I nodi 15 mlynedd o DECIPHer, fe wahoddwyd cydweithwyr a phartneriaid i ddathlu yn SBARC.
The celebration, held on 21st January 2025, brought together 100 guests from public health, Social Sciences and Welsh Government. It provided an opportunity to listen to talks from DECIPHer staff and collaborators, to reflect on DECIPHer’s journey and to connect (or reconnect) with DECIPHer associates.
Dyma rai uchafbwyntiau o’r digwyddiad:
Cawsom air gyda Simon Murphy am hanes datblygiad DECIPHer, o’’r bartneriaeth traws golegol wedi’i hariannu gan UKCRC, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bryste yn 2009, i’r bartneriaeth bresennol gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi’i hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Rhannodd yr Athro Ashley Adamson ei myfyrdodau gan y Bwrdd Cynghori Gwyddonol, gan ddweud ‘bod angen symud y tu hwnt i gynhyrchu rhagor o dystiolaeth well’. Rhai o’r blaenoriaethau oedd datblygu’r gweithlu ymchwil iechyd y cyhoedd, a manteisio ar ffurfio gwaith ar y cyd amlddisgyblaethol. Siaradodd hi hefyd am lwyddiannau DECIPHer yn y meysydd hyn, gan grynhoi gyda’r arwyddair ‘15 ac yn ffynnu’.
Dywedodd y Doctor Julie Bishop bod tair elfen allweddol o lwyddiant DECIPHer. Rhoi amser i ddatblygu partneriaethau ym maes polisi ac arfer; gan ganolbwyntio ar effaith a dull trawsddisgyblaethol y tu hwnt i’r byd academaidd.
Bu Sophie Jones, ynghyd ag aelodau ALPHA, Elanna Fox, Huw Clements a Cerys Owen, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae ALPHA’n gweithio a dangos fideo eglurhaol diddorol. Yna, bu’r aelodau’n trafod yn frwdfrydig am eu profiadau o ALPHA, a’r ffyrdd y mae bod yn aelodau wedi bod o fudd iddyn nhw, o roi hwb i’w hyder i lywio eu profiadau gyrfa.
Bu’r Doctor Chris Roberts yn myfyrio ar ei 15 mlynedd o ymchwil ar y cyd gyda DECIPHer, gan dynnu sylw at werthuso cyfres o ymyriadau polisi cymhleth yng Nghymru, gan gynnwys y ddarpariaeth brecwast am ddim i ysgolion cynradd; y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) a effaith DECIPHer ar bolisi tybaco yng Nghymru. Tynnodd sylw hefyd at gynnydd sylweddol y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN); gan nodi ei lwyddiannau ddeng mlynedd ar ôl y gwaith peilot cychwynnol.
Rhannodd yr Athro Tom Hall ei sylwadau ar bump o’r cyfraniadau pennaf DECIPHer i’r Brifysgol a’r Gwyddorau Cymdeithasol: ariannol (ceisiadau, cyllid); addysgu; gan ychwanegu at y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF); meithrin gallu (dilyniant gyrfa) a chyfrannu at y gymdeithas ehangach (hyrwyddo dyletswydd ddinesig).
Yn olaf, bu’r Athro Graham Moore yn trafod y datblygiadau nesaf gyda DECIPHer – ac ystyried camau cyllid newydd a datblygiadau ar gyfer y dyfodol. Tynnodd sylw hefyd at bartneriaethau rhyngwladol allweddol gan gynnwys FLOURISH ac IMPACT Salud a meysydd o gryfderau ymchwil cyfredol gan gynnwys iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, trais ac iechyd rhywiol.
Bu’r Athro Damian Walford Davies yn rhoi terfyn ar y digwyddiad gyda cherdd – diwedd priodol i ddathliad difyr iawn.
D @ 15:
DECIPHer: I’ve always read it
as a pun –announcing how you crack the code
of wicked problems
in your complex systems’
labyrinths;but also how you intercede
in budding lives
and blossoming relations,
ensuring no child’s just a cipher
(null, nix, nada, zero, zip, or zilch) –all the data coming down
to something we might
on your birthday
justly class as love.
Gellir lawrlwytho llyfryn y digwyddiad yma: