Mynd i'r cynnwys
Home » Ymchwil » Rhaglenni » Amgylchiadau A Sefydliadau Iach » Astudio’r defnydd o Ddulliau Atal Cenhedlu Hirdymor Gwrthdroadwy (LARC) a’r ddarpariaeth ohonynt ymhlith grwpiau ‘agored i niwed’: astudiaeth dulliau cymysg

Astudio’r defnydd o Ddulliau Atal Cenhedlu Hirdymor Gwrthdroadwy (LARC) a’r ddarpariaeth ohonynt ymhlith grwpiau ‘agored i niwed’: astudiaeth dulliau cymysg

Prif Ymchwilydd


Kara Smythe


Cyd-ymchwilwyr


Gareth Thomas, Honor Young


Cefndir


Dulliau atal cenhedlu a ddefnyddir am gyfnod estynedig heb orfod ymyrryd ymhellach yw Dulliau Atal Cenhedlu Gwrthdroadwy Hirdymor (LARC). Mae’r defnydd o LARC wedi cael ei ganmol a’i annog yn eang mewn rhai poblogaethau, gan gynnwys pobl ifanc a menywod y mae plant wedi’u symud o’u gofal. Ac eto, nid oes fawr ddim gwaith empirig ar ddefnyddwyr LARC, a chyfyngedig yw’r ymgysylltiad â goblygiadau cymdeithasol, goblygiadau moesegol a goblygiadau’n seiliedig ar hawliau ar gyfer LARC, gan gynnwys torri hawliau atgenhedlol a’r potensial ar gyfer camddefnyddio a gorfodi.


Nodau ac Amcanion


Wedi’i lywio gan ddamcaniaeth ffeministaidd a chymdeithaseg atgynhyrchu, bydd y prosiect hwn yn archwilio’r defnydd o LARC a’u darpariaeth ymhlith grwpiau ‘agored i niwed’.


Cynllun yr Astudiaeth


Drwy ddefnyddio dull cymysg – sef dadansoddiad meintiol o setiau data presennol a chyfweliadau lled-strwythuredig gyda defnyddwyr LARC, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, sefydliadau trydydd sector, arbenigwyr iechyd rhywiol, a llunwyr polisi – bydd y prosiect yn archwilio defnydd a phrofiadau defnyddwyr LARC, yn nodi’r rhwystrau a’r hwyluswyr i gyflwyno a darparu, ac yn datblygu canllawiau arfer gorau.


Rhagor o wybodaeth a chyhoeddiadau


I ddilyn

Dyddiad dechrau


01/10/2023

Dyddiad gorffen


30/10/2026

Arianwyr


DTP ESRC Cymru / LlC

Swm


£60,300