Sut cafodd lles pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru ei gefnogi yn ystod pandemig y Coronafeirws?
Mae pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal yn fwy tebygol o ddioddef lles gwael ac afiechyd meddwl. Ceir amrywiaeth o raglenni a gwasanaethau sy’n anelu at gynnig cymorth, ond mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb.
Bu i bandemig y Coronafeirws a’i gyfyngiadau cysylltiedig olygu bod angen symud o’r rhyngweithio wyneb yn wyneb hyn i fathau o ymgysylltu o bell a oedd yn dibynnu ar gyswllt dros y ffôn neu ar-lein. Cafodd hyn ganlyniadau o ran math ac amlder y gwasanaethau ac ymyriadau iechyd meddwl a lles a oedd ar gael i blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, a’u gofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau.
Ariannwyd yr astudiaeth hon gan Rwydwaith TRIUMPH ac roedd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn rhan ohoni ynghyd â Voices from Care Cymru a’r Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC), Swyddfa Prif Wyddonydd Llywodraeth yr Alban (CSO), Uned Iechyd Cymdeithasol a Chyhoeddus, a phartneriaid o’r Rhwydwaith Maethu yng Nghymru. Archwiliodd yr astudiaeth, y farn ynghylch, a’r profiadau o’r, ddarpariaeth iechyd meddwl a lles ar-lein, ymhlith pobl ifanc, gofalwyr a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yng Nghymru yn ystod pandemig y Coronafeirws. Trafododd y cyfranogwyr gryfderau a heriau gwasanaethau ar-lein ac wyneb yn wyneb gan gynnig argymhellion ar gyfer ymarfer ac ymyriadau yn y dyfodol.
Dangosodd canfyddiadau’r astudiaeth rai o fanteision gwasanaethau ac ymyriadau iechyd meddwl a lles ar-lein ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, gan gynnwys hygyrchedd, preifatrwydd a gallu ymgysylltu neu ymddieithrio o bell heb bwysau rhyngweithio wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, nodwyd bod hygyrchedd, diffyg preifatrwydd a fformat rhyngweithio ar-lein, hefyd yn rhai o heriau ynghlwm wrth fathau o gyswllt o bell. Felly, roedd manteision ac anfanteision cyswllt ar-lein o’u cymharu â chyswllt wyneb yn wyneb, yn gymhleth ac yn cydblethu.
Mae angen i bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal gael eu hystyried yn unigolion a chael dewis yr ymyriadau iechyd a lles sy’n cefnogi eu hanghenion a’u gofynion penodol hwy, orau.
Mae’r cymhlethdod hwn yn adlewyrchu’r pwynt pwysig nad yw plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn rhan o grŵp unffurf. Yn hytrach, mae angen i bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal gael eu hystyried yn unigolion a chael dewis yr ymyriadau iechyd a lles sy’n cefnogi eu hanghenion a’u gofynion penodol hwy, orau. Roedd adroddiad yr astudiaeth yn cynnig argymhellion mewn chwe maes allweddol, ymchwil; hyfforddiant; ymwybyddiaeth a mynediad; adnoddau; dewisiadau a hyblygrwydd; diogelwch, ac amddiffyn a risg. Nod canfyddiadau’r adroddiad hwn yw cefnogi’r gwaith o wella gwasanaethau ac ymyriadau o bell ac wyneb yn wyneb i gefnogi iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, wrth i ni symud y tu hwnt i gyfyngiadau pandemig y Coronafeirws.
Os oes gennych ddiddordeb mewn canfod rhagor am yr astudiaeth hon, gallwch lawrlwytho a darllen yr adroddiad llawn: Lawrlwytho’r adroddiad
Mannay, D., Boffey, M., Cummings, A., Cunningham, E., Davies, B, Stabler, L., Vaughan, R., Wooders, C. ac Evans, R. 2022. Y cryfderau a’r heriau sy’n gysylltiedig â gwasanaethau ac ymyriadau ar-lein i gynorthwyo iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal: Astudiaeth yn archwilio barn pobl ifanc, gofalwyr a gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol yng Nghymru yn ystod pandemig y Coronafeirws. Caerdydd: Y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru.
Cyhoeddwyd hwn gyntaf gan https://www.exchangewales.org/cy/teulu-a-chymuned/