
Mae tîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, yn rhan o gonsortiwm, wedi sicrhau 3m ewro i ddatblygu ymyriadau ar gyfer teuluoedd sy’n cynnwys pobl ifanc mewn ardaloedd isel eu hadnoddau yn nwyrain Ewrop.

Mae FLOURISH (Hybu Iechyd Pobl Ifanc ac Iechyd Gydol Oes drwy Ganolbwyntio ar Deuluoedd), sy’n cynnwys ymchwilwyr ac ymarferwyr blaenllaw ledled Ewrop, gan gynnwys Awstria, Gweriniaeth Gogledd Macedonia a Gweriniaeth Moldofa, yn cael ei ariannu drwy gynllun gwarant Horizon Europe UKRI.
Nod y prosiect yw addasu, gweithredu a gwerthuso pecyn o raglenni ar gyfer pobl ifanc rhwng 10 a 14 oed, a’u rhieni, yn rhan o ddau rwydwaith iechyd yng Ngogledd Macedonia a Moldofa.
Yn y DU, mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Dr Yulia Shenderovich, Dr Rhiannon Evans a’r Athro Graham Moore o DECIPHer. Byddant yn rheoli un o saith pecyn gwaith ac yn cynrychioli Prifysgol Caerdydd sy’n un o’r pedwar sefydliad ar y pwyllgor arwain cyffredinol.
Wrth sôn am y prosiect, dywedodd Dr Shenderovich: ‘Bydd y pecyn ymyrryd yn cael ei addasu drwy ddefnyddio arbenigedd academaidd a chlinigol y tîm a gweithio gyda grwpiau cynghori pobl ifanc, rhieni, staff ymyrryd a rhanddeiliaid proffesiynol eraill.’
Cafodd FLOURISH ei sefydlu oherwydd bod pandemig COVID-19 wedi rhoi pwysau ychwanegol ar deuluoedd a phobl ifanc ledled y byd. Ymhlith y gwledydd tlotaf yn Ewrop yr effeithiwyd arnynt oedd Moldofa a Gogledd Macedonia.
Mae cau ysgolion, heriau ariannol, ansicrwydd bwyd, colli anwyliaid a’r rhyfel yn Wcráin i gyd wedi cyfrannu at gynyddu nifer y risgiau i iechyd a lles.
Bydd y pecyn ymyrryd yn adeiladu ar raglen mynediad agored Parenting for Lifelong Health.
Bydd y prosiect yn mynd rhagddo am bedair blynedd ac yn gorffen ym mis Rhagfyr 2026.
Darganfyddwch ragor am FLOURISH a’i dîm, sy’n gweithio mewn partneriaeth â UNICEF, Sefydliad Iechyd y Byd a Gweinyddiaeth Iechyd Moldofa.