Mynd i'r cynnwys
Home » Darganfod pa nodweddion y gellir eu haddasu yn yr amgylchedd adeiledig sy’n cefnogi iechyd a lles meddyliol y glasoed

Darganfod pa nodweddion y gellir eu haddasu yn yr amgylchedd adeiledig sy’n cefnogi iechyd a lles meddyliol y glasoed

Cefndir


Mae salwch meddwl a lles meddyliol gwael yn argyfwng iechyd cyhoeddus byd-eang. Yng Nghymru, mae gan un ym mhob deg o blant rhwng 5 a 16 oed broblem iechyd meddwl, ac mae 7% o gyllid y GIG yng Nghymru’n cael ei wario ar drin salwch meddwl ymhlith y glasoed (2017-2018). Mae mwy a mwy o dystiolaeth bod agweddau ar ein cymdogaethau sy’n cefnogi neu sy’n gwneud niwed i iechyd meddwl oedolion, ond mae’r dystiolaeth ar gyfer y glasoed yn brin. Gallai gwneud newidiadau yn ein cymdogaethau sy’n cefnogi iechyd meddwl (fel mannau lle gallwch fod yn gorfforol egnïol, neu fannau tawel sy’n hyrwyddo lles meddyliol) fod o fudd i nifer fawr o bobl ac arwain at well iechyd meddwl ymhlith y glasoed.


Nodau ac Amcanion


Bydd yr astudiaeth hon yn ymchwilio i’r cysylltiadau rhwng agweddau ar yr amgylchedd adeiledig ac iechyd meddwl y glasoed (10-19 oed). Bydd yn gwneud hyn er mwyn darganfod pa agweddau salutogenig ar yr amgylchedd adeiledig y gellir eu haddasu fwyaf, a hynny er mwyn rhoi gwybod i gynllunwyr y llywodraeth a’r awdurdodau lleol yng Nghymru a gwerthuso ymyriadau. Bydd yr astudiaeth yn ystyried sut mae’r cysylltiadau’n amrywio yn ôl rhanbarth drefol/gwledig, rhyw, oedran, ethnigrwydd a statws economaidd-gymdeithasol.


Diwyg yr Astudiaeth


Yn rhan o’r astudiaeth cysylltu cofnodion arhydol a meintiol hon, byddaf yn defnyddio uwch-dechnegau modelu systemau gwybodaeth ddaearyddol a chofnodion iechyd electronig presennol i werthuso effaith yr amgylchedd adeiledig ar iechyd meddwl y glasoed. Drwy ddefnyddio setiau o ddata gweinyddol sy’n cael ei gasglu’n rheolaidd (e.e. drwy archwiliadau llywodraeth leol), data asiantaethau mapio a data arsylwi’r Ddaear, byddaf yn creu mesurau wedi’u teilwra i’r glasoed ar gyfer nodweddion penodol yn yr amgylchedd adeiledig (e.e. parciau, mannau gwerthu alcohol, cyfleusterau chwaraeon, llygredd). Byddaf yn cysylltu’r mesurau hyn â data iechyd, demograffeg ac arolwg di-enw mewn mannau cysylltu data diogel yng Nghymru (banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw, drwy Lwyfan Data’r Glasoed) a Toronto (Sefydliad y Gwyddorau Gwerthusol Clinigol (ICES)). Byddaf yn ystyried p’un a yw nodweddion allweddol yn yr amgylchedd adeiledig yn cael effaith ar iechyd meddwl y glasoed sy’n byw yng Nghymru a Toronto (Canada). Bydd mesurau wedi’u cysoni a’u haddasu yn ôl eu cyd-destun yn cael eu cysylltu â data iechyd yng Nghymru a Toronto er mwyn dangos ym mhle y gellir cyffredinoli ac ym mhle y dylid ymyrryd neu roi polisïau wedi’u teilwra ar waith.


Rhagor o wybodaeth a chyhoeddiadau


I ddod


Dyddiad dechrau


Mawrth 2022

Dyddiad gorffen


Chwefror 2025

Arianwyr

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Swm


£310,386.07