byd-eang yn cyfeirio’n aml at ymchwil DECIPHer

Ymchwil DECIPHer yn dylanwadu ar bolisïau ledled y byd, yn ôl adroddiad Altmetric newydd

Yn ddiweddar, cafodd Altmetric ei ddefnyddio gan Dîm Effaith ac Ymgysylltu Prifysgol Caerdydd i nodi nifer yr achosion o gyfeirio at ymchwil Prifysgol Caerdydd mewn dogfennau polisi ers 2008. Cwmni gwyddor data yw Altmetric sy’n dod o hyd i gyfeiriadau ar-lein at ymchwil a gyhoeddwyd.

Cafwyd nifer sylweddol (370) o achosion o gyfeirio at Brifysgol Caerdydd mewn dogfennau polisi ledled y byd, ac roedd 80 o’r rhain yn ymwneud ag ymchwil DECIPHer. Roedd y sefydliadau sy’n cyfeirio at ymchwil DECIPHer yn amrywio, a Sefydliad Iechyd y Byd yw’r un amlycaf yn eu plith. Roedd y pynciau yr un mor amrywiol ac yn cynnwys fepio, iechyd meddwl ac ymyriadau cymhleth, i enwi rhai yn unig. Mae dadansoddiad o’r gwledydd, y cyfnodolion a’r pynciau i’w gweld yn y ffeithluniau isod.

Dyma a ddywedodd yr Athro Simon Murphy, Cyfarwyddwr DECIPHer:

Asiantaethau cyhoeddi

Canadian Agency for Drugs and Technologies in Health
Department of Justice (Ireland) / An Roinn Dlí agus Cirt
Institute for Security Studies (ISS) (Switzerland)
Mental Health Foundation (Switzerland)
Migration Policy Institute (Switzerland)
Ministry of Health – Manat Hauora
Myndigheten för arbetsmiljökunskap (Switzerland)
National Bureau of Economic Research (Switzerland)
National Institute for Health and Care Excellence (Switzerland)
Organisation for Economic Co-operation and Development (OECD) (Switzerland)
Overseas Development Institute (South Africa)
Public Health Scotland
Royal Commission into Victoria’s Mental Health System (RCVMS) (Australia)
The British Thoracic Society
The InterAcademy Partnership (Switzerland)
The Public Health Agency of Sweden
The Publications Office of the European Union
The Scottish Government
The Swedish National Council for Crime Prevention (Brå)
World Bank
World Health Organisation

Mae rhagor o wybodaeth am raglenni ymchwil DECIPHer ar gael yma: Dyma’r rhaglenni a’r cyhoeddiadau yma: Cyhoeddiadau.