Prif Ymchwilydd
Dr Hannah Littlecott
Cefndir
Er bod mynychder ysmygu yn gyffredinol yn y DU wedi gostwng, mae cyfraddau ysmygu wedi gostwng yn gyflymach mewn grwpiau mwy cefnog ac mae anghydraddoldeb wedi bodoli. Mae’n bosibilrwydd credadwy, felly, y gall dylanwad posibl ysgolion ar nifer y bobl ifanc sy’n dechrau ysmygu amrywio yn ôl statws economaidd-gymdeithasol (SES).
Yn ystod llencyndod mae cyfoedion yn dod yn brif ffynhonnell o ran dylanwad cymdeithasol, ac yn cymryd lle rheini (12). Hyd yn hyn, mae ymchwil wedi dangos defnyddioldeb dadansoddi rhwydweithiau cymdeithasol i ddod o hyd i gysylltiad rhwng dylanwad cyfoedion ac ysmygu tybaco. Fodd bynnag, mae’r ddealltwriaeth gyfredol o’r lledaenu cymdeithasol sy’n digwydd yn yr ysgol wedi fframio prosesau rhwydweithiau cymdeithasol i raddau helaeth fel pe baent yn gyffredinol ar draws ysgolion, gan esgeuluso ymgorffori dylanwadau cyd-destunol, megis SES a normau ysmygu, polisïau ysmygu ac arferion ysmygu amrywiol.
Nodau ac Amcanion
Profi dylanwad prosesau lledaenu cymdeithasol ar y nifer o bobl ifanc sy’n dechrau ysmygu yng nghymdeithas gyfoes y DU, gan ganolbwyntio ar sut mae’r prosesau hyn yn amrywio yn ôl cyd-destunau economaidd-gymdeithasol a normau ysmygu ar lefel ysgol.
Diwyg yr Astudiaeth
Cam 1: Adolygiad systematig
Adolygiad systematig sy’n defnyddio dulliau cymysg i ddeall rôl prosesau lledaenu cymdeithasol mewn ysgolion a’u dylanwad ar ysmygu ymysg pobl ifanc, gyda ffocws penodol ar sut mae’r rhain yn amrywio dros amser yn unol â dadnormaleiddio ysmygu, ac yn ôl statws economaidd-gymdeithasol.
Cam 2: Dadansoddi rhwydweithiau cymdeithasol
Dadansoddi rhwydweithiau cymdeithasol gan ddefnyddio arolwg ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 10 (14-15 oed) mewn 20 ysgol i ddeall gyda phwy maen nhw’n ffrindiau a sut mae hyn yn cysylltu â’u hymddygiad o ran ysmygu.
Cam 3: Cyfweliadau
Cyfweliadau ansoddol gyda myfyrwyr i gael dealltwriaeth fanwl o’r ffyrdd y gall rhyngweithio rhwng myfyrwyr arwain at wahanol brosesau o ledaenu cymdeithasol o ran ysmygu mewn ysgolion a rhyngddynt.
Cam 4: Integreiddio data
Integreiddio canlyniadau o gamau 1-3 gan ddefnyddio dadansoddi traws-achos. Bydd patrymau a themâu posibl a allai esbonio’r amrywiad o ran lledaenu ysmygu yn gymdeithasol ar draws gwahanol gyd-destunau ysgol, yn cael eu harchwilio.
Rhagor o wybodaeth a chyhoeddiadau
Arweinir y Gymrodoriaeth Ôl-ddoethurol Ymchwil i’r Boblogaeth hon gan y Doctor Hannah Littlecott yn DECIPHer ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda chymorth mewnol gan y Doctor Jemma Hawkins a’r Athro Graham Moore a chan y Doctor Mark McCann yn Uned Gwyddorau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus yr MRC/CSO ym Mhrifysgol Glasgow.
Mae aelodau’r bwrdd cynghori fel a ganlyn:
Suzanne Cass (ASH Cymru)
Ashley Gould (Iechyd Cyhoeddus Cymru)
Yr Athro Laurence Moore (Prifysgol Glasgow)
Doctor Mark McCann (Prifysgol Glasgow)
Doctor G.J Melendez Torres (Prifysgol Caerwysg)
Fiona Dobbie (Prifysgol Stirling)
Doctor Liesbeth Mercken (Prifysgol Maastricht)
Doctor Eva Rehfuess (Prifysgol Munich)
Dyddiad dechrau
Chwefror 2019
Dyddiad gorffen
Chwefror 2022
Arianwyr
Ymchwil Canser y DU (CRUK)