Mae pontio i’r ysgol uwchradd yn gyfnod heriol i blentyn a gall effeithio ar iechyd meddwl a chyflawniad academaidd disgybl yn y dyfodol.
Mae tîm o ymchwilwyr dan arweiniad yr Athro Frances Rice ym Mhrifysgol Caerdydd wedi nodi rhai o’r ffactorau sy’n ymwneud â pha mor dda mae pobl ifanc yn ymgyfarwyddo â bod yn yr ysgol uwchradd. Asesodd yr ymchwilwyr hyn trwy edrych ar ystod o ganlyniadau sy’n bwysig i bobl ifanc gan gynnwys nid yn unig eu cyrhaeddiad academaidd, ond hefyd eu hymddygiad yn yr ystafell ddosbarth, a’u teimladau am yr ysgol (p’un a oeddent yn teimlo’n unig yn yr ysgol neu’n hoffi’r ysgol).
Dywedodd yr Athro Frances Rice “Mae plant sy’n pontio i’r ysgol uwchradd yn wynebu ystod o brofiadau a disgwyliadau newydd gan gynnwys trefn newydd, newid yn eu perthynas gyda chyfoedion ac athrawon a chwrdd â safonau academaidd newydd. Yn flaenorol, mae dylanwad teimladau plant o bryder, eu hiechyd meddwl, a disgwyliadau rhieni ac athrawon wrth ragfynegi pa mor dda y bydd plant yn addasu i’r ysgol uwchradd wedi bod yn aneglur.”
“Yn yr astudiaeth hon, gwelsom fod y rhan fwyaf o blant yn mynegi rhai pryderon am ddechrau yn yr ysgol uwchradd ond bod hyn yn lleihau dros y flwyddyn uwchradd gyntaf. O ran profi pa ffactorau oedd yn gysylltiedig â pha mor dda roedd plant yn ymgyfarwyddo â’r ysgol uwchradd, roedd y plant hynny oedd â symptomau isel o anawsterau iechyd meddwl yn yr ysgol gynradd ac yr oedd eu rhieni neu athrawon yn disgwyl iddynt ymgyfarwyddo’n dda, yn tueddu i wneud yn well mewn amrywiaeth o ganlyniadau swyddogaethol erbyn diwedd yr ysgol uwchradd (yn academaidd, hoffi’r ysgol, ymddygiad yn y dosbarth, gwneud ffrindiau).”
Ychwanegodd yr Athro Graham Moore, hefyd o Ganolfan Wolfson a Phrifysgol Caerdydd “Roedd disgwyliadau athrawon ysgol gynradd yn dangos cysylltiad ag ystod eang o ddangosyddion ar gyfer pontio’n llwyddiannus. Gallai gwybod disgwyliadau’r athro ysgol gynradd ynghylch y ffordd y bydd disgybl yn pontio fod yn ddefnyddiol i alluogi gwell cefnogaeth a monitro i berson ifanc yn ystod y cyfnod addysgol hwn a all fod yn heriol. Mae holiadur byr 4 eitem ar gyfer asesu disgwyliadau rhieni ac athrawon wrth i ddisgybl bontio i’r ysgol uwchradd ar gael yn y papur.”
Gorffennodd yr Athro Rice, “Bydd yr astudiaeth yn ddefnyddiol yn ymchwil Canolfan Wolfson a bydd gwaith dan arweiniad yr Athro Simon Murphy a’r Athro Graham Moore yn parhau i archwilio’r rôl bwysig y gall ysgolion ei chwarae wrth hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol mewn disgyblion.”
Cyhoeddir y papur, Pupil Mental Health, Concerns and Expectations About Secondary School as Predictors of Adjustment Across the Transition to Secondary School: A Longitudinal Multi‑informant Study, yn Springer Nature.
Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar wefan Prifysgol Caerdydd.