Mynd i'r cynnwys
Home » Plant sy’n byw gyda rhywun â phroblemau iechyd meddwl dau draean yn fwy tebygol o wynebu anawsterau tebyg

Plant sy’n byw gyda rhywun â phroblemau iechyd meddwl dau draean yn fwy tebygol o wynebu anawsterau tebyg

 

 

Yn ôl ymchwil, mae’r risg y bydd plant yn datblygu salwch meddwl yn cynyddu’n sylweddol os ydynt wedi byw gyda rhywun sydd hefyd ag anhwylder iechyd meddwl cyffredin.

 

 

Fe wnaeth yr astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd ddangos bod plant a oedd wedi eu magu yn byw gyda rhywun ag anawsterau iechyd meddwl, 63% yn fwy tebygol o brofi math o anhawster iechyd meddwl. Mae’r rhain yn cynnwys gorbryder, iselder ysbryd, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anhwylderau personoliaeth, ymhlith rhai eraill.

Fe ddefnyddiodd ymchwilwyr gofnodion dienw o gleifion sy’n cael eu derbyn i ysbytai, yn ogystal â chofnodion meddygon teulu fu’n olrhain 190,000 o blant yn byw yng Nghymru o’u genedigaeth hyd at 15 oed. Fe gofnododd symptomau, diagnosis a thriniaethau iechyd meddwl, yn ogystal â dadansoddi materion iechyd meddwl ac anhwylderau datblygiadol fel anableddau dysgu neu ddiffyg sylw.

Yn ôl yr awdur arweiniol, Dr Emily Lowthian, a gynhaliodd yr ymchwil yng Nghanolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth ym maes Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) Prifysgol Caerdydd: “Mae ein canfyddiadau yn dangos bod salwch meddwl ac amrywiaeth eang o symptomau cysylltiedig yn brofiadau cyffredin i lawer o blant a phobl ifanc, hyd yn oed cyn dechrau’r pandemig. Dros 18 mis diwethaf y pandemig yn benodol, bydd llawer iawn o bobl wedi cael anawsterau a achosir gan unigedd, newidiadau i’w cydbwysedd bywyd-gwaith, a nifer o ffactorau eraill hefyd. Bydd y plant a’r bobl ifanc sydd heb allu mynd i’r ysgol ac sydd wedi colli profiadau pwysig eraill ymhlith y rhai sydd wedi wynebu’r heriau mwyaf.”

“Hoffem weld llunwyr polisïau yn defnyddio COVID-19 fel catalydd i ymateb i’n canfyddiadau a rhoi strategaethau cefnogi ar waith ar gyfer plant a theuluoedd yng Nghymru.”

Dr Emily Lowthian

Ychwanegodd Dr Lowthian, sydd bellach yn Swyddog Ymchwil a Gwyddonydd Data yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Abertawe: “Rydyn ni’n gwybod bod anawsterau iechyd meddwl yn ystod plentyndod yn parhau nes eu bod yn oedolion, felly mae’n hanfodol bod ymyriadau effeithiol ar waith i gefnogi pobl ifanc ar yr adeg ffurfiannol hon yn eu bywydau. Hoffem weld llunwyr polisïau yn defnyddio COVID-19 fel catalydd i ymateb i’n canfyddiadau a rhoi strategaethau cefnogi ar waith ar gyfer plant a theuluoedd yng Nghymru.”

Fe wnaeth yr astudiaeth, a ddefnyddiodd gwerth 14 mlynedd o ddata rhwng 1998 a 2012, ddangos bod cysylltiad hefyd rhwng aelodau’r teulu oedd â salwch meddwl, â chyflyrau eraill ymhlith plant fel anhwylderau personoliaeth neu fwyta.

Fe ddaeth i’r amlwg iddynt bod afiechyd meddwl ymhlith aelodau’r cartref yn gysylltiedig â chynnydd o 42% mewn anhwylderau datblygiadol, gan gynnwys anableddau dysgu neu anhwylderau diffyg canolbwyntio.

“Yn y cyfamser, nid oes amheuaeth y byddai cynnig cefnogaeth i gael mynediad at ofal iechyd da a chyfleoedd i fynd i’r afael ag anghenion iechyd meddwl yn gam i’r cyfeiriad cywir. Gallai hyn gynnwys mentrau cymunedol i feithrin gwydnwch, yn ogystal â rhaglenni mewn ysgolion neu i deuluoedd.”

Dr Rebecca Anthony

Daeth i’r amlwg yn yr astudiaeth bod plant a ddioddefodd erledigaeth fel camdriniaeth neu ymosodiad, 90% yn fwy tebygol o ddioddef problemau iechyd meddwl yn ystod plentyndod, ac roeddent 65% yn fwy tebygol o fod ag anhwylderau datblygiadol.

Fe ychwanegodd y cyd-awdur Dr Rebecca Anthony, sy’n Gydymaith Ymchwil yn DECIPHer: “Efallai bod y cysylltiadau rhwng erledigaeth ac iechyd meddwl plentyndod yn fwy dealladwy o ystyried y trawma sy’n gysylltiedig â’r profiadau hyn. Er na ddaethom o hyd i unrhyw dystiolaeth sy’n awgrymu bod profiadau’n waeth mewn mannau difreintiedig, mae angen mwy o ymchwil yn y maes hwn…”

Cyhoeddir y papur, Adverse childhood experiences and child mental health: an electronic birth cohort study, yn BMC Medicine.

Roedd yr astudiaeth yn bartneriaeth rhwng ymchwilwyr yn DECIPHer, Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, Canolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson ym Mhrifysgol Caerdydd, Ysgol Meddygaeth Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor.