Beth yw’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion?
Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (y Rhwydwaith) yn dwyn ynghyd ysgolion uwchradd ac ymchwilwyr academaidd, llunwyr polisïau ac ymarferwyr o feysydd iechyd, addysg a gofal cymdeithasol i wella iechyd a lles pobl ifanc yn amgylchedd yr ysgol. Mae’n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymchwil Canser y DU a Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru. DECIPHer sy’n ei arwain.
SUT mae’r Rhwydwaith yn gweithio?
Mae ysgolion y rhwydwaith yn ateb Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr, electronig, dwyieithog, bob dwy flynedd. Mae’r arolwg wedi’i seilio ar Arolwg cydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd, Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol, fel y gellir integreiddio’r ddau arolwg bob pedair blynedd; yn cyd-fynd â’r arolwg hwn y mae Holiadur Amgylchedd yr Ysgol, sy’n caniatáu am ymchwilio i’r berthynas rhwng polisïau ac arferion ysgolion ac iechyd myfyrwyr. Datblygir cwestiynau mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid allweddol mewn ysgolion, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru.
Mae’r Rhwydwaith yn gweithio trwy:
- Ddarparu data trylwyr ar iechyd a lles i ysgolion ac i randdeiliaid rhanbarthol a chenedlaethol;
- Gweithio gyda llunwyr polisïau ac ymarferwyr o feysydd iechyd, addysg a gofal cymdeithasol er mwyn cyd-gynhyrchu ymchwil o ansawdd uchel i iechyd a lles, mewn ysgolion, i Gymru;
- Hwyluso trosi tystiolaeth ymchwil i iechyd a lles mewn ysgolion yn ymarfer;
- Meithrin gallu i ymarfer ar sail tystiolaeth yng nghymuned iechyd ysgolion
I ddarllen am y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn fanylach, cliciwch yma neu ewch i wefan y Rhwydwaith.
EFFAITH
Ysgol
Mae’r Rhwydwaith wedi llwyddo i recriwtio 100 y cant o’r ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn aelodau, felly mae wedi gwreiddio’i hun yn y system gwella iechyd mewn ysgolion ar y lefel leol.
Rhanbarthol
Cafodd Adroddiadau ar Iechyd a Lles Myfyrwyr, ar lefel yr Awdurdod Lleol, eu rhyddhau am y tro cyntaf yn 2018, yn dilyn galw yn lleol am ddata’r Rhwydwaith. Mae’r adroddiadau hyn wedi’u rhannu’n helaeth ymhlith timau gwasanaethau iechyd ac addysg lleol. Gallwch lawrlwytho enghraifft o adroddiad Awdurdod Lleol yma.
Cenedlaethol
Mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio data’r Rhwydwaith at ddiben cynllunio a monitro polisi cenedlaethol, gan gynnwys polisïau allweddol yn gysylltiedig â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a diwygio’r cwricwlwm cenedlaethol.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi integreiddio’r SHRN yn llwyr i ddatblygiad ei Gynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru (WNHSS) ac i werthuso’r rhain.
Mae data o arolygon y Rhwydwaith ac ymchwil ddilynol wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol. Dyma rai enghreifftiau o’r ffyrdd y defnyddiwyd ei ymchwil:
- Adroddiad Cadernid Meddwl 2018 Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Adroddiad Llesiant Cymru 2017-18 Llywodraeth Cymru
- Ymateb Comisiynydd Plant Cymru i Hynt y gwaith gan Lywodraeth Cymru wrth ddatblygu Cwricwlwm newydd Cymru
- Cynllun Cyflawni Cymru ar Reoli Tybaco 2017-2020 Llywodraeth Cymru
Y DU a Rhyngwladol
Aeth yr Athro Simon Murphy a phartneriaid y Rhwydwaith yn Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyfarfodydd Sefydliad Iechyd y Byd yn Copenhagen yn 2018 a 2019 i gyfrannu at gynllunio rhwydwaith iechyd ysgolion peilot, Ewrop gyfan.
Mae SHRN wedi bod yn allweddol wrth gefnogi rhwydwaith SHINE yn yr Alban, sef cydweithrediad ymchwil rhwng Prifysgol Glasgow a Phrifysgol St Andrews. Mae SHINE yn fodel peilot seiliedig ar seilwaith SHRN.
Mae gwybodaeth fanylach am effaith SHRN i’w chael ar wefan SHRN.