Mynd i'r cynnwys
Home » SHRN yn cyflwyno i NSERE

SHRN yn cyflwyno i NSERE

 

 

 

Ar 20fed Ionawr 2021, cyflwynodd Simon Murphy Joan Roberts seminar ar y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) mewn digwyddiad ar-lein a drefnwyd gan Strategaeth Genedlaethol Ymchwil ac Ymholiad Addysgol Llywodraeth Cymru (NSERE). Dyma ddiweddariad ar hynny gan Joan, Cyfarwyddwr Gweithrediadau SHRN.

 

 

 

Joan Roberts

Roedd Simon a minnau wrth ein bodd yn cael cais i gyflwyno’r seminar hon fel rhan o raglen a drefnwyd gan Strategaeth Genedlaethol Ymchwil ac Ymholiad Addysgol Llywodraeth Cymru (NSERE). Nod NSERE yw sicrhau bod ymchwil, ymholi a thystiolaeth yn chwarae rhan ystyrlon yn natblygiad ymarfer ym mhob agwedd ar y system addysg. Mae’r seminarau wedi’u datblygu i gefnogi meithrin gallu a rhwydweithio ac maent yn agored i ymchwilwyr, ymarferwyr a llunwyr polisi.

Teitl ein cyflwyniad oedd: Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion: cefnogi ymchwil, polisi ac ymarfer yng nghyswllt iechyd a lles pobl ifanc. Buom yn siarad am sut mae SHRN yn ceisio gwella iechyd a lles pobl ifanc yng Nghymru trwy wneud y canlynol:

Darparu data iechyd a lles cadarn i ysgolion a rhanddeiliaid cenedlaethol / rhanbarthol;


Cynhyrchu tystiolaeth ymchwil newydd ar y ffordd orau i wella iechyd a lles pobl ifanc yn yr ysgol;


Helpu ysgolion, a’r rhai sy’n cefnogi ysgolion, i ddeall tystiolaeth ymchwil iechyd a sut gellir ei defnyddio mewn ysgolion.


Aethom ymlaen i archwilio sut mae pob un o’r elfennau hyn yn cefnogi datblygiadau cyffrous yn system addysg Cymru gan gynnwys Cwricwlwm CymruRhwydwaith Cynlluniau Ysgolion Iach Cymru; yr Ymagwedd Genedlaethol at Ddysgu Proffesiynol ac Ysgolion fel Sefydliadau Dysgu.

Cafodd y cyflwyniad dderbyniad da ac roeddem hefyd yn falch iawn o glywed gan ysgolion Rhwydwaith a rhanddeiliaid eraill am y gwerth y maent yn ei roi ar ein gwaith. Roedd hefyd yn fodd i gyflwyno SHRN i gynulleidfa newydd ac o ganlyniad rydym yn cwrdd ag ymarferwyr o wahanol leoliadau addysgol. Mae hyn wedi arwain at wahoddiad i gyfrannu at ddigwyddiad Mewnwelediad Polisi sy’n gysylltiedig ag Ysgolion fel Sefydliadau Dysgu.

Cysylltwch â shrn@cardiff.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.