Dyfynnwyd tystiolaeth DECIPHer gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i adroddiad y Comisiynydd Plant
Mae’r ddadl ar brydau ysgol am ddim yn aml yn y penawdau, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hefyd wedi bod yn bwnc ymchwil parhaus i DECIPHer – yn 2015 dangosodd ein hastudiaeth fod plant a oedd yn bwyta brecwast, ac a oedd yn bwyta brecwast o ansawdd gwell, wedi cyflawni canlyniadau academaidd uwch. Yn ogystal, o’i gymharu â’r disgyblion oedd yn mynd i’r ysgol heb gael brecwast, roedd y disgyblion oedd wedi cael brecwast ddwywaith yn fwy tebygol o wneud yn well na’r cyfartaledd o ran perfformiad addysgol. Yn 2019, cyfrannodd Dr Hannah Littlecott at drafodaeth polisi yn Nhŷ’r Cyffredin ar gynnig brecwast rhad ac am ddim mewn ysgolion.
Cafodd y pwnc sylw’r wasg eto ym mis Tachwedd eleni, gyda’r cyhoeddiad y bydd holl ddisgyblion ysgolion cynradd Cymru yn derbyn cinio ysgol am ddim o fewn tair blynedd, ar ôl cytundeb cydweithredol rhwng Llafur a Phlaid Cymru.
Roedd hyn o ganlyniad i argymhellion a wnaed yn Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2020-21, lle argymhellodd y Comisiynydd: “Rhaid i Lywodraeth Cymru gynnal ei hadolygiad o hawliau bwyd mewn ysgolion ar unwaith, i gynnwys cymhwysedd i gael cinio ysgol am ddim, a bod cymaint o blant â phosibl yn cael brecwastau ysgol, gan gynnwys y rhai sydd â’r angen mwyaf am y ddarpariaeth hon”.
Ymatebodd Llywodraeth Cymru, gan ddweud: “Mae dwy ran i’r argymhelliad hwn. Mewn perthynas â’r rhan gyntaf am ginio ysgol am ddim, rydym yn derbyn yr argymhelliad hwn. Mae ail hanner yr argymhelliad yn ymwneud â brecwast am ddim yn yr ysgol ac mae’r rhan hon o’r argymhelliad yn cael ei dderbyn mewn egwyddor.” Gan ymhelaethu ar ei hymateb ynghylch brecwastau, cyfeiriodd Llywodraeth Cymru at astudiaeth DECIPHer yn 2015: “Tystiolaeth o gysylltiadau uniongyrchol a chadarnhaol rhwng plant sy’n bwyta brecwast a chyrhaeddiad addysgol”. Parhaodd y bydd yn: “edrych ar sut [y gall] wella’r fenter brecwastau am ddim mewn ysgolion cynradd”.
Dywedodd Cyfarwyddwr DECIPHer, Simon Murphy: ‘Mae’r dyfyniad diweddar hwn o werthusiad DECIPHer o’r fenter brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd yn amlygu pwysigrwydd parhaus tystiolaeth drylwyr ar gyfer llunio polisïau.’
Gellir darllen papur 2015 ‘Cysylltiad rhwng bwyta brecwast a chanlyniadau addysgol plant 9–11 oed’ yma: https://bit.ly/3rpWZNZ